Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad hirsefydlog i gryfhau ein setliad datganoli, yn unol ag argymhellion a wnaed gan gyfres o gomisiynau proffil uchel, gan gynnwys y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, a'n Rhaglen Lywodraethu ein hunain. Mae'r datganiad hwn yn nodi’r cynnydd a'r camau nesaf.

Cyfiawnder Ieuenctid

Roedd Sicrhau Cyfiawnder i Gymru, a gyhoeddwyd gyntaf yn 2022, yn nodi sut y byddem yn ceisio dull graddol o ddatganoli cyfiawnder, gan ddechrau gyda chyfiawnder ieuenctid, y gwasanaeth prawf a phlismona. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn cael eu datganoli’n llawn.

Heddiw, mae llywodraethau Cymru a'r DU wedi cytuno ar ddatganiad ar y cyd, sy'n cynnwys cyfres o ymrwymiadau cadarn i ddatganoli cyfrifoldebau penodol Llywodraeth y DU dros ariannu gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid lleol, ac i weithio gyda Llywodraeth newydd Cymru i fynd ymhellach ac ehangu rôl oruchwylio Llywodraeth Cymru dros y gwasanaethau hynny. Bwriedir i swyddogaethau cyfiawnder ieuenctid newydd ddod i rym o fis Ebrill 2027.

Y Gwasanaeth Prawf 

Mae llywodraethau Cymru a'r DU a phedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda'i gilydd i lunio Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth erbyn diwedd 2026.

Bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn canolbwyntio ar feysydd lle y gellir lleihau aildroseddu drwy gydweithio agosach rhwng y Gwasanaeth Prawf a gwasanaethau datganoledig yng Nghymru, gan gynnwys rhoi mwy o hyblygrwydd yn lleol i deilwra gwasanaethau ar gyfer anghenion unigolion sydd o dan oruchwyliaeth y gwasanaeth prawf yng Nghymru. 

Bydd yn cael ei lywio gan adroddiad sy'n cael ei gyhoeddi heddiw gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, sy'n ystyried y cyfleoedd a gynigir gan y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a'r camau a allai fod yn ofynnol i sicrhau ei lwyddiant. Rwy’n ddiolchgar iawn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ac i bawb a gyfrannodd at y gwaith hynod arwyddocaol hwn. 

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi ymrwymo i adolygiad strategol o lywodraethiant y gwasanaeth prawf, sy'n cynnwys archwilio sut y gall modelau datganoledig ei alluogi i fod yn fwy ymatebol yn lleol.

Plismona

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol wedi nodi ymateb Llywodraeth Cymru i gynigion Llywodraeth y DU i greu trefniadau llywodraethiant newydd ar gyfer plismona ar ddiwedd tymor comisiynwyr yr heddlu a throseddu yn 2028. Rydym yn parhau i fod o’r farn y dylid datganoli plismona i Gymru, er ein bod yn cydnabod nad dyma bolisi Llywodraeth bresennol y DU. 

Fodd bynnag, mae polisi Llywodraeth y DU o symud llywodraethiant plismona lleol i lywodraeth leol yn dod ag ef i faes cyfrifoldeb datganoledig. Mae hyn yn golygu’n anochel y bydd angen i'r cynigion ar gyfer trefn i gymryd lle comisiynwyr yr heddlu a throseddu adlewyrchu'r trefniadau llywodraethiant gwahanol yng Nghymru. Rydym wedi gweithio gyda phedwar comisiynydd heddlu a throseddu Cymru, llywodraeth leol a phartneriaid eraill i ddatblygu trefniadau llywodraethiant newydd ar gyfer Cymru ac wedi cyflwyno'r rhain i Lywodraeth y DU i'w hystyried. Mae'r rhain yn seiliedig ar greu Byrddau Plismona a Throseddu rhanbarthol, sy'n cynnwys arweinwyr ac aelodau cynghorau, gan ffurfioli yn y gyfraith rôl Bwrdd Partneriaeth Plismona presennol Cymru, sy'n cael ei gadeirio gan Weinidogion Cymru.

Rheilffyrdd

Ers i Fil Rheilffyrdd gael ei gynnwys yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU, rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y Bil yn sicrhau'r canlyniadau gorau i Gymru. 

Rydym wedi cytuno ar gymal penodol yn y Bil, sydd wedi arwain at ddatblygu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth a Gweinidogion Cymru.

Bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn cynnwys ymrwymiadau i wneud y canlynol:

  • Datblygu a chyhoeddi set o gydamcanion ar gyfer pob cyfnod ariannu, gan sefydlu cyfeiriad strategol ar y cyd ar gyfer darparu gwasanaeth rheilffyrdd yn ardal Cymru a'r Gororau.
  • Sicrhau bod penderfyniadau ynghylch mynediad, capasiti a chodi tâl yn adlewyrchu'r cydamcanion ac yn cydnabod cyfrifoldebau amlfoddol Trafnidiaeth Cymru (TrC). Bydd hyn yn caniatáu i Great British Rail (GBR) a TrC gynllunio gyda'i gilydd yn fwy effeithiol a helpu i greu profiad di-dor i deithwyr.
  • Datblygu trefniant partneriaeth ffurfiol rhwng GBR a TrC i helpu i integreiddio traciau a threnau, lleihau cymhlethdod y rhyngwyneb, a hyrwyddo rheilffordd fwy cydlynol ac ymatebol.
  • Fframwaith clir ar gyfer datblygu, rheoli ac ariannu gwasanaethau trawsffiniol drwy gydweithredu, gan sicrhau parhad, tryloywder a goruchwyliaeth ar y cyd dros newidiadau sy'n effeithio ar gymunedau ar ddwy ochr y ffin.
  • Uchelgais gyffredin i leihau cymhlethdod rheoleiddiol diangen ar Linellau Craidd y Cymoedd.

