Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 15 Mai, lle roeddwn yn falch o dderbyn yn brydlon yr argymhellion a syrthiodd i'm portffolio. Gallaf nawr gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn holl argymhellion y Tasglu.

Mae'r Prif Weinidog wedi pwysleisio bod darparu mwy o gartrefi cymdeithasol i'w rhentu yn un o brif flaenoriaethau'r llywodraeth hon. 

Sefydlais y Tasglu i nodi ffyrdd pragmatig i gefnogi cyflwyno mwy o gartrefi fforddiadwy. Mae derbyn yr argymhellion yma gan gydweithwyr ledled y Cabinet yn dangos ymrwymiad llawn Llywodraeth Cymru i ddarparu’r cartrefi y mae’r cenedl eu hangen.

Rwy'n bwriadu cadeirio y Grŵp Gweithredu, y bydd yn cynnwys uwch swyddogion a chyfarwyddwyr o ledled y sector, gan gydnabod ein bod ni i gyd yn rhannu'r cyfrifoldeb am wella a newid. Mae'n fy mwriad y bydd y cyfarfod cyntaf cyn diwedd y tymor yr haf.

Gwahoddwyd y canlynol i enwebu aelod o'r Grŵp:

  • Cartrefi Cymunedol Cymru
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Y Sefydliad Tai Siartredig
  • Medr - Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil
  • Cynrychiolydd enwebedig ar gyfer Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol
  • Dŵr Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Banc Datblygu Cymru
  • Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru
  • Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol
  • Comisiwn Dylunio Cymru
  • Y Fforwm Contractwyr Tai Fforddiadwy
  • Y Ffederasiwn Adeiladwyr Tai
  • Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr
  • Archwilio Cymru