Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r datganiad hwn yn dilyn nifer o ddatganiadau rwyf wedi’u gwneud am reolaethau ffin.

Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Model Gweithredu Targed y Ffin newydd sy’n nodi’r dull y byddwn yn ei ddefnyddio yn y dyfodol o ran rheolaethau diogelwch (a fydd yn berthnasol i bob math o allforion) (https://www.gov.uk/government/publications/the-border-target-operating-model-august-2023 - Saesneg yn unig), a rheolaethau iechydol a ffytoiechydol (a fydd yn berthnasol i fewnforio anifeiliaid byw, cynhyrchion egino, cynhyrchion anifeiliaid, planhigion a chynhyrchion planhigion) ar ffiniau Prydain Fawr. Rwy’n falch ei fod wedi cael ei gyhoeddi o’r diwedd.

Mae Llywodraeth Cymru, gan weithredu ar gyngor gan y Prif Swyddog Milfeddygol, y Prif Swyddog Iechyd Planhigion a’r Asiantaeth Safonau Bwyd, wedi cytuno ar y fframwaith a amlinellir ym Model Gweithredu Targed y Ffin. Mae’r fframwaith hwn wedi cael ei ddatblygu dros nifer o fisoedd o gydweithio rhwng Llywodraethau Cymru, yr Alban a’r DU. Caiff crynodeb o’r cyngor gan arbenigwyr ei ddarparu gyda’r datganiad ysgrifenedig hwn.

Mae manteision cyfundrefn fasnachu gydlynol ar draws Prydain Fawr yn amlwg, nid yn unig er budd ein bioddiogelwch ar y cyd ond hefyd o ran osgoi cymhlethdodau diangen i fasnachwyr. O ganlyniad i’n cyfranogiad, rydym wedi sicrhau model sy’n gweithio i Gymru.

Bydd y rheolaethau newydd yn cael eu cyflwyno'n raddol, gyda’r rheolaethau iechyd a ffytoiechydol yn dod i rym ym mis Ionawr 2024, yn hytrach nag ym mis Hydref 2023 fel a nodwyd ym Model Gweithredu Targed y Ffin a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2023. Nid oedd dewis gennym ond derbyn yr oedi hwn, ond mae’n bwysig nad oes unrhyw oedi pellach.

Yn ogystal â’r gofyniad am ardystiad iechyd a ffytoiechydol ar gyfer allforion, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno gofyniad i raghysbysu ynghylch rhai categorïau ychwanegol o nwyddau iechydol a ffytoiechydol sy’n cael eu mewnforio o Weriniaeth Iwerddon ym mis Ionawr 2024. Mae’r gofyniad hwn eisoes wedi bod ar waith ar gyfer mewnforion tebyg o’r UE sy'n cyrraedd mannau eraill ym Mhrydain Fawr ers mis Ionawr 2022.

Nid oedd Model Gweithredu Targed y Ffin drafft yn cynnig dyddiad ar gyfer cyflwyno gwiriadau ffisegol ar fewnforion nwyddau o Iwerddon. Mae Model Gweithredu Targed y Ffin yn cadarnhau na fydd yn gynharach na 31 Hydref 2024. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad arall cyn gynted ag y bo modd, pan fydd y tair Llywodraeth wedi cael y cyfle i gytuno ar ddyddiad ar gyfer dechrau gwiriadau ffisegol yn ein porthladdoedd ar arfordir y gorllewin.

Hoffwn i weld o leiaf blwyddyn o rybudd ar gyfer y busnesau yr effeithir arnynt. Bydd hyn hefyd yn caniatáu i'r awdurdodau lleol perthnasol yng ngogledd a gorllewin Cymru, sy’n gyfrifol am borthladdoedd Caergybi, Abergwaun a Doc Penfro, gynllunio a recriwtio mewn modd priodol. Yn y cyfamser, byddwn ni’n parhau i weithio’n agos gyda nhw a’r porthladdoedd wrth i'r rheoliadau newydd hyn a'u cyfleusterau ategol gael eu rhoi ar waith.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.