Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei roi mewn mesurau arbennig (lefel 5) ar 27 Chwefror 2023 mewn ymateb i bryderon difrifol am lywodraethiant, arweinyddiaeth a pherfformiad. Mae'r trydydd adroddiad cynnydd blynyddol ar y mesurau arbennig yn cael ei gyhoeddi heddiw. Mae hwn yn dangos y cynnydd sydd wedi'i wneud gan y sefydliad a'r heriau sy'n parhau. 

Dros y tair blynedd diwethaf, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dangos cynnydd mewn rhai meysydd o dan y mesurau arbennig. Er hynny, mae pryderon difrifol yn parhau, yn enwedig o ran perfformiad gweithredol a mynediad amserol at wasanaethau diogel o safon uchel yn maes gofal a gynlluniwyd a gofal brys ac argyfwng. Mae gormod o bobl yn aros yn rhy hir am ofal, gan gynnwys gwasanaethau canser, yn y Gogledd. Rhaid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sicrhau gwelliant cyflym a pharhaus i wneud yn siŵr bod pobl yn cael mynediad diogel ac amserol at wasanaethau o safon uchel o ran gofal a gynlluniwyd, gofal canser a gofal brys ac argyfwng ledled y Gogledd.