Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i barhau i 'adolygu trefniadau gweithio mewn partneriaethau rhanbarthol gyda phartneriaid lleol'. ‌Mae’r ymrwymiad hwn hefyd yn rhan o'r‌ Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

‌Wrth gyflawni’r ymrwymiad hwn, cynhaliais, ar y cyd ag Aelod Dynodedig Plaid Cymru, ymarfer ymgysylltu helaeth â chadeiryddion amrywiaeth o bartneriaethau strategol i gasglu safbwyntiau ynghylch cynnydd ers yr adroddiad ar yr‌ Adolygiad o Bartneriaethau Strategol ym mis Mehefin 2020. Nod yr ymarfer ymgysylltu hwn oedd ystyried a yw canfyddiadau ac argymhellion yr adolygiad hwnnw yn dal yn berthnasol, er mwyn dysgu am gynnydd a pha gamau eraill y gallai fod angen eu cymryd. Mae adroddiad terfynol yr ymarfer hwn wedi'i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae'r Aelod Dynodedig a minnau wedi croesawu’r ffordd adeiladol yr ymatebodd cadeiryddion partneriaethau i’n cwestiynau ynghylch sut mae partneriaethau rhanbarthol yn cysoni, lle mae cyfleoedd ar gael i gysoni partneriaethau yn well, a lle mae rhwystrau y mae angen eu goresgyn.

Dangosodd canfyddiadau'r ymarfer hwn gynnydd clir mewn rhai meysydd ers yr adroddiad gwreiddiol ar yr adolygiad yn 2020. Mae partneriaethau yn defnyddio eu hyblygrwydd i drefnu eu hunain yn wahanol i wella cydweithredu, integreiddio eu gwaith ac osgoi dyblygu. Fodd bynnag, roedd cydnabyddiaeth hefyd fod mwy i’w wneud. Gallai fod angen cefnogaeth mewn rhai meysydd, ond roedd digon o aeddfedrwydd yn gyffredinol mewn partneriaethau a rhanbarthau i wneud y penderfyniadau iawn ar gyfer eu hardaloedd ar y patrwm a’r cysondeb gorau.

Roedd neges gref drwy gydol yr ymarfer fod partneriaethau yn teimlo eu bod yn y sefyllfa orau i benderfynu sut i symleiddio trefniadau cydweithio ar lefel ranbarthol yn eu hardal. Wedi dweud hynny, roedd galw hefyd am ddisgwyliadau cyson mewn rhai meysydd megis dealltwriaeth gyson o ddiben ac amcanion partneriaethau a sut y gellid rhannu gwybodaeth a diweddariadau priodol. Ar ben hynny, wrth i'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig ddod yn fwy sefydledig, mae'n iawn bod eu rôl yn y dirwedd ehangach yn cael ei hystyried yn y trafodaethau rhanbarthol hyn. Mae'r adroddiad yn argymell bod gweithgor, sy'n cynnwys enwebeion o Gyngor Partneriaeth Cymru, yn datblygu egwyddorion clir i sefydlu sut y dylai partneriaethau sicrhau bod eu gwaith yn cyd-fynd â'i gilydd, gan gynnwys y Cyd-bwyllgorau Corfforedig.

Yn y tymor hwy, Cyngor Partneriaeth Cymru fydd yn cymryd perchnogaeth o sicrhau bod y trefniadau gweithio mewn partneriaethau rhanbarthol yn parhau i gael eu hadolygu. Mae mewn sefyllfa dda i wneud y cysylltiad rhwng materion lleol a chenedlaethol a darparu arweinyddiaeth genedlaethol ar gyfer gweithio mewn partneriaeth yn effeithiol.