Cafodd cyfyngiadau ar gadw adar yng Nghymru eu datgan ar 23 Tachwedd 2026.
Dogfennau
Datganiad parth atal ffliw adar Cymru gyfan: 23 Tachwedd 2026 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 550 KB
Manylion
O hanner dydd ar 23 Tachwedd, bydd mesurau tai gorfodol yn cael eu cyflwyno yng Nghymru fel rhan o'r Parth Atal Ffliw Adar. O'r dyddiad hwn:
- bydd yn ofyn cyfreithiol i bob ceidwad sy'n cadw mwy na 50 o adar o unrhyw rywogaeth gadw ei adar dan do.
- bydd heidiau o lai na 50 o adar o unrhyw rywogaeth yn gorfod cael eu cadw dan do hefyd os yw eu hwyau neu eu cynhyrchion yn cael eu gwerthu neu eu rhoi i ffwrdd
- bydd gofynion bioddiogelwch ychwanegol hefyd yn cael eu cyflwyno ar gyfer y sector adar hela
Datganwyd Parth Atal Ffliw Adar ledled Cymru gyfan o hanner dydd ddydd Llun 16 Tachwedd 2026. Bydd y parth yn aros yn ei le nes bod gostyngiad mewn lefelau risg yn dangos nad oes angen iddo mwyach.
Mae'r parth hwn yn cyflwyno mesurau bioddiogelwch llym i bob ceidwad adar i helpu i atal lledaeniad ffliw adar o adar gwyllt neu unrhyw ffynhonnell arall. Mae'r rhain yn cynnwys:
- cwblhau'r rhestr wirio hunanasesu bioddiogelwch gorfodol
- cymryd camau i osgoi halogiad firws o fewn a rhwng safle
- cadw cofnodion ar gael ar alw am symudiadau adar, marwolaeth a gwaredu
- cyfyngiadau ar symud adar hela gwyllt a ddaliwyd yn ystod y tymor agored
