Datganiad Polisi Caffael Cymru drafft
Sut rydym yn disgwyl i gyrff y sector cyhoeddus wrth wneud gwaith caffael.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Caffael cyhoeddus yw un o'r arfau mwyaf pwerus sydd gennym i lunio'r Gymru yr ydym am ei gweld.
Bob blwyddyn, mae tua thraean o holl arian cyhoeddus Cymru yn cael ei wario ar gaffael y nwyddau, y gwasanaethau a'r gwaith sy'n cadw ein cymunedau i redeg, o ysgolion ac ysbytai i drafnidiaeth, tai, gofal, gwasanaethau digidol a seilwaith mawr. Rhaid i'r gwariant hwnnw wneud mwy na phrynu'r hyn sydd ei angen heddiw - rhaid iddo helpu i adeiladu'r economi, y gwasanaethau a'r cyfleoedd sydd eu hangen ar Gymru ar gyfer y dyfodol.
Mae Datganiad Polisi Caffael Cymru (DPCC) yn nodi gweledigaeth strategol glir ar gyfer sut y gall caffael cyhoeddus gefnogi'r uchelgais honno. Mae'n gosod caffael wrth wraidd cyflawni nid fel proses swyddfa gefn, ond fel dull ysgogi ar gyfer datblygu economaidd, gwasanaethau cyhoeddus cryfach, gwaith teg, cadwyni cyflenwi gwydn a chynaliadwy a chanlyniadau gwell i bobl a chymunedau ledled Cymru.
Ein huchelgais yw defnyddio gwariant cyhoeddus Cymru i ddarparu mwy o werth i Gymru. Mae hynny'n golygu cefnogi cadwyni cyflenwi lleol a rhanbarthol cryfach, helpu busnesau Cymru i gystadlu, creu cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig, a sicrhau bod mwy o'r gwerth a gynhyrchir drwy gontractau cyhoeddus yn cael ei gadw yng Nghymru. Mae hefyd yn golygu defnyddio caffael i yrru arloesedd, gwella llesiant a chyfrannu at economi gryfach, decach a mwy cynaliadwy.
Mae cynaliadwyedd yn ddisgwyliad trawsbynciol o ran y DPCC hwn. Dylai Awdurdodau Contractio Cymru ddefnyddio caffael i gefnogi sero net, lleihau gwastraff, cymhwyso egwyddorion economi gylchol, ystyried costau oes gyfan ac effeithiau carbon, a diogelu'r amgylchedd naturiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae'r DPCC hwn yn cefnogi'r Rhaglen Lywodraethu drwy droi ymrwymiadau Gweinidogol ehangach yn ddisgwyliadau caffael clir ar gyfer Awdurdodau Contractio Cymru gan roi'r cyfeiriad strategol a'r fframwaith ymarferol iddynt i wneud i hynny ddigwydd. Trwy gymryd dull yn seiliedig ar ganlyniadau, gall cyrff cyhoeddus gynllunio'n gynharach, ymgysylltu â marchnadoedd yn fwy effeithiol, rheoli contractau'n fwy gweithredol a gwneud penderfyniadau caffael sy'n darparu buddion parhaol y tu hwnt i'r pryniant uniongyrchol.
Rhaid i'r awdurdodau hynny y mae'n ofynnol iddynt roi sylw i'r DPCC wneud hynny wrth arfer eu swyddogaethau caffael cyhoeddus mewn perthynas â gwariant sy'n deillio o arian cyhoeddus Cymru. Dylent arfer eu crebwyll wrth benderfynu sut mae egwyddorion y WPPS yn berthnasol i'w gweithgarwch caffael. Mae'r hyblygrwydd hwn yn bwysig, ond mae ein cyd gyfrifoldeb i sicrhau bod caffael cyhoeddus yn cefnogi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn gyson ac yn darparu'r budd mwyaf posibl o bob punt sy'n cael ei gwario hefyd yn bwysig. Mae gan gaffael y gallu i lunio marchnadoedd, cryfhau busnesau Cymru, cefnogi swyddi a sgiliau, a gwella canlyniadau i bobl. Wedi'i ddefnyddio'n dda, mae'n fwy na swyddogaeth wariant yn unig - mae'n arf i adeiladu cenedl.
