Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn proses benodi gyhoeddus agored, ac yn unol â'r Cod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus, mae'n bleser gen i gyhoeddi bod Cadeirydd parhaol wedi'i benodi ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. 

Cadeirydd y bwrdd yw Dyfed Edwards. Bydd Dyfed yn parhau i gynnig cyfoeth o brofiad a gwybodaeth i'r bwrdd ac yn parhau i adeiladu ar y sylfeini rhagorol y mae wedi'u gosod yn ystod yr 11 mis diwethaf.

Mae proses ar y gweill i recriwtio pedwar aelod annibynnol arall. Bydd y penodiadau hyn yn cael eu cyhoeddi ym mis Chwefror. Bydd y nifer llawn o aelodau bwrdd yn sicrhau bod gan y bwrdd y sgiliau a'r arbenigedd priodol i arwain y sefydliad drwy Fesurau Arbennig.