Bydd y Memorandwm yn cael ei ategu gan gytundeb partneriaeth rhwng y sefydliad newydd a grëir drwy'r Bil, GBR a TrC. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn gweithio tuag at amcanion y cytunwyd arnynt ar y cyd ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a'r Gororau a gwasanaethau'r DU sy'n gwasanaethu yn ardal Cymru a'r Gororau. 

Mae'r Memorandwm yn gytundeb byw a fydd yn parhau i gael ei adolygu wrth i'r Bil fynd drwy'r Senedd ac ar ôl iddo gael y Cydsyniad Brenhinol.  Mae hyn yn bwysig er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu natur esblygol y rhwydwaith a'r gwasanaethau rheilffyrdd.

Ein huchelgais o hyd yw datganoli gwasanaethau a seilwaith rheilffyrdd yn llawn, i'n galluogi i ddarparu system drafnidiaeth well ac integredig ar gyfer Cymru. Mae hwn yn gam arwyddocaol ymlaen o ran ein hagwedd gydweithredol at ddiwygio rheilffyrdd.

Cymorth Cyflogadwyedd

Mae llywodraethau'r DU a Chymru wedi cytuno sut y byddant yn cyflawni ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatganoli cyllid cymorth cyflogaeth nad yw'n rhan o'r Ganolfan Byd Gwaith i Gymru yn ystod cyfnod Senedd bresennol y DU. 

Mae hyn eisoes wedi dechrau gyda'r cytundeb i drosglwyddo hyd at £20m ar gyfer y cynlluniau peilot Blaengaredd ym maes anweithgarwch economaidd dros y flwyddyn hon a'r flwyddyn nesaf. Blaenau Gwent, Sir Ddinbych a Chastell-nedd Port Talbot fydd y prif ardaloedd peilot yn 2026-27 o hyd, ond byddwn yn ehangu cynlluniau peilot ar draws ardaloedd pob awdurdod lleol yng Nghymru.

Bydd cyllid pellach o raglenni cyflogaeth newydd y cytunwyd arnynt sy'n cael eu darparu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cael ei drosglwyddo i Gymru i gynllunio a darparu cynlluniau cymorth cyflogaeth yn agosach at gymunedau lleol gan ddefnyddio Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru. Bydd cymorth cyflogaeth Llywodraeth y DU sydd ar gael eisoes, neu y mae cytundeb cyllido wedi'i sefydlu ar ei gyfer, yn parhau ac ni fydd o fewn cwmpas y datblygiad hwn.

Bydd hyn yn cryfhau gallu Llywodraeth Cymru i helpu pobl yng Nghymru i symud yn nes at gyflogaeth ac ymuno â'r gweithlu, gan helpu i wella safonau byw ledled Cymru a chefnogi twf economaidd.

Ystad y Goron

Ym mis Medi 2025, fe wnes i greu grŵp annibynnol, o dan arweiniad arbenigwyr, i ystyried dyfodol datganoli ynni ac Ystad y Goron yng Nghymru yn unol ag argymhellion y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru a chan adlewyrchu'r ymgyrch sydd ar y gweill ynghylch datganoli Ystad y Goron. 

Heddiw, rwy'n cyhoeddi adroddiad interim y grŵp, sy'n cynnwys pedwar argymhelliad sydd â'r nod o wella strwythurau llywodraethiant ac atebolrwydd Ystad y Goron er mwyn sicrhau'r manteision economaidd a chymdeithasol gorau i bobl Cymru mewn modd sy'n cynyddu ymddiriedaeth y cyhoedd ac yn nodi llwybr tuag at ddatganoli. 

Rwy'n croesawu'r berthynas gadarnhaol barhaus sydd gennym ag Ystad y Goron ac rwy'n diolch i'r grŵp am ei awgrymiadau ynglŷn â sut y gall Llywodraeth nesaf Cymru barhau i weithio mewn partneriaeth ag Ystad y Goron i sicrhau'r budd gorau i Gymru o fuddsoddiadau yn y Môr Celtaidd yn y dyfodol. Mae Ystad y Goron wedi ymrwymo i berthynas waith ddyfnach gyda Llywodraeth Cymru.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau datganoli Ystad y Goron yng Nghymru. Rydym yn cydnabod mai proses ac nid digwyddiad yw datganoli, a'i bod wedi cymryd tri thymor seneddol yn yr Alban i gyflawni hyn yn llwyddiannus. Mae'r adroddiad interim hwn yn gam pwysig ymlaen.