Trwy'r DPCC hwn, rydym yn gosod disgwyliad clir y dylai caffael cyhoeddus Cymru fod yn flaengar, yn bwrpasol ac yn canolbwyntio ar ddarparu gwerth i Gymru. Gyda'n gilydd, gallwn ei ddefnyddio i adeiladu economi gryfach, gynaliadwy yng Nghymru, cymunedau mwy gwydn a dyfodol mwy ffyniannus i bawb.
Cwmpas y DPCC a sut y caiff ei gymhwyso
Rhaid i'r awdurdodau contractio a ganlyn roi sylw i'r DPCC:
- awdurdodau Cymreig datganoledig, ac eithrio pan fyddant yn cynnal caffaeliadau o dan drefniant caffael a gedwir yn ôl neu o dan drefniant caffael a drosglwyddwyd i Ogledd Iwerddon, ac
- awdurdodau Cymreig nad ydynt wedi'u datganoli wrth gynnal caffaeliadau o dan drefniant caffael Cymreig datganoledig.
Nid yw hyn yn berthnasol i:
- gyfleustodau preifat, neu
- gaffaeliadau ar gyfer dyfarnu contract o dan gytundeb fframwaith neu farchnad ddynamig.
Nid yw'n ofynnol yn gyfreithiol i rai o Awdurdodau Contractio Cymru roi sylw i'r DPCC. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn eu hannog yn gryf i wneud hynny.
Mae adran 111 o Ddeddf Caffael 2023 yn diffinio “devolved Welsh authority”. Mae adran 114 yn diffinio “devolved Welsh procurement arrangements”, “reserved procurement arrangement” a “transferred Northern Ireland procurement arrangement”.
Nid yw'r ddyletswydd i roi sylw yn gofyn am ganlyniad penodol, ond rhaid i Awdurdodau Contractio Cymru allu dangos eu bod wedi mynd ati'n ymwybodol i ystyried y DPCC, wedi rhoi pwysau priodol iddo, a bod wedi gwneud hynny cyn gwneud penderfyniadau caffael perthnasol.
Yn ymarferol, mae hyn yn golygu sicrhau bod amser i ystyried DPCC yn y gwaith o gynllunio caffael, cofnodion gwneud penderfyniadau a phrosesau cymeradwyo, yn hytrach na'i drin fel ymarfer ticio blychau.
Gallai methu â gwneud hynny olygu bod penderfyniadau yn agored i her gyfreithiol, oedi a pheri risg i enw da. Felly, argymhellir cadw llwybr archwilio clir sy'n dangos sut y cafodd y DPCC ei ystyried wrth wneud penderfyniadau caffael a pham y cymerwyd y dulliau terfynol.
Pwyntiau i’w nodi
Atgoffir Awdurdodau Contractio Cymru na ddylent gymryd unrhyw gamau yn unol â'r DPCC hwn a fyddai'n gwrthdaro ag unrhyw rwymedigaeth sy'n ymwneud â deddfwriaeth berthnasol bresennol neu ofynion caffael cyhoeddus.
Ni ddylai unrhyw beth yn y DPCC hwn wrthdaro â rhwymedigaethau masnach ryngwladol Llywodraeth y DU, neu â'u rhwymedigaethau i gaffael nwyddau, gwaith a gwasanaethau mewn modd agored, teg a thryloyw tra'n gwarchod rhag twyll a llygredigaeth.
