Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Heddiw, rwy'n cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu pecyn ychwanegol o gymorth ardrethi annomestig gwerth £116m dros y ddwy flynedd ariannol nesaf.
Bydd y rhestr ardrethi annomestig nesaf yn dod i rym ar 1 Ebrill 2026, yn dilyn ailbrisiad. Dyma'r ail ailbrisiad a gyflwynir yn ystod tymor y Senedd hon a'r cyntaf ar y cylch tair blynedd a gyflwynwyd fel rhan o'n rhaglen o ddiwygiadau i ardrethi annomestig.
O ganlyniad, bydd y lluosydd safonol yn cael ei ostwng yn sylweddol yn 2026-27, i 0.502. Dyma'r tro cyntaf i'r lluosydd gael ei ostwng yng Nghymru ers 2010.
Yn gynharach eleni, fe wnaethom gadarnhau cynlluniau i gyflwyno lluosydd manwerthu is i ailgydbwyso'r system ardrethi annomestig o blaid siopau manwerthu bach a chanolig. Bydd y lluosydd manwerthu newydd yn cael ei osod ar 0.350 ar gyfer 2026-27. Bydd hyn yn lleihau biliau ardrethi annomestig trethdalwyr cymwys o tua £20m.
Bydd lluosydd uwch yn codi tâl atodol bach ar yr eiddo mwyaf (yn ôl gwerth) yn y sylfaen drethu, i wrthbwyso'r refeniw a gollir drwy'r lluosydd manwerthu a chefnogi'r amcan polisi cyffredinol. Bydd y lluosydd uwch newydd yn cael ei osod ar 0.515. Mae hyn ychydig yn fwy nag un geiniog yn y bunt yn uwch na'r lluosydd safonol ar gyfer 2026-27 ac yn sylweddol is na'r lluosydd presennol ar gyfer pob eiddo.
Bydd rheoliadau yn cael eu cyflwyno i osod gwerthoedd y lluosyddion gwahaniaethol newydd yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, bydd y newid strwythurol pwysig hwn i'r system ardrethi annomestig yn dod i rym ar 1 Ebrill 2026.
Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu rhyddhad trosiannol i'r holl drethdalwyr a fydd yn gweld cynnydd o fwy na £300 yn eu rhwymedigaethau, yn dilyn yr ailbrisiad. Bydd unrhyw gynnydd o'r fath yn cael ei gyflwyno'n raddol dros ddwy flynedd. Bydd trethdalwyr cymwys yn talu 33% o'u rhwymedigaeth ychwanegol yn y flwyddyn gyntaf (2026-27) a 66% yn yr ail flwyddyn (2027-28), cyn cyrraedd eu rhwymedigaeth lawn yn y drydedd flwyddyn (2028-29). Bydd £116m yn cael ei ddarparu dros ddwy flynedd i ariannu'r rhyddhad hwn yn llawn, gan gefnogi holl feysydd y sylfaen drethu mewn ffordd gyson a syml.
Er mwyn darparu ar gyfer rhyddhad trosiannol, byddaf yn gosod Rheoliadau drafft Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2025 gerbron y Senedd cyn gynted â phosibl. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, bydd y Rheoliadau yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2025 a byddant yn gymwys o 1 Ebrill 2026 ymlaen.
Mae'r pecyn cymorth hael hwn yn ychwanegol at ein rhyddhadau parhaol sy’n cael eu hariannu’n llawn, ac sydd ar hyn o bryd yn werth £250m i fusnesau a threthdalwyr eraill bob blwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i gefnogi busnesau i adfer ar ôl heriau economaidd diweddar ac i ffynnu wrth symud ymlaen.
