Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Rwyf am i bob plentyn yng Nghymru ffynnu, gyda chefnogaeth system addysg sydd yn rhoi eu lles pennaf o flaen popeth arall.
Gall dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal wynebu rhwystrau penodol a allai effeithio ar eu gallu i ffynnu yn yr ysgol, fel aflonyddwch yn eu bywydau y tu allan i'r ysgol a phrofiadau trawmatig yn y gorffennol. Gan gydnabod profiadau ac anghenion unigryw'r garfan hon o ddysgwyr, cynhaliodd Llywodraeth Cymru gynllun peilot Model Ysgol Rithwir. Darparwyd £1.24 miliwn i awdurdodau lleol i weithredu model ysgol rithwyr rhwng 2021-2024.
Mae'r model ysgol rithwyr yn cefnogi dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal fel pe baent mewn un ysgol. Nid yw'r ysgol rithwir yn bodoli fel sefydliad neu adeilad ffisegol, yn hytrach mae'n rhwydwaith cymorth pwrpasol sydd wedi'i gynllunio i ddiwallu anghenion addysgol ac emosiynol y plentyn, gan ganiatáu iddynt ffynnu yn eu lleoliad addysg a chyrraedd eu potensial llawn.
Heddiw rwy'n cyhoeddi gwerthusiad annibynnol o'r cynllun peilot. Mae'r adroddiad yn amlinellu'r gwahanol ffyrdd y defnyddiwyd y cyllid ar gyfer model ysgol rithwyr i gefnogi plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal; effeithiau cynnar y cyllid; a chymharu'r dulliau a gymerwyd gan awdurdodau lleol na wnaeth gais am y cyllid.
Nododd yr ymchwil effeithiau cadarnhaol y cynllun peilot, megis integreiddio gwell rhwng timau a gwasanaethau sy'n cefnogi plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal mewn awdurdodau lleol; mwy o awdurdod yn gysylltiedig â'r rôl arweiniol; cryfhau cydweithrediad strategol gyda'r rheini a oedd wedi cymryd dull tebyg; mwy o ddarpariaeth ataliol a lefelau uwch o gasglu data. Rwyf wedi ymweld ag ysgolion rhithwir ledled Cymru a chlywed am eu gwaith ac rwyf wedi gweld y gwahaniaeth y maent yn eu gwneud.
Bydd canfyddiadau'r gwerthusiad o'r model ysgol rithwyr yn llywio datblygiad polisi a chyfeiriad strategol yn y dyfodol ar y cymorth i blant sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn y system addysg yng Nghymru.
Mae'r cynllun peilot yn ategu cymorth ac adnoddau eraill gan Lywodraeth Cymru i wella canlyniadau addysgol i ddysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal yng Nghymru:
- Mae swyddogion wedi cydweithio ag awdurdodau lleol a phartneriaid o'r Trydydd Sector i gydgynhyrchu cyfres o ganllawiau gyda'r bwriad o helpu awdurdodau lleol ac ysgolion i ddeall ac ymateb i anghenion dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn well a hyrwyddo arferion effeithiol.
- Rydym yn ariannu Adoption UK Cymru yn y flwyddyn ariannol hon i ddarparu hyfforddiant i ymarferwyr addysg i'w helpu i ymateb yn effeithiol i anghenion cymdeithasol dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal.
- Rydym wedi comisiynu Estyn i gynnal adolygiad thematig i effeithiolrwydd y ddarpariaeth addysg ar gyfer dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn 2026. Bydd y canfyddiadau'n cael eu defnyddio i nodi a rhannu arferion effeithiol ar draws y sector.
- Rydym yn cydweithio â'r sector i sicrhau bod dysgwyr yn elwa ar u cymorth ychwanegol sydd wedi'i dargedu drwy'r Grant Datblygu Disgyblion i blant sy'n derbyn gofal yn ogystal â'r Grant Hanfodion Ysgol, sydd ar gael i bob plentyn sy'n derbyn gofal o'r dosbarth derbyn hyd at flwyddyn 11.
Mae dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal wrth wraidd y gwaith hwn, gyda'u lleisiau yn cael eu hyrwyddo gan ein partneriaid allweddol, gan gynnwys awdurdodau lleol, Voices from Care a Adoption UK Cymru.
Mae'r gwaith hwn i gyd yn cyfrannu at fy uchelgais o wella deilliannau addysgol ein dysgwyr mwyaf agored i niwed. Edrychaf ymlaen at barhau i adeiladu ar y rhaglen waith hon i sicrhau bod dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnynt i gyflawni eu potensial llawn.