Er mwyn cefnogi'r gwaith o weithredu'r DPCC hwn yn effeithiol, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu deunyddiau dysgu, canllawiau ac adnoddau ymarferol i helpu ymarferwyr caffael i ddeall a chymhwyso ei ofynion yn hyderus. Bydd yr adnoddau hyn yn cefnogi dehongliad cyson, cymhwyso'r DPCC mewn modd cymesur ac arferion da ar draws cylch oes caffael, gan gynnwys cynllunio, ymgysylltu â'r farchnad, tendro, rheoli contractau, adrodd a chyflawni canlyniadau llesiant ehangach.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
Mae'r ystyriaethau posibl a'r canlyniadau arfaethedig yn cyfeirio at gysyniadau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (y “Ddeddf”). Mae'r rhan fwyaf, ond nid pob un, o Awdurdodau Contractio Cymru wedi'u cynnwys yn y Ddeddf. Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar yr Awdurdodau Contractio hynny i ymgymryd â datblygu cynaliadwy. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad yw'n ofynnol i holl Awdurdodau Contractio Cymru osod a chyhoeddi blaenoriaethau llesiant neu weithio i gyflawni'r saith nod llesiant, ond mae'n eu hannog i ystyried sut y gall eu gweithgarwch caffael gyfrannu at ddatblygu cynaliadwy. Am ragor o wybodaeth am y Ddeddf, ewch i: Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Dyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol a Datganiad Polisi Caffael Cymru
Ar gyfer Awdurdodau Contractio Cymru y mae'n ofynnol iddynt baratoi adroddiadau blynyddol o dan Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, mae'r DPCC yn darparu sail glir ar gyfer esbonio sut mae caffael cymdeithasol gyfrifol yn cyfrannu at flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Dylai adrodd fod yn fwy nag ymarfer cydymffurfio: dylai ddangos sut mae Awdurdodau Contractio Cymru yn defnyddio caffael yn fwriadol ac yn strategol i sicrhau gwaith teg, gwerth cymdeithasol, canlyniadau cynaliadwy a manteision ehangach i Gymru.
Ymrwymiad trawsbynciol
Dylid defnyddio caffael i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol, diwylliannol ac iechyd Cymru, lleihau anghydraddoldebau, cefnogi atal ac ymyrraeth gynnar, cryfhau cymunedau Cymraeg, hyrwyddo'r Gymraeg, a darparu gwerth hirdymor ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
Mesur llwyddiant
Mae deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i ddilyn y prosesau cywir, ond mae llwyddiant yn cael ei fesur trwy gyflawni a rheoli'r canlyniadau a'r buddion caffael cywir trwy gydol oes contract.
Dylai Awdurdodau Contractio Cymru allu dangos, drwy adroddiadau gan gyflenwyr ac adroddiadau blynyddol lle bo'n berthnasol, sut mae gweithgarwch caffael wedi cyflawni manteision diriaethol i Gymru, gan gynnwys cadwyni cyflenwi cryfach a mwy cynaliadwy, gwaith teg, gwerth cymdeithasol, gwelliant amgylcheddol, gwell canlyniadau cymunedol, lleihau anghydraddoldebau, llesiant diwylliannol, y Gymraeg, gwell canlyniadau iechyd a llesiant a gwerth am arian.
Mae arferion rheoli contractau cadarn yn hanfodol i droi'r ymrwymiadau hynny'n ganlyniadau mesuradwy, gan sicrhau bod perfformiad cyflenwyr yn cael ei fonitro, ei adrodd amdano ac yr eir i'r afael â'r perfformiad trwy gydol oes y contract.
Byddai llwyddiant yn cynnwys tystiolaeth o’r canlynol:
- Cynnydd mewn gwerth economaidd o gaffael
- Cadw mwy o werth yng Nghymru
- Cadwyni cyflenwi Cymreig cryfach a mwy cynaliadwy
- Gwell canlyniadau economaidd
- Gwell ymgysylltu â chyflenwyr a'r farchnad, a
- Gwell llesiant a chanlyniadau amgylcheddol.
Bydd llwyddiant hefyd yn cael ei fesur drwy ddefnyddio system Themâu, Deilliannau a Mesurau Cymru (TOMS) yn gyson i nodi, mesur ac adrodd ar ganlyniadau ar draws caffaeliadau a gwaith rheoli contractau perthnasol.
