Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Bil Streiciau’r DU yn fygythiad i wasanaethau cyhoeddus, rhyddid democrataidd a datganoli. Mae Llywodraeth Cymru yn llwyr wrthwynebu Bil sy’n ymosodiad gwleidyddol a manteisgar pur ar hawliau ac urddas gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus.

Pan gyhoeddwyd y Bil, gwnaethom ysgrifennu at Lywodraeth y DU a chyhoeddi yn dilyn hynny Ddatganiad Ysgrifenedig yn manylu ar ein gwrthwynebiad i’r Bil. Yn ystod hynt y Bil drwy Dŷ’r Cyffredin, gwnaethom ysgrifennu eto at Lywodraeth y DU. Gwnaethom gyhoeddi ein llythyrau a’n Datganiad Ysgrifenedig yma ac yma.

Byddwn yn parhau i frwydro i gadw gwasanaethau datganoledig Cymru allan o’r Bil wrth iddo ddychwelyd i Dŷ’r Cyffredin, ac ni fydd Llywodraeth Cymru mewn unrhyw ffordd yn galluogi’r broses o roi’r Bil ar waith. Mae Gweinidogion Cymru wedi hysbysu Gweinidogion y DU na fyddwn yn cymryd rhan yn ymgyngoriadau y DU ar greu Lefelau Gwasanaeth Gofynnol ar gyfer sectorau penodol, gan gynnwys y rhai sydd wedi’u datganoli. Yn yr un modd â’r Gronfa Ffyniant Bro a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, ni fydd Llywodraeth Cymru yn ymroi ei hadnoddau i gefnogi rhoi ar waith bolisi gan y DU sy’n tanseilio datganoli ac yn mynd yn groes i’n hamcanion.  

Cafodd ymgais Llywodraeth y DU i orfodi’r Bil ar wasanaethau datganoledig Cymru ei threchu yn Nhŷ’r Arglwyddi a basiodd welliant i gyfyngu cwmpas y Bil i Loegr - a byddwn yn brwydro i amddiffyn datganoli ac atebolrwydd democrataidd yng Nghymru.

Gwnaethom osod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol gerbron y Senedd a oedd yn destun dadl yn y Senedd ar 25 Ebrill. Gwnaeth y Senedd wrthod cydsynio i Fil sy’n osgoi ein Senedd a’n Llywodraeth yng Nghymru yn fwriadol. Drwy ddiystyru datganoli, mae Gweinidogion y DU wedi amddifadu llywodraethau datganoledig o’r pŵer i atal hysbysiadau gwaith rhag cael eu dyroddi yng Nghymru gan Weinidogion y DU heb fandad.

Er cael sicrwydd y byddai Llywodraeth y DU yn ceisio cytundebau gwirfoddol y tu hwnt i’r meysydd hynny y mae eisoes yn ymgynghori arnynt, nid oes modd dibynnu ar y sicrwydd hwnnw. Gwnaeth Datganiad Ysgrifenedig diweddar gan yr Ysgrifenydd Gwladol dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gadarnhau bod Llywodraeth y DU eisoes yn ystyried yr angen i ymgynghori ar lefelau gwasanaeth gofynnol ychwanegol yn ymwneud ag ystod ehangach o wasanaethau iechyd.

Byddwn yn gweithio gydag undebau llafur a chyflogwyr drwy ein model partneriaeth gymdeithasol i archwilio pob dewis sydd ar gael er mwyn osgoi unrhyw bosibilrwydd y bydd hysbysiadau gwaith yn cael eu dyroddi yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru. 

Yng Nghymru, mae gwasanaethau cyhoeddus datganoledig ac undebau llafur yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol ac mae’r perthnasoedd hynny wedi’u seilio ar ymddiriedaeth, ewyllys da a pharch at y naill a’r llall – dyma egwyddorion y mae Llywodraeth y DU yn eu tanseilio’n gwbl ddiystyriol drwy’r Bil hwn. 

Mae gennym strwythurau partneriaeth gymdeithasol gwerthfawr sy’n bodoli eisoes ym mhob un o’r gwasanaethau cyhoeddus datganoledig a nodir yn y Bil, sy’n dwyn ynghyd Lywodraeth Cymru, cyflogwyr ac undebau llafur. Byddwn yn defnyddio’r strwythurau hyn i drafod a cheisio cydgysylltu’r ymatebion os daw’r Bil yn gyfraith ac yn gymwys i Gymru a’n gwasanaethau cyhoeddus datganoledig.