Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad o flaenoriaethau strategol ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil ac arloesi

Cyhoeddir y datganiad hwn o flaenoriaethau strategol ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil ac arloesi gan Weinidogion Cymru fel sy'n ofynnol o dan adran 13 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 ("y Ddeddf"). Bydd y datganiad hwn yn parhau i fod yn weithredol hyd nes y caiff ei ddiwygio neu ei ddisodli.

Mae'n ofynnol i'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil ("y Comisiwn") baratoi cynllun strategol sy'n nodi sut y bydd yn mynd i'r afael â'r blaenoriaethau hyn a sut y bydd yn cyflawni'r dyletswyddau strategol a roddir iddo o dan y Ddeddf. Wrth baratoi'r cynllun, rhaid i'r Comisiwn ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae'n eu hystyried yn briodol a rhaid cyflwyno'r cynllun i Weinidogion Cymru ei gymeradwyo. Mae dyletswydd ar y Comisiwn i gyhoeddi ei gynllun cymeradwy a chymryd pob cam rhesymol i'w weithredu.

Y blaenoriaethau strategol 

Datblygu system drydyddol sy'n paratoi dysgwyr ar gyfer economi ddeinamig a chyfnewidiol lle gall pob un gaffael y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt er mwyn llwyddo mewn bywyd a gwaith

Archwilio sut y gellir ehangu dysgu hyblyg ar draws darparwyr fel ei fod ar gael yn ehangach, a'r seilwaith y byddai ei angen i wireddu hyn.

Adolygu'r gwaith o gynllunio a threfnu addysg oedolion yng nghyd-destun adran 94 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil 2022 i ganfod sut y gellir gwella dysgu hyblyg ar draws darparwyr gyda'r bwriad o sicrhau'r cyfraddau cyfranogi uchaf posibl gan oedolion, gan gydbwyso manteision cymdeithasol ac economaidd y ddarpariaeth honno ynghyd â'r seilwaith sydd ei angen i wireddu hyn.

Cadarnhau sut y dylid cynnig darpariaeth sgiliau sylfaenol yn y dyfodol a datblygu cynllun i wella caffael sgiliau sylfaenol ar draws poblogaeth oedolion Cymru. 

Sicrhau bod data cywir, perthnasol ac amserol yn cael eu defnyddio i nodi nifer y dysgwyr mewn addysg bellach ran-amser, addysg gymunedol i oedolion, prentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith, ac i roi manylion am ehangder a math y ddarpariaeth honno. Yn ogystal, canfod sut y gellid mesur deilliannau dysgwyr i sicrhau bod yr hyn a ddysgwyd wedi cael effaith gadarnhaol ar eu dyfodol.

Archwilio'r cyfleoedd a'r rhwystrau sy'n codi ar gyfer trosglwyddo credydau ar draws y system drydyddol, ac ystyried sut y gellir mynd i'r afael â hyn gan gynnwys sut i ymgorffori cydnabyddiaeth o ddysgu blaenorol er mwyn helpu dysgwyr i symud drwy'r sector trydyddol.          

Cynnal a gwella ansawdd y system drydyddol, parhau a dwysáu gwaith ar ehangu cyfranogiad a chymryd camau i sicrhau system fwy teg a rhagorol i bawb

Gosod targedau uchelgeisiol sy'n anelu at safonau uchel, gan aros o fewn safonau ansawdd rhyngwladol i gynnal enw da'r system drydyddol yn rhyngwladol a chydnabod y rôl y mae cyrff eraill yn ei chwarae wrth wella ansawdd y system drydyddol.

Meddu ar ddull o wella ansawdd sy'n cydnabod amrywiaeth y ddarpariaeth a chymryd camau cadarn lle nad yw gofynion sylfaenol o ran ansawdd yn cael eu bodloni, gan ystyried bob amser sut y gellid gwella profiad y dysgwr trwy bartneriaeth a chydweithio. 

Defnyddio data i nodi anghydraddoldebau yn y system drydyddol a chyflwyno ymateb a fydd yn cynnwys gosod targedau a chamau gweithredu uchelgeisiol ar gyfer darparwyr i leihau'r annhegwch o ran mynediad at addysg drydyddol, cynyddu amrywiaeth y myfyrwyr sy'n cael eu derbyn pan fo hynny'n isel a lleihau bylchau mewn cyrhaeddiad. 

Rhoi'r dysgwr wrth wraidd y system drwy ganolbwyntio ar brofiad dysgwyr yn y system drydyddol a'u llesiant

Ymateb i waith polisi parhaus gan Lywodraeth Cymru ar lwybrau dysgwyr a gwneud gwaith ymchwil i sicrhau eu bod wedi'u trefnu'n fwy strategol.

Sicrhau bod yr holl lwybrau sy'n arwain at a thrwy'r system drydyddol yn glir fel bod dysgwyr yn gallu gwneud dewisiadau gwybodus am y llwybr gorau iddynt, datblygu cynlluniau i gryfhau'r parch cydradd rhwng llwybrau galwedigaethol ac academaidd a sicrhau bod llwybrau at fathau hyblyg o ddysgu ar gyfer caffael sgiliau yn glir. 

Sicrhau bod llais y dysgwr yn chwarae rhan ganolog yng ngwaith y Comisiwn a chanolbwyntio ar wella ymgysylltiad dysgwyr mewn addysg bellach a hyfforddiant, darpariaeth chweched dosbarth, prentisiaethau a darpariaeth addysg oedolion drwy lunio'r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr.