Blaenoriaeth caffael cyhoeddus Llywodraeth Cymru
Cryfhau Economi Cymru
Mae'r flaenoriaeth hon yn adlewyrchu pwyslais y Rhaglen Lywodraethu ar adeiladu economi Cymru gryfach, decach a mwy gwydn.
Dylid defnyddio caffael fel dull ysgogi strategol i gyflawni'r canlyniadau canlynol:
- Swyddi a sgiliau yng Nghymru - Creu swyddi, prentisiaethau a chyfleoedd hyfforddi newydd sy'n talu'n dda drwy ei gwneud yn ofynnol i gyflenwyr eu darparu fel rhan o'r contract.
- Tyfu busnesau bach a chanolig a chryfhau cadwyni cyflenwi Cymru - Cynyddu'r gwerth a gedwir yn economi Cymru, cefnogi meithrin cyfoeth cymunedol, ymgorffori mwy o wydnwch a chapasiti o fewn cadwyni cyflenwi lleol a chael gwared ar rwystrau i dendro fel y gall mwy o fusnesau bach a chanolig lleol (BBaChau) gystadlu am gontractau cyhoeddus ac ennill contractau cyhoeddus.
- Meithrin cyfoeth cymunedol - Gwella mynediad teg at gaffael cyhoeddus i fusnesau bach a chanolig a mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol, gan helpu i gryfhau cadwyni cyflenwi lleol, cadw gwerth yng nghymunedau Cymru a chefnogi'r gwaith o sicrhau llesiant cymdeithasol, economaidd a chymunedol.
- Gwaith teg - Hyrwyddo gwaith teg drwy annog cyflogaeth ddiogel a boddhaol, llais effeithiol i weithwyr, cydraddoldeb, ac arferion gweithio diogel a chynhwysol sy'n cyfrannu at lesiant a darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell.
- Arloesi - Cefnogi arloesedd yng Nghymru drwy annog datblygu, profi a defnyddio cynhyrchion, gwasanaethau a ffyrdd newydd a gwell o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.
- Sectorau economi sylfaenol - Cefnogi ein heconomi sylfaenol lle mae capasiti cyflenwyr Cymru yn realistig, megis cynhyrchu a phrosesu bwyd a phren, adeiladu, cynnal a chadw, rheoli cyfleusterau, gofal cymdeithasol a gwasanaethau proffesiynol.
- Deall effaith gwariant cyhoeddus - Dangos sut mae gwariant cyhoeddus yn cyfrannu at gymunedau cryfach, llesiant diwylliannol, y Gymraeg a chanlyniadau gwell i Gymru.
Y Fframwaith Cyflawni
Mae'r adran hon yn darparu canllawiau i gefnogi Awdurdodau Contractio Cymru i gyflawni blaenoriaeth Llywodraeth Cymru, deall y canlyniadau arfaethedig, a nodi ysgogiadau caffael y gellir eu defnyddio i'w cyflawni.
Nid yw'r ysgogiadau caffael yn cynnwys rhestr gynhwysfawr o'r hyn y gallai Awdurdodau Contractio Cymru ddymuno ei ystyried wrth gynnal ymarfer caffael neu reoli contract. Mae polisïau caffael Llywodraeth Cymru i'w gweld yn LLYW.CYMRU.
Mae'r canlynol yn enghreifftiau o ddulliau caffael a allai helpu i greu'r amodau i gwmnïau Cymru dendro am gontractau cyhoeddus ac ennill contractau cyhoeddus yn llwyddiannus:
Canlyniadau a ysgogiadau caffael
Creu swyddi, prentisiaethau a chyfleoedd hyfforddi newydd sydd yn talu'n dda, trwy ei gwneud yn ofynnol i gyflenwyr eu darparu fel rhan o'r contract
- Cynnwys gofynion mewn manylebau sy'n cefnogi prentisiaethau, hyfforddiant a datblygu'r gweithlu.
