Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n cyhoeddi Adroddiad Blynyddol Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar gyfer 2022-23.

Ers 2013-14, mae Llywodraeth Cymru wedi diogelu aelwydydd incwm isel ac aelwydydd sy’n agored i niwed ledled Cymru drwy gynnal hawliau llawn am gymorth i dalu eu biliau treth gyngor o dan ein Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.

Rydym wedi parhau i gefnogi’r cynllun drwy ddarparu £244 miliwn yn y setliad llywodraeth leol blynyddol. Mae’r ffaith bod ein cynllun cenedlaethol yn un sydd wedi’i deilwra yn golygu bod y cymorth hwn yn cael ei dargedu at y rhai sydd ei angen fwyaf.

Yn 2022-23, manteisiodd dros 261,000 o aelwydydd incwm isel ac aelwydydd sy’n agored i niwed, sef un o bob pum aelwyd, ar ostyngiad yn eu treth gyngor. O’r rhain, ni thalodd oddeutu 211,000 o aelwydydd unrhyw dreth gyngor o gwbl.

Fel bob amser, ac yn enwedig yn yr amgylchiadau ansicr a heriol sydd ohoni, byddwn yn annog pawb i edrych ar ein gwefan i weld a oes ganddynt hawl i gael cymorth gyda’u bil treth gyngor o dan ein cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor neu drwy un o’r ystod o ddisgowntiau ac eithriadau eraill sydd ar gael.

Yn rhan o’n hymrwymiad i wneud y dreth gyngor yn decach, rydym yn adolygu ein Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Ein nod yw sicrhau bod y cynllun ar gael yn haws i bawb sydd ei angen, ei fod yn adlewyrchu’r newidiadau yn ein heconomi, yn targedu cymorth yn effeithiol ac yn ystyried effaith Credyd Cynhwysol. Rwy’n ddiolchgar am gymorth parhaus awdurdodau lleol i gyflawni Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yng Nghymru yn ogystal â helpu i sicrhau bod y cymorth ariannol pwysig hwn yn cyrraedd aelwydydd cymwys. Rwyf wedi ymrwymo o hyd, pan fo’n cyllidebau yn caniatáu, i sicrhau bod camau gweithredu yn cael eu cymryd i liniaru effeithiau’r argyfwng costau byw rydym yn eu profi.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod toriad er mwyn hysbysu aelodau. Pe bai aelodau'n dymuno i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.