Vikki Howells, Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch
Ddoe, roeddwn yn falch o gwrdd ag Is-Gangellorion o brifysgolion ledled Cymru fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cysylltiad rheolaidd, cadarn a rhagweithiol yn cael ei feithrin â'r sector addysg uwch.
Fy mhrif flaenoriaeth yw diwygio'r system addysg drydyddol i sicrhau ei bod yn parhau i gynnig profiad cyfoethog, amrywiol, o ansawdd uchel i ddysgwyr, gan sicrhau ei bod yn gynaliadwy ar yr un pryd.
Yn y cyfarfod bord gron ddoe, parhawyd â'r drafodaeth ar sut gall Llywodraeth Cymru, Medr, a'r sector weithio gyda'i gilydd i gyflawni newid trawsffurfiol. Cafwyd cwmni cynrychiolwyr o Brifysgolion Cymru a Medr.
Rwyf eisoes yn cynnal gwerthusiad o Ddiwygiadau Diamond i gyllid myfyrwyr Addysg Uwch, y cyhoeddwyd y cynllun ar ei gyfer ar 2 Gorffennaf Diwygiadau Diamond i gyllid myfyrwyr: cynllun gwerthuso 2024 | LLYW.CYMRU. Nod yr ymchwil yw darparu tystiolaeth yn ymwneud ag ehangu mynediad at addysg uwch, cryfhau darpariaeth rhan-amser, a chryfhau'r ddarpariaeth ôl-raddedig. Byddaf yn sicrhau bod rhanddeiliaid yn cael y cyfle i drafod a chyfrannu at yr ymchwil hon. Bydd fy swyddogion yn cynnal gweithdy gyda rhanddeiliaid addysg uwch yn yr hydref.
Mae galluogi ac annog cydweithio yn un arall o fy mlaenoriaethau ac mae hynny'n hanfodol i sicrhau bod darpariaeth briodol ar gael ledled Cymru. I'r perwyl hwnnw, cafwyd diweddariadau ar ddau faes a nodwyd yn y cyfarfod bord gron diwethaf.
Yn gyntaf, gofynnais i Medr a'm swyddogion weithio gyda'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) ar gamau y gellid eu cymryd i gefnogi cydweithio. O ganlyniad i'r trafodaethau cynhyrchiol â'r CMA gan fy swyddogion, Llywodraeth y DU a Medr yn gweithio gyda'i gilydd, llwyddwyd i drafod y manteision a'r rhwystrau yn fanwl, gan gynnwys y cyhoeddiad diweddar gan y CMA yn nodi enghreifftiau o'r ffyrdd y gall darparwyr gydweithio yn hyderus. Roedd hefyd yn ddefnyddiol cael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Brifysgolion Cymru ar ei waith gyda Phrifysgolion y DU ar Adroddiad y Tasglu Trawsnewid ac Effeithlonrwydd: ‘Towards a New Era of Collaboration’.
Yn ail, gofynnais i Medr gynnal adolygiad o'r galw, y ddarpariaeth a dosbarthiad pynciau Addysg Uwch yng Nghymru. Rwyf am i'r gwaith hwn ddarparu sylfaen ddata gadarn a gwell syniad o'r dirwedd Addysg Uwch. Rhoddodd Medr ddiweddariad ar sut mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo a disgwylir adroddiad yn yr hydref.
Mae'n hanfodol bod Medr yn gweithio'n agos gyda'r sector, yn enwedig ym meysydd llywodraethiant a rheoli risg. Rhoddodd Medr ddiweddariad ar feysydd gwaith allweddol, gan gynnwys cyhoeddi ei Gynllun Strategol a'i Gynllun Gweithredol, sydd gyda'i gilydd yn darparu rhagor o fanylion ar sut y bydd yn ysgogi diwygio. Cyfeiriwyd hefyd at ymgynghoriad Medr ar y drefn reoleiddio ar gyfer addysg drydyddol ac ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y dull arfaethedig o ddynodi cyrsiau addysg uwch yn awtomatig at ddibenion cymorth i fyfyrwyr.
Roeddwn hefyd yn falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith i gynyddu'r nifer o bobl sy'n cofrestru ar gyfer bob math o gyrsiau addysg drydyddol, sy'n parhau i fod yn flaenoriaeth imi.
Rwyf eisoes wedi nodi'r meysydd y byddaf yn eu blaenoriaethu wrth weithio gyda Llywodraeth y DU ar eu cynlluniau nhw ar gyfer diwygio addysg uwch. Mae fy swyddogion a minnau yn cael trafodaethau rheolaidd â Llywodraeth y DU, a rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf am fy sgyrsiau diweddar ar feysydd polisi pwysig sy'n ymwneud â Chymru, gan gynnwys y Papur Gwyn diweddar ar fewnfudo, y strategaeth ddiwydiannol a chynlluniau ar gyfer addysg a sgiliau ôl-16.
Rwy'n ymwybodol bod hwn yn parhau i fod yn gyfnod heriol i'r sector addysg uwch yng Nghymru a ledled y DU, sy'n annifyr i staff a myfyrwyr. Roedd yn hanfodol neilltuo amser yn ystod y cyfarfod bord gron i drafod pwysigrwydd dull partneriaeth gymdeithasol ac i ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r egwyddorion hyn.
Yn fwy nag erioed, rwy'n credu bod meithrin cysylltiadau rheolaidd a chefnogol yn gynnar â'r holl randdeiliaid yn gyfrifoldeb sylfaenol, ac roedd yn galonogol iawn gweld ein holl brifysgolion a cholegau yng nghynhadledd Medr yr wythnos diwethaf ar Hyrwyddo cydweithredu ag undebau llafur. Edrychaf ymlaen at weld cynnydd ar draws y system drydyddol yn y maes hwn.
Rhaid inni beidio â cholli golwg ar y darlun a'r cyfleoedd ehangach. Mae ein prifysgolion yn hanfodol i'n huchelgeisiau ar gyfer gwella gwasanaethau cyhoeddus, tyfu'r economi, hyrwyddo ymchwil ac arloesi a galluogi llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Bydd meithrin cysylltiadau â blaenoriaethau trawslywodraethol, gan gynnwys parhau i gefnogi a hyrwyddo'r Gymraeg, yn helpu i gyfoethogi ein cymunedau a thyfu'r economi.
Rwy'n ddiolchgar i bawb am roi o'u hamser i ymuno â'r cyfarfod, ac am y sgwrs agored a gonest. Edrychaf ymlaen at barhau i ymgysylltu ar draws y sector, a byddaf yn rhoi diweddariadau pellach yn yr hydref.