Nerys Evans AS, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol
Heddiw, rwy'n lansio ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer gweithredu a gorfodi cyfyngiadau deddfwriaethol ar werthu diodydd egni sy'n uchel mewn caffein i blant dan 16 oed yng Nghymru. Mae'r ymgynghoriad yn gam nesaf pwysig wrth ystyried sut y gallai cyfyngiadau gael eu gweithredu a’u gorfodi yng Nghymru.
Mae'r dystiolaeth ddiweddaraf yn awgrymu bod cysylltiad rhwng yfed diodydd egni sy'n uchel mewn caffein a chanlyniadau iechyd negyddol i blant. Mae'r rhain yn cynnwys cur pen amlach, anniddigrwydd, blinder, poenau stumog, llai o gwsg, ansawdd cwsg yn dirywio, a risg uwch o ddioddef straen, gorbryder ac iselder.
Fe wnaeth y Llywodraeth Cymru flaenorol ymgynghori a chasglu dystiolaeth ar gynigion i gyfyngu ar werthu diodydd egni sy’n uchel mewn caffein i blant dan 16 oed, a chafwyd cefnogaeth gyffredinol i gamau gweithredu. Ar ôl ystyried y dystiolaeth a'r ymatebion i'r ymgynghoriad cynharach hwnnw, mae Llywodraeth bresennol Cymru wedi penderfynu bwrw ymlaen â chynigion i wahardd gwerthu diodydd egni sy’n uchel mewn caffein i blant o dan 16 oed, yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwn. Diodydd yw'r rhain, heblaw te a choffi, sy'n cynnwys dros 150mg o gaffein y litr.
Mae'r ymgynghoriad sydd wedi’i lansio heddiw yn ceisio barn ar y fframwaith gorfodi arfaethedig. Mae'r fframwaith hwn yn cynnwys trefniadau gwirio oedran ar-lein, asesu gweithgarwch cydymffurfio, sancsiynau, amserlenni gweithredu a threfniadau monitro.
Er mwyn cefnogi cysondeb a lleihau'r baich ar fusnesau, mae'r fframwaith gorfodi arfaethedig yn cyd-fynd yn fras â dull gweithredu Llywodraeth y DU yng nghyd-destun deddfwriaeth i wahardd gwerthu diodydd egni sy'n uchel mewn caffein i blant dan 16 oed yn Lloegr, ac mae'n adlewyrchu trefniadau gorfodi Cymru. Mae'r cynigion yn cynnwys gwneud awdurdodau bwyd awdurdodau lleol yn gyfrifol am orfodi, defnyddio dull gweithredu cymesur sy'n canolbwyntio ar gydymffurfiaeth a gweithredu cosbau ariannol penodedig fel dewis arall i erlyniad troseddol am dorri cyfyngiadau mewn achosion priodol.
Mae hyn yn gam pwysig wrth helpu i greu amgylcheddau bwyd iachach i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Drwy leihau mynediad plant at ddiodydd egni sy'n uchel mewn caffein, mae'r polisi yn ceisio cefnogi gwelliannau mewn iechyd a lles a chyfrannu at ymdrechion ehangach i leihau anghydraddoldebau iechyd.
Bydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn helpu i lywio’r penderfyniadau terfynol ynglŷn â bwrw ymlaen â’r cynigion ai peidio, a sut y bydd hynny’n cael ei wneud, gan gynnwys y trefniadau gweithredu a gorfodi manwl.
Bydd swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda busnesau, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod canllawiau a deunyddiau cymorth clir ar gael cyn i unrhyw ddeddfwriaeth ddod i rym.