Creu fframwaith cyffredin ar gyfer cymorth iechyd meddwl a llesiant ar draws addysg drydyddol a helpu darparwyr i ymgorffori hyn yn eu polisïau a'u harferion fel bod dysgwyr yn cael cefnogaeth gyson gan wasanaethau iechyd meddwl y darparwyr, cyn belled ag y bo hynny'n ymarferol, a'u bod yn gwbl glir ar yr hyn y gallant ei ddisgwyl, fan leiaf, gan eu darparwyr yn y maes hwn.

Creu'r amgylchedd i ddarparwyr addysg wneud cynnydd o ran gwella cydlyniant rhwng y gwasanaethau a ddarperir a gwasanaethau gofal iechyd. Canfod a all yr amod cofrestru a chyllido newydd gyflawni hyn. 

Datblygu cynllun i gynyddu a gwella'r ddarpariaeth addysg ac asesu cyfrwng Cymraeg yn y system drydyddol gyfan, a'i hyrwyddo, gan gydnabod rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel y person dynodedig o dan Adran 9 o Ddeddf 2022 a Cymwysterau Cymru fel y rheoleiddiwr cymwysterau annibynnol. Mae hyn yn rhan allweddol o'r llwybr di-dor i ddysgwyr at yr addysg drydyddol o'u dewis.

Sicrhau bod y system addysg drydyddol yn cyfrannu at yr economi a'r gymdeithas

Hyrwyddo cydweithio i hybu rhagoriaeth mewn ymchwil ac arloesi fel sy'n ofynnol o dan adran 6 o'r Ddeddf a datblygu mesurau ar gyfer perfformiad ymchwil fel bod yr allbynnau'n diwallu anghenion y wlad. 

Datblygu diwylliant o arloesi a chydweithio gyda busnesau, buddsoddwyr diwydiant a llywodraeth ar waith yn seiliedig ar genhadaeth sy'n cyfrannu at yr economi a'r gymdeithas.

Hyrwyddo datblygiad pellach o weithgareddau cenhadaeth ddinesig fel y'i diffinnir yn adran 10(3) o'r Ddeddf, a sicrhau bod sefydliadau'n dysgu oddi wrth ei gilydd er budd cymdeithas ddinesig ac er mwyn bod yn aelodau gwerthfawr o'u cymunedau lleol.

Datblygu cysylltiadau cryf â busnesau a diwydiant, Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol a Gyrfa Cymru er mwyn deall gwybodaeth allweddol am y farchnad lafur, gan ddefnyddio'r wybodaeth honno a data eraill i ddylanwadu ar y system sgiliau a, drwy weithio gyda Cymwysterau Cymru, cymwysterau galwedigaethol.

Creu amgylchedd lle mae darparwyr yn cael eu hannog i gydweithio â chyflogwyr i sicrhau bod y ddarpariaeth o ansawdd uchel ac yn diwallu anghenion yr economi a'r gymdeithas.

Sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil fel sefydliad hynod effeithiol sy'n darparu sefydlogrwydd ac arweinyddiaeth yn ystod y cyfnod hwn o newid

Creu sefydliad sy'n gweithredu'n effeithlon gyda diwylliant o arloesi, partneriaeth gymdeithasol ac arweinyddiaeth sy'n datblygu ac yn adeiladu ei berthynas â sefydliadau partner allweddol ac yn deall ei le a'i rôl yn y dirwedd addysg, sgiliau ac economaidd ehangach.

Datblygu systemau cadarn, effeithlon a symlach o gasglu a dadansoddi data sy'n lleihau biwrocratiaeth i ddarparwyr. Sicrhau y bydd y systemau hyn yn darparu dealltwriaeth gadarn o'r system drydyddol yn ei chyfanrwydd yn ogystal â'i sectorau a'i darparwyr cyfansoddol gan alluogi'r Comisiwn i ddod yn awdurdod ar y system drydyddol gyda goruchwyliaeth unedig sy'n canolbwyntio ar gynnydd yn erbyn deilliannau hirdymor.

Sefydlu systemau ar gyfer monitro, rheoli a gwella perfformiad y system drydyddol, gan gynnwys sicrhau bod yr hyn a ddysgwyd wedi cael effaith gadarnhaol ar ddyfodol dysgwyr. Ystyried sut y gellir defnyddio'r data deilliannau hyn i lywio dyraniadau cyllid yn y dyfodol. 

Gweithredu fel rheoleiddiwr sy'n seiliedig ar risg, gan ymgorffori canllawiau'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar reoleiddio effeithiol a sicrhau ansawdd a chynaliadwyedd ariannol y system addysg drydyddol, gan sefydlu dulliau cyfathrebu da a mabwysiadu dull rheoli perthynas i weithio gyda darparwyr a lledaenu arfer da.

Defnyddio'r pwerau cyllido ar gyfer cyfeiriad strategol y system i sicrhau bod y ddarpariaeth yn gynhwysfawr ac yn cael ei rhoi ar waith mewn ffordd arloesol, gan leihau dyblygu drwy annog darparwyr i wahaniaethu eu hunain er mwyn dangos eu cryfderau. Bydd hyn yn cynnwys archwilio'r defnydd o gyllid sy'n seiliedig ar ddeilliannau ar sail dulliau darparu cydweithredol.