- Ymgorffori canlyniadau Gwaith Teg a llesiant lle bo hynny'n berthnasol ac yn gymesur.
- Annog buddsoddiad mewn sgiliau lleol, cyflogadwyedd a chyfleoedd dilyniant.
- Monitro beth sy'n cael ei gyflawni o ran ymrwymiadau cyflogaeth a sgiliau trwy ddangosyddion perfformiad allweddol (KPIs) a rheoli contractau.
Cynyddu'r gwerth a gedwir yn economi Cymru, cefnogi meithrin cyfoeth cymunedol, ymgorffori mwy o wydnwch a chapasiti o fewn cadwyni cyflenwi lleol a chael gwared ar rwystrau i dendro fel y gall mwy o fusnesau bach a chanolig gystadlu am gontractau cyhoeddus a'u hennill
- Cyhoeddi llif caffael sy'n rhoi cymaint o ragwelediad â phosibl fel bod gan fusnesau bach a chanolig ddigon o amser i ffurfio consortia, ehangu, neu addasu gweithrediadau er mwyn cynnig yn llwyddiannus.
Gwneud gwaith ymgysylltu cymesur cyn y farchnad i lywio dyluniad caffael ac ehangu cyfranogiad busnesau bach a chanolig. - Trafod â Busnes Cymru i nodi busnesau bach a chanolig arloesol a busnesau newydd yn ystod y gwaith o ymgysylltu â'r farchnad.
- Sicrhau bod gwasanaethau Busnes Cymru yn cael eu cynnwys mewn Gwahoddiadau i Dendro, Gwahoddiadau i roi Dyfynbris.
- Defnyddio strategaethau lotiau a gofynion cymesur i wella hygyrchedd i fusnesau bach a chanolig a mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol.
Hwyluso bidio cydweithredol ac mewn consortiwm lle bo hynny'n briodol. - Crynhoi'r galw'n strategol i gryfhau cadwyni cyflenwi Cymru a gwydnwch y farchnad.
- Sicrhau taliadau teg a phrydlon ar draws cadwyni cyflenwi i wella llif arian, cryfhau gwydnwch busnesau a chefnogi twf cynaliadwy busnesau bach a chanolig, a mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol sy'n gweithredu yng Nghymru.
- Defnyddio hyblygrwydd o dan y trothwy i gadw contractau addas ar gyfer busnesau bach a chanolig, mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol sydd wedi'u lleoli yn eich ardal.
- Ymgorffori canlyniadau llesiant sy'n cefnogi datblygiad swyddi, sgiliau a chadwyni cyflenwi.
- Cynnwys meini prawf cyflawni carbon isel mewn tendrau i alluogi busnesau bach a chanolig a mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol i gystadlu ar gryfder eu hagosrwydd, eu hymatebolrwydd a'u perfformiad amgylcheddol lle bo hynny'n berthnasol.
- Darparu adborth adeiladol i gyflenwyr yn dilyn ymarfer caffael i annog gwelliant parhaus.
Yn ogystal, dylai holl Awdurdodau Contractio Cymru (ni waeth a ydynt o fewn cwmpas Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 ai peidio) gymhwyso egwyddorion caffael cymdeithasol gyfrifol drwy gydol cylch oes caffael, gan ddefnyddio caffael i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol, cryfhau cadwyni cyflenwi a hyrwyddo gwaith teg. Effaith hyn fydd creu cyfleoedd i gwmnïau o Gymru gan y bydd ganddynt gryfderau yn aml yn y meysydd hyn a gallant wahaniaethu eu hunain oddi wrth gyflenwyr mwy wrth dendro.
Gwella mynediad teg i gaffael cyhoeddus i fusnesau bach a chanolig a mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol, gan helpu i gryfhau cadwyni cyflenwi lleol, cadw gwerth yng nghymunedau Cymru a chefnogi'r gwaith o sicrhau llesiant cymdeithasol, economaidd a chymunedol
- Trafod yn gynnar ac yn gymesur â'r farchnad i ddeall y capasiti, y gallu a'r rhwystrau sy'n wynebu busnesau bach a chanolig a mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol.
