Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Heddiw rydym yn cyhoeddi ailgychwyn y Tasglu Mwyngloddiau a Chwareli nas Defnyddir, fforwm ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, a phartneriaid cyflenwi allweddol.
Mae'r Tasglu yn dangos ymrwymiad ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i sicrhau diogelwch cymunedau sy'n byw yng nghysgod hen safleoedd mwyngloddio Cymru a'n penderfyniad i ddatblygu ymhellach ein hagwedd at ein gwaddol mwyngloddio. Bydd yn dod â rhanddeiliaid at ei gilydd i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r amcanion a osodwyd gan Ddirprwy Brif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn perthynas â diogelwch tomenni mwyngloddiau a chwareli nas defnyddir.
Yn dilyn y tirlithriadau yn Tylorstown yn 2020 a Chwmtyleri yn ystod Storm Bert yn 2024, mae diogelwch tomenni glo wedi parhau i fod yn flaenoriaeth i'r llywodraeth hon. Achosodd y digwyddiadau hyn ofid mawr a tharfodd yn sylweddol ar y cymunedau yr effeithiwyd arnynt gan gadarnhau yr angen am weithredu strategol hirdymor.
Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol ers 2020, drwy fuddsoddi yn ein cymunedau a thrwy Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, Cyfoeth Naturiol Cymru, a'n partneriaid yn yr awdurdodau lleol, gan ariannu rhaglen fapio ac asesu risg, ynghyd â darparu gweithgareddau arolygu a chynnal a chadw rheolaidd. Yn hollbwysig, rydym hefyd wedi cyflwyno deddfwriaeth nodedig - Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn darparu fframwaith rheoleiddio modern ar gyfer asesu, cofrestru, monitro a rheoli tomenni nas defnyddir, tra hefyd yn sefydlu Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir Cymru – y corff a fydd yn cymryd y cyfrifoldeb o sicrhau diogelwch tomenni o fis Ebrill 2027 ymlaen.
Bydd y Tasglu yn chwarae rôl ganolog wrth gefnogi'r gwaith o weithredu'r Ddeddf ac wrth oruchwylio cyflawni'r buddsoddiad ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU - sydd bellach yn fwy na £230m i wneud tomenni glo yn ddiogel. Bydd yn darparu fforwm rhynglywodraethol cydgysylltiedig i gyflawni'r isod:
- Nodi bylchau mewn polisi a deddfwriaeth a datblygu dull strategol o fynd i'r afael â heriau hirdymor sy'n deillio o waddol mwyngloddio;
- Monitro'r broses o gyflawni a chefnogi datblygiad parhaus y rhaglen waith ar y cyd i sicrhau diogelwch tomenni glo;
- Cefnogi'r gwaith o weithredu'r drefn reoleiddio newydd a sefydlu Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir Cymru;
- Rhannu gwybodaeth, arbenigedd a thystiolaeth i hyrwyddo arferion gorau mewn rheoli diogelwch tomenni.
Wrth i ni ailddechrau'r gwaith pwysig hwn, mae'r ddwy lywodraeth yn ailddatgan ein hymrwymiad ar y cyd i ddiogelu cymunedau, gwella diogelwch y cyhoedd, a sicrhau bod gwaddol mwyngloddio Cymru yn cael ei reoli'n gyfrifol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Edrychwn ymlaen at weithio gyda'n gilydd drwy'r Tasglu i gyflawni'r amcanion hyn.
