Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Heddiw, rydym yn cyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol cyntaf ar gyfer ein Cynllun Cenedlaethol i Atal Cam-drin Pobl Hŷn – y cyntaf o'i fath yn y DU. Flwyddyn ar ôl i'r gwaith hanfodol hwn ddechrau, rydym wedi gosod sylfeini cadarn wrth gydnabod y daith sylweddol sydd eto o'n blaenau. Mae cam-drin pobl hŷn yn parhau i fod yn un o heriau mwyaf dybryd ein cymdeithas, gyda chanlyniadau corfforol, emosiynol a chymdeithasol enbyd i ddioddefwyr.
Mae'r adroddiad hwn yn arddangos ein cyflawniadau cychwynnol ac yn datgelu ein strategaeth wedi'i hail-lunio ar gyfer yr ail flwyddyn. Rydym wedi cryfhau ein dull drwy bartneriaethau cydweithredol ac wedi mireinio ein methodoleg i sbarduno effaith fesuradwy.
Rydym yn parhau i adeiladu ar y fframweithiau deddfwriaethol cadarn a sefydlwyd drwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, a Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Yr hyn sy'n gwahaniaethu'r Cynllun hwn yw ei gwmpas trawslywodraethol a'i ymrwymiad i drawsnewid gweledigaeth strategol yn gamau gweithredu pendant.
Rydym wedi gwneud y canlynol:
- Dechrau gweithio ar y cynllun a fydd yn olynu'r Cynllun Gweithredu Dementia, sy'n cael ei arwain gan ganfyddiadau'r broses werthuso a gweithgarwch ymgysylltu â rhanddeiliaid.
- Datblygu Pecyn Cymorth Llesiant Preswylwyr mewn partneriaeth ag Age Cymru i sicrhau bod preswylwyr cartrefi gofal yn gallu mynegi eu hanghenion drwy gydol eu taith ofal.
- Cyflwyno taliadau yn llwyddiannus drwy'r Gronfa Gymorth i Ofalwyr i 11,687 o ofalwyr yn 2024/25.
- Cryfhau ymgysylltiad â'r cyhoedd.
- Cyhoeddi'r Cod Ymarfer ar gyfer Llais, gan wella mynediad, cyfranogiad, a dylanwad dros gynllunio gwasanaethau.
- Lansio'r Adolygiad Diogelu Unedig Sengl ym mis Hydref 2024.
Yn ogystal, mae Gofal Cymdeithasol Cymru, mewn cydweithrediad â Byrddau Diogelu Rhanbarthol, wedi datblygu a gweithredu Safonau Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddiant Diogelu yng Nghymru.
Mae'r ddealltwriaeth rymus gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill yn llywio ein llwybr ymlaen. Mae pob person yng Nghymru yn haeddu byw gydag urddas, yn rhydd rhag unrhyw fath o gam-drin. Ni ddylai oedran fyth leihau'r hawl sylfaenol hon. Mae'r Cynllun hwn yn mynd i'r afael yn fwriadol â'r bregusrwydd penodol y gall pobl hŷn ei wynebu, heb leihau eu hunigoliaeth.
Mae ein gweledigaeth yn ymestyn y tu hwnt i ddiogelu, i greu Cymru sydd wirioneddol o blaid pobl hŷn – cenedl lle mae pawb yn edrych ymlaen at heneiddio, lle nad yw oedran yn cyfyngu ar botensial nac yn effeithio ar ansawdd y gwasanaethau y mae pobl hŷn yn eu cael, a lle mae annibyniaeth, cyfranogiad, gofal, hunangyflawniad ac urddas pobl hŷn yn cael eu parchu bob amser.
Mae'r datblygiadau a amlinellir yn yr adroddiad hwn yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus Cymru i ddiogelu a chefnogi ei phoblogaeth hŷn.
