Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n falch o gael rhoi gwybod ein bod heddiw wedi cyhoeddi adroddiad ar Newidiadau i enwau lleoedd yng Nghymru: ymchwil ar dueddiadau cyfredol.   

Mae Cymru’n wlad a chanddi dirweddau ieithyddol cyfoethog, sy’n amrywio o enwau ar gyfer aneddiadau a nodweddion daearyddol i enwau cartrefi, caeau a safleoedd eraill o bwysigrwydd lleol. Mae rhai o’n henwau’n mynd yn ôl ganrifoedd, ac yn dystiolaeth o strwythurau llywodraethiant neu ddefnydd tir cynharach, o newid ieithyddol neu dwf poblogaeth, ac o ddylanwad diwydiant neu weithgarwch hamdden. Mewn sawl ffordd, maen nhw’n ein helpu i wybod pwy ydyn ni yn ogystal â phwy fuon ni yn y gorffennol.

Mae enwau lleoedd, wrth gwrs, yn hynod bwysig i naws weledol a chlywedol y wlad. Er bod rhywfaint o newid arnynt wedi bod erioed, bu pryder cynyddol dros y blynyddoedd diwethaf bod rhai o’r enwau Cymraeg sy’n rhoi lliw a chymeriad i gefn gwlad a’n cymunedau yn cael eu colli, a’u disodli’n aml gan enwau Saesneg sydd heb unrhyw gysylltiad â’r ardal na’i hanes neu ddiwylliant. Ysgogodd y pryderon hyn i Lywodraeth Cymru gynnwys ymrwymiad i ‘weithredu i amddiffyn enwau lleoedd Cymraeg’ yn ein Rhaglen Lywodraethu ar gyfer tymor y Senedd bresennol (ar y cyd ag ail ymrwymiad mewn perthynas ag enwau lleoedd yn y Cytundeb Cydweithio).

Yn y gorffennol, bu llawer o’r dystiolaeth a grybwyllwyd dros ddisodli enwau lleoedd Cymraeg yn anecdotaidd ac yn anodd ei chloriannu. Dydy hynny ddim yn syndod, am fod astudio enwau lleoedd yn faes eang a chymhleth, gyda gwahanol fathau o enwau yn gysylltiedig â heriau gwahanol. Mae hynny’n golygu bod yr enwau ar gyfer cartrefi, busnesau, strydoedd a datblygiadau, yn ogystal â’r rheini ar gyfer nodweddion yn y dirwedd naturiol, oll yn galw am wahanol ddulliau o’u gwarchod a’u hyrwyddo. Does dim un ateb, felly, sy’n addas i bob math o enw. 

O ganlyniad, comisiynwyd yr ymchwil hwn i ganfod ble, sut a pham mae newidiadau i enwau lleoedd yng Nghymru yn digwydd, faint o enwau sy’n newid neu sydd wedi newid yn ddiweddar, a natur y newidiadau hyn. Y nod oedd casglu tystiolaeth i lywio opsiynau polisi er mwyn gwella’r ffordd rydym yn gwarchod ac yn hyrwyddo enwau lleoedd Cymraeg. 

Am ei fod yn cynnwys cyfoeth o ddata am newidiadau i enwau eiddo (fel cartrefi a busnesau), mae’r ymchwil eang ac arloesol hwn yn trawsnewid ein dealltwriaeth o’n tirwedd ieithyddol. Mae hyn yn golygu bod gennym, am y tro cyntaf, sylfaen dystiolaeth awdurdodol ar gyfer datblygu camau pellach i warchod enwau lleoedd Cymraeg.

Mae’r ymchwil a gyhoeddir heddiw yn canolbwyntio’n bennaf ar enwau eiddo (gan gynnwys tai, ffermydd ac adeiladau eraill), enwau busnesau, ac enwau strydoedd a datblygiadau. O ran enwau yn yr amgylchedd naturiol, nododd yr ymchwil yn benodol yr angen am ragor o ymchwil i newidiadau i enwau topograffig, sy’n destun pryder i lawer yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod arwyddocâd a phwysigrwydd enwau topograffig i gymeriad ein tirwedd. Am fod y dystiolaeth berthnasol, ac felly’r ysgogiadau polisi sydd ar gael i ni, yn anoddach i’w pennu nag yn achos enwau adeiladau, bydd y maes eang a heriol hwn yn galw am gael ei archwilio’n fanwl.  

Mae’r ymchwil yn rhoi darlun awdurdodol o’r tueddiadau yng Nghymru, sy’n golygu bod gennym bellach sylfaen dystiolaeth i lywio’n camau pellach, y byddwn yn eu cyhoeddi maes o law. Yn y cyfamser, wrth i ni bwyso a mesur y canfyddiadau, rydw i’n annog pawb i ddarllen yr adroddiad, yn arbennig y rheini sydd â diddordeb arbennig mewn enwau lleoedd. Rwy’n ddiolchgar i bawb a gyfrannodd at yr adroddiad hwn, ac i bob aelod o’n cymunedau sy’n chwarae rhan yn gwarchod ein henwau Cymraeg a hanesyddol unigryw. Rwy’n awyddus iawn i ni i gyd barhau i gydweithio ar y maes hwn, sy’n un o arwyddocâd cenedlaethol.