Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn gynharach yr wythnos hon, daeth gohebiaeth i law gan Dr Simon Brooks, yn fy hysbysu y bydd yn cymryd cam yn ôl am gyfnod fel Cadeirydd ail gam y Comisiwn sy’n edrych ar sefyllfa’r Gymraeg fel iaith gymunedol y tu allan i’r ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch. Mae Dr Brooks ar hyn o bryd yn derbyn triniaeth canser.

Rwy’n dymuno’r gorau i Simon yn ystod y driniaeth ac yn edrych ymlaen iddo ail gydio yn y gwaith cyn gynted ag y bydd hynny’n ymarferol bosib. Hoffwn ddiolch yn fawr iddo am ei waith cynhwysfawr ac am ei weledigaeth a’i arweiniad. Mae’r adroddiad wedi creu dadansoddiad ac argraff gref o’r heriau sy’n wynebu ein cymunedau dwysed uwch. Byddwn ni fel Llywodraeth yn ymateb yn swyddogol i adroddiad Grymuso Cymunedau, cryfhau’r Gymraeg ar y 29 Mai yn Eisteddfod Yr Urdd, Margam. 

Yn y cyfamser, mae’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, sef is-gadeirydd yr ail Gomisiwn, wedi cytuno i gymryd yr awenau fel Cadeirydd dros dro. Hoffwn ddiolch i Elin am ymgymryd â’r dyletswyddau hyn am gyfnod.

Bydd Dr Lowri Cunnington Wynn, hefyd yn cynorthwyo’r Comisiwn gyda’i waith. Roedd Lowri yn aelod o gam cyntaf y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ac mae’n dod â phrofiad sylweddol o’r maes datblygu cymunedol a chymdeithasol gyda hi.

Edrychaf ymlaen at glywed mwy am waith a chanfyddiadau’r Comisiwn dros y flwyddyn sydd i ddod.