Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y bydd y cyhoeddiad ynghylch cau cynllun Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni (ECO) Llywodraeth y DU, ynghyd â'r newyddion bod Consumer Energy Solutions (CES) wedi rhoi'r gorau i fasnachu, yn achosi cyfnod o ansicrwydd i lawer o aelwydydd. Rwy'n ymwybodol bod etholwyