Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Medi 2023, newidiodd y terfyn cyflymder diofyn ar gyfer ffyrdd preswyl a ffyrdd anghyfyngedig i 20mya. Effeithiodd y newid ar rai cefnffyrdd. 

Ym mis Gorffennaf 2024, fe wnaethom gyhoeddi adolygiad o derfynau cyflymder 20mya a 30mya ar ffyrdd y maent yn gyfrifol amdanynt.

Ar gyfer cefnffyrdd, y rhain oedd Llywodraeth Cymru, Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA) ac Asiant Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA). Gwahoddwyd y cyhoedd hefyd i ddweud eu dweud.

Mae canlyniad yr adolygiad hwn wedi'i gyhoeddi ar ein gwefan heddiw

Rydym yn cynnig newidiadau i rai terfynau cyflymder 20mya a 30mya ac yn ystyried cyflwyno terfynau cyflymder clustogi mewn rhai ardaloedd. Bydd angen Gorchmynion Rheoleiddio Traffig newydd ar gyfer pob newid o ran terfyn cyflymder. Gall y broses gyfreithiol gymryd 9 mis, felly bydd newidiadau yn digwydd ar lawr gwlad o ddechrau 2027 ymlaen. 

Mae gwaith arall wedi'i gynllunio i wella cydymffurfiaeth â therfynau cyflymder a gwella'r ddarpariaeth ar gyfer cerddwyr.