Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae ysbytai maes wedi bod yn rhan bwysig o'r strategaeth gyffredinol ar gyfer cwrdd â her y pandemig. Cawsant eu cynllunio a'u datblygu i ddechrau o ganlyniad i’r galw ychwanegol sylweddol a ragwelwyd a'r risg y byddai'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cael ei lethu.
Mae ysbytai maes yng Nghymru wedi bod ar agor ac wedi cael eu defnyddio'n gyson ers mis Hydref 2020. Ysbyty'r Seren ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yw un o'r ysbytai maes prysuraf, os nad y prysuraf yn y DU, gyda thros 200 o dderbyniadau hyd yma. Yn ystod y 12 mis diwethaf, maent wedi darparu capasiti ychwanegol pwysig mewn sawl ardal yng Nghymru yn ystod brig y pwysau ar ein hysbytai acíwt. Hyd yma, mae dros 930 o gleifion wedi cael eu derbyn i ysbytai maes yng Nghymru. Nid oedd ar y cleifion hyn angen ymyrraeth feddygol yn un o'n hysbytai acíwt mwyach, ond roeddent cymorth ychwanegol o hyd neu roeddent yn aros am becyn gofal cyn cael eu rhyddhau.
Mae'r staff a'r capasiti gwelyau ychwanegol a ddarperir drwy'r safleoedd hyn wedi bod yn allweddol i alluogi i bobl sy'n gwella, ac yn teimlo’n ddigon da, i adael ysbytai acíwt, gan ryddhau capasiti y mae mawr ei angen mewn safleoedd ysbytai acíwt a chymunedol. Mae byrddau iechyd yn amcangyfrif eu bod wedi helpu i arbed dros 14,500 o ‘ddyddiau gwely’ mewn safleoedd acíwt.
Y prif fodel a ddefnyddiwyd ar draws Cymru oedd y model rheolaeth feddygol orau, ‘cam-i-lawr’, sy’n canolbwyntio ar dimau amlbroffesiwn ac integredig sy'n hwyluso'r broses o drosglwyddo gofal yn ôl i'r gymuned. Maent wedi galluogi darparu gwasanaeth adsefydlu ychwanegol, y mae mawr ei angen yn aml, i gleifion.
Mae hyfforddiant staff ychwanegol wedi bod yn allweddol i alluogi i ysbytai maes weithredu'n dda, ac mae wedi grymuso datblygu perthynas waith ragorol ar draws timau lleol, gan gynnwys integreiddio staff therapi i'r timau clinigol. Mae rhai byrddau iechyd wedi adleoli nyrsys â chefndir iechyd meddwl i'r safleoedd, a nodwyd fod hyn wedi gweithio'n dda iawn yn enwedig o ran cefnogi cleifion a oedd â nam gwybyddol. Dyma enghraifft o arfer da yr ydym yn awyddus i'w archwilio ac o bosibl ei gymhwyso i feysydd eraill o ofal iechyd acíwt ledled Cymru. Mae ymdeimlad cryf o dîm wedi galluogi i staff mewn ysbytai maes gyflawni safon rhagorol o ofal, ac rydym yn awyddus i ddysgu o hyn yn y dyfodol.
Mae'n glod i staff ysbytai maes y GIG bod y rhan fwyaf o gleifion wedi cael canlyniadau cadarnhaol ac wedi rhoi gwybod am brofiadau cadarnhaol fel cleifion, gan ddweud eu bod yn teimlo'n ddiogel ac yn rhan o’r penderfyniadau a wnaed am eu gofal a'u triniaeth. Mae byrddau iechyd wedi defnyddio ffyrdd arloesol o fesur a chasglu data adborth a chanlyniadau cleifion, er enghraifft dywedodd un bwrdd iechyd fod “100% o gleifion yn teimlo'n ddiogel yn eu gofal”. At hynny, mae byrddau iechyd wedi disgrifio nifer o ddulliau arloesol a ddefnyddiwyd i gefnogi anghenion emosiynol a seicolegol cleifion mewn ysbytai maes. Rhai enghreifftiau o’r dulliau a fabwysiadwyd i gefnogi cyfathrebu â chleifion a'u perthnasau yw ymweliadau rhithwir a'r defnydd o Swyddog Cyswllt Teulu.