- Dylunio caffaeliadau mewn ffordd sy'n gymesur â'r gofyniad, gan gynnwys trothwyon ariannol, lefelau yswiriant, gofynion achredu a cheisiadau am dystiolaeth.
- Torri contractau mwy yn lotiau llai, neu ddylunio fframweithiau mewn ffordd sy'n rhoi cyfle teg i gyflenwyr llai ac arbenigol i gynnig.
- Cyhoeddi llif a darparu gwybodaeth tendro glir, hygyrch fel bod gan gyflenwyr amser i baratoi a deall cyfleoedd yn y dyfodol.
- Cefnogi cyfleoedd bidio drwy gonsortiwm, is-gontractio a chyfleoedd cadwyni cyflenwi lle byddai hyn yn gwella mynediad teg a chyfranogiad ehangach.
- Cynnwys canlyniadau llesiant perthnasol a chymesur sy'n cydnabod y cyfraniad y gall cyflenwyr llai a chymunedol ei wneud.
Hyrwyddo gwaith teg trwy annog cyflogaeth ddiogel a boddhaol, llais effeithiol i weithwyr, cydraddoldeb, ac arferion gweithio diogel a chynhwysol sy'n cyfrannu at lesiant a darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell
- Ystyried canlyniadau gwaith teg yn y cam cynllunio a nodi lle maent yn berthnasol ac yn gymesur â phwnc y contract.
- Defnyddio manylebau, meini prawf dyfarnu ac amodau contract, i annog cyflogaeth ddiogel, gwobrwyo teg, datblygu'r gweithlu, cydraddoldeb ac arferion gweithio diogel.
- Annog cyflenwyr i ddangos sut maent yn ymgysylltu â'u gweithlu a chefnogi llais effeithiol y gweithwyr, gan gynnwys trwy undebau llafur cydnabyddedig neu gynrychiolwyr gweithlu priodol eraill.
- Cymhwyso Nodiadau Polisi Caffael perthnasol Cymru a'r Cod Allanoli Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gweithlu, gan gynnwys arferion cyflogaeth moesegol a chymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol / cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol, lle bo'n berthnasol.
- Rheoli contractau i sicrhau bod ymrwymiadau gwaith teg yn cael eu cyflawni, gan gynnwys safonau cyflogaeth, datblygu'r gweithlu, iechyd a diogelwch, cydraddoldeb ac arferion cadwyni cyflenwi.
- Defnyddio'r adroddiad Caffael Cymdeithasol Gyfrifol blynyddol, lle bo hynny'n berthnasol, i ddangos sut mae gweithgarwch caffael wedi cyfrannu at waith teg, llesiant a darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell.
Cefnogi arloesedd yng Nghymru drwy annog datblygu, profi a defnyddio cynhyrchion, gwasanaethau a ffyrdd newydd a gwell o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus
- Defnyddio gwaith ymgysylltu cynnar â'r farchnad i ddeall gallu busnes Cymru, syniadau sy'n dod i'r amlwg a chyfleoedd i wella gwasanaethau cyhoeddus drwy gynhyrchion, gwasanaethau a phrosesau newydd neu well.
- Rhoi'r mwyaf o sylw o ran cynnwys manylebau ar y canlyniadau i'w cyflawni, yn hytrach na rhagnodi datrysiad sefydlog, fel y gall cyflenwyr gynnig ffyrdd arloesol ac ymarferol o ddiwallu anghenion gwasanaeth cyhoeddus.
- Ystyried cynlluniau peilot, treialon neu brosiectau arddangos lle bo hynny'n briodol i brofi datrysiadau newydd, rheoli risg a magu hyder cyn eu defnyddio yn ehangach.
- Annog cyflenwyr i gyflwyno cynhyrchion, gwasanaethau neu brosesau newydd neu well sy'n cefnogi canlyniadau gwell i bobl, cymunedau, busnesau a'r amgylchedd yng Nghymru.
- Defnyddio gwaith rheoli contractau a gwersi a ddysgwyd i asesu a yw dulliau arloesol wedi gwella’r gwaith o ddarparu gwasanaethau, cynhyrchiant, effeithlonrwydd neu ganlyniadau.
- Defnyddio caffael i gefnogi rhaglenni trawsnewid digidol sy'n gwella cynhyrchiant, hygyrchedd, ansawdd gwasanaeth a phrofiad defnyddwyr ar draws sector cyhoeddus Cymru.
- Annog cyflenwyr i gyflwyno datrysiadau digidol arloesol, dulliau sy'n cael eu gyrru gan ddata a modelau darparu gwasanaethau modern sy'n gwella canlyniadau ac effeithlonrwydd.
Cefnogi ein heconomi sylfaenol lle mae capasiti cyflenwyr Cymru yn realistig, megis cynhyrchu a phrosesu bwyd a phren, adeiladu, cynnal a chadw, rheoli cyfleusterau, gofal cymdeithasol a gwasanaethau proffesiynol
- Sicrhau bod ymarferwyr caffael yn cwblhau'r hyfforddiant (adnodd dysgu newydd ar-lein ar yr Economi Sylfaenol Newydd – Cynnal Cymru – Sustain Wales) ac i sicrhau bod strategaethau caffael yn cyd-fynd â blaenoriaethau'r Economi Sylfaenol.
- Ystyried sut y gall caffaeliadau bwyd perthnasol gefnogi nodau Strategaeth Bwyd Cymunedol Cymru, gan gynnwys cadwyni cyflenwi bwyd lleol gwydn, cynhyrchu cynaliadwy a bwyd iachach sydd yn haws cael gafael arno.
- Cryfhau cadwyni cyflenwi Cymru drwy ddarparu mwy o sicrwydd yn y farchnad trwy welededd llif a chynllunio hirdymor.
- Annog dulliau caffael sy'n cryfhau cadwyni cyflenwi domestig ac yn datblygu gallu marchnadoedd lleol.
- Hyrwyddo cydweithredu, arloesi a gwydnwch ar draws sectorau allweddol.
- Annog ystyriaeth o bren a bwyd a dyfir ac a brosesir yng Nghymru ac o ddur a brosesir yng Nghymru mewn manylebau caffael ac wrth drafod â'r farchnad.
Dangos sut mae gwariant cyhoeddus yn cyfrannu at gymunedau cryfach, llesiant diwylliannol, y Gymraeg a chanlyniadau gwell i Gymru
- Defnyddio system Themâu, Deilliannau a Mesurau Cymru (TOMS) yn ystod y cam cynllunio i ddewis mesurau perthnasol a chymesur sy'n adlewyrchu'r gwerth cymdeithasol a'r anghenion cymunedol y gellir eu darparu drwy'r contract.
- Adeiladu mesurau TOMS dethol mewn manylebau, meini prawf dyfarnu, amodau contractau a threfniadau rheoli contractau lle bo hynny'n gyfreithlon, yn berthnasol ac yn gymesur.
- Ei gwneud yn ofynnol i gyflenwyr ddarparu adroddiadau TOMS rheolaidd wrth gyflawni contract i fonitro a yw ymrwymiadau gwerth cymdeithasol yn cael eu cyflawni, nodi tanberfformiad a chefnogi camau cywiro amserol.
- Defnyddio data TOMS i fesur ei effaith o ran llywio penderfyniadau caffael yn y dyfodol a'u cynnwys yn yr adroddiad Caffael Cymdeithasol Gyfrifol blynyddol lle bo hynny'n berthnasol.
- Darparu astudiaeth achos ar ddiwedd prosiect sy'n dangos yr hyn sydd wedi'i gyflawni a'r perfformiad yn erbyn y contract.
