Daeth yr ymgynghoriad i ben 20 Ionawr 2023.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym yn awyddus i gael eich barn am sut i gyflwyno’r newidiadau angenrheidiol er mwyn rhoi’r Ddyletswydd Ansawdd ar waith.
Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 319 KB

Dogfen ymgynghori - hawdd ei ddeall , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

Canllawiau Statudol Dyletswydd Ansawdd 2023 a Safonau Ansawdd 2023 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 584 KB
Gwybodaeth ychwanegol
Mae'r Ddyletswydd Ansawdd yn golygu bod dyletswydd ar sefydliadau’r GIG a Gweinidogion Cymru i wneud y canlynol:
- Creu diwylliant o ansawdd mewn sefydliadau.
- Canolbwyntio ar wella ansawdd gwasanaethau a chanlyniadau iechyd i'r boblogaeth yn barhaus.
- Mynd ati i fonitro’r cynnydd o ran gwella, a rhannu'r wybodaeth hon â’u poblogaeth fel trefn arferol.
Rydym yn ymgynghori ar:
Sut y byddwn yn cyflwyno'r Ddyletswydd Ansawdd i sefydliadau'r GIG a Gweinidogion Iechyd Cymru drwy ganllawiau statudol newydd.
Gwyliwch ein fideo am y Ddyletswydd Ansawdd.