Mae meini prawf derbyn, a phrosesau diogelwch a llywodraethu cadarn wedi'u rhoi ar waith ar draws y byrddau iechyd, sy'n golygu mai nifer fach o gwynion a digwyddiadau a gofnodwyd, gyda chyfraddau trosglwyddo isel yn ôl i'r ysbytai acíwt. Ym mis Tachwedd 2020 cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru arolwg rheolaidd gan ymweld â dau ysbyty maes ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Daeth i'r casgliad bod gan yr ysbytai systemau effeithiol ar waith i sicrhau diogelwch ac urddas cleifion. Ym mis Chwefror, cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru archwiliad ansawdd estynedig yn Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dilyn newidiadau i'w meini prawf cleifion. Nododd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ganfyddiadau cadarnhaol mewn nifer o feysydd megis staff gofalgar a thosturiol, a nodwyd rhai meysydd i'w gwella. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu o brofiadau’r ysbytai maes ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol.
Drwy gydol y pandemig, mae ein bwriad o ran yr ysbytai maes wedi bod yn glir: sicrhau bod gennym ddigon o gapasiti yn y system gan ddarparu gofal o'r ansawdd uchaf posibl i bawb sydd ei angen mewn amgylchiadau heriol dros ben. Bwriad sefydlu ysbytai maes oedd sicrhau bod capasiti hanfodol ysbytai acíwt y GIG yn cael ei ddiogelu er mwyn ymdrin â’r senario waethaf bosibl ac achub bywydau.
Ym mis Medi 2020, rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am gynlluniau Byrddau Iechyd i gadw dros 5000 o welyau ychwanegol ar gyfer gweddill 2020/2021, a oedd yn cynnwys cadw un ar ddeg o ysbytai maes. Ers hynny mae pump o'r ysbytai maes hyn wedi agor i gleifion tra bod y chwech arall wedi cael eu defnyddio'n weithredol i gefnogi’r ymateb i COVID-19 mewn ffyrdd eraill. Maent wedi darparu mannau ychwanegol hanfodol fel canolfannau brechu, canolfannau profi a chyfleusterau hyfforddi.
Roedd y cynnydd mewn cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch sy'n gysylltiedig â COVID-19 rhwng mis Rhagfyr a mis Chwefror, ac adleoliad staff ar draws y system yn ei gwneud yn her i fyrddau iechyd ddarparu digon o staff i gynyddu capasiti mewn ysbytai maes i lefel sylweddol. Fodd bynnag, ar frig y pandemig, roedd rhai ysbytai maes yn gweithredu gyda chapasiti o tua 70 o welyau. Mae’n galonogol gweld bod y gostyngiad yn y pwysau ar y system ar draws ysbytai acíwt, ynghyd ag adleoli staff yn ôl i'w prif rolau yn y GIG wrth i wasanaethau eraill ailddechrau, wedi lleihau'r galw am gapasiti ysbytai maes dros yr wythnosau diwethaf.
Fodd bynnag, o ystyried y posibilrwydd y bydd 'tonnau' pellach o COVID-19 ac ansicrwydd ynghylch y capasiti ymchwydd sy'n ofynnol gan y GIG i reoli unrhyw gynnydd yn y galw o ganlyniad, rydym wedi gofyn i fyrddau iechyd ystyried a ddylid cadw’r cyfleusterau ysbytai maes yn 2021/2022. Wrth ddatblygu cynlluniau lleol, bydd byrddau iechyd hefyd yn ystyried a allai cyfleusterau ysbytai maes presennol ychwanegu gwerth – lle mae'n ddoeth gwneud hynny - drwy ddarparu gwasanaethau eraill yn seiliedig ar anghenion y boblogaeth leol.
Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa ac yn gweithio'n agos gyda byrddau iechyd fel rhan o'r broses gynllunio hon.