Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Rhagfyr 2023, rhoddais wybod i'r Aelodau mewn Datganiad Ysgrifenedig  ein bod wedi cyhoeddi'r Cynllun Gweithredu Cychwynnol ar gyfer ein Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol yng Nghymru. Hoffwn ddiolch unwaith eto i'r Grŵp Arbenigol am eu hadroddiad sy'n nodi'r camau y dylem eu cymryd tuag at Wasanaeth Gofal Cenedlaethol. 

Er bod y cynllun gweithredu cychwynnol yn cwmpasu cam 1 ein cynllun 10 mlynedd, mae talu am ofal yn agwedd hanfodol ar ein gweledigaeth ar gyfer y tymor hwy o sefydlu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol a fydd am ddim pryd a lle bynnag y bo'i angen. Rydym yn parhau wedi ymrwymo i sicrhau bod unigolion yn talu swm teg a rhesymol tuag at eu gofal a'u cymorth, gan weithio ar yr un pryd hefyd i wireddu'r uchelgais honno. Fodd bynnag, ni allwn anwybyddu'r pwysau economaidd parhaus o ganlyniad i’r cynnydd mewn costau ar sail chwyddiant. Mae awdurdodau lleol o dan bwysau cynyddol i ateb y galw a'r costau cysylltiedig o ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth. Fodd bynnag, nid yw hon yn sefyllfa sy'n unigryw i Gymru, ac mae heriau yn cael eu profi ar draws y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol ledled y DU.

Ar hyn o bryd, pan fydd oedolyn yn cael asesiad o anghenion gofal gan ei awdurdod lleol ac ystyrir ei fod yn gymwys i gael gwasanaethau gofal a chymorth amhreswyl, mae'n cael prawf modd ariannol. Bydd yr awdurdod lleol yn cynnal y prawf modd hwn i gadarnhau faint y dylai oedolyn ei gyfrannu tuag at gost y gwasanaethau sydd eu hangen. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gosod terfyn ar uchafswm y ffi wythnosol am wasanaethau gofal a chymorth amhreswyl y gall awdurdodau lleol ei chodi ar berson. Ar hyn o bryd, mae hwn wedi’i bennu yn £100 yr wythnos. Dylid nodi nad oes uchafswm ar gostau wythnosol gofal a chymorth amhreswyl yn Lloegr.

Mae cynnal y cap presennol o £100 ar uchafswm y ffi wythnosol wedi cael yr effaith o leihau cyfran yr incwm trethadwy y gall awdurdod lleol ei dderbyn yn erbyn y gost gynyddol o ddarparu gofal. Heddiw, yn gydnabyddiaeth o'r angen i helpu awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r pwysau ariannol cynyddol sydd arnynt, rydym wedi lansio ymgynghoriad a fydd yn ceisio barn ar y newidiadau arfaethedig i uchafswm y ffi wythnosol am wasanaethau gofal a chymorth amhreswyl i oedolion. Mae'r ymgynghoriad ar gael yma

Rydym yn cydnabod nad yw'r cynnig hwn i gynyddu uchafswm y ffi wythnosol yn gyson â'n huchelgais o Wasanaeth Gofal Cenedlaethol ‘am ddim pryd a lle bynnag y bo'i angen’ ond dyma yw ein nod ar gyfer gwasanaethau gofal yng Nghymru yn y tymor hwy o hyd. Byddwn yn adolygu'r ymatebion yn ofalus i sicrhau bod unrhyw benderfyniad a fydd yn cael ei wneud yn taro'r cydbwysedd rhwng codi incwm ychwanegol ar gyfer awdurdodau lleol i helpu i fodloni'r pwysau cynyddol sydd arnynt mewn perthynas â chostau, a bod yn deg ac yn fforddiadwy i bobl sy'n talu am y gwasanaethau gofal a chymorth amhreswyl y maent yn eu derbyn.

Rydym yn annog pawb sydd â buddiant i ymateb i'n hymgynghoriad fel y gallwn barhau i weithio gyda'n gilydd i sicrhau y gall ein gwasanaethau ddiwallu anghenion llesiant pobl yn y blynyddoedd sydd i ddod.