Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Chwefror 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi fy mod yn sefydlu Grŵp Cynghori ar Drethi yng Nghymru.

Sefydlir y Grŵp er mwyn cynghori a chefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi ddatblygu polisïau datganoledig ym maes trethi, a’r trefniadau i’w casglu a’u rheoli. Bydd hefyd yn cynghori ar effaith ehangach polisïau datganoledig ym maes trethi ar randdeiliaid, ar yr economi, ac ar wead cymdeithasol Cymru. Gan adeiladu ar gyngor gan y Grŵp, byddaf yn sicrhau bod y polisïau hyn yn gydnaws â’n hegwyddorion o ran trethi, sef tegwch, symlrwydd, cefnogi twf a swyddi, a darparu sefydlogrwydd a sicrwydd i drethdalwyr. Bydd y Grŵp hefyd yn helpu Llywodraeth Cymru i gyfathrebu ag ystod eang o randdeiliaid ynglŷn â pholisïau datganoledig ym maes trethi a’r dull o’u gweinyddu, gan sicrhau bod ein hymgynghoriadau a’n deddfwriaeth yn cael eu datblygu mewn ffordd drylwyr a chynhwysol.

Mae aelodaeth y Grŵp Cynghori ar Drethi yn eang, gan fy mod yn awyddus i sicrhau ei fod yn cynrychioli amrywiaeth o safbwyntiau. Mae’r Grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o’r sefydliadau canlynol:  

  • Cydffederasiwn Diwydiant Prydain   
  • Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru 
  • Y Ffederasiwn Busnesau Bach 
  • Sefydliad y Cyfarwyddwyr 
  • Sefydliad Bevan 
  • TUC Cymru
  • Cymdeithas y Cyfreithwyr

Rwyf hefyd wedi penodi tri aelod i’r Grŵp er mwyn cyfrannu arbenigedd a gwybodaeth eang ym maes trethi:  

  • David Phillips - Uwch Economegydd Ymchwil yn y Sefydliad Astudiaethau Cyllid; 
  • Andrew Evans - uwch bartner yn Geldards LLP; 
  • Frank Haskew - Pennaeth y Gyfadran Drethi, Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr.

Cynhelir cyfarfod cyntaf y Grŵp ar 5 Mawrth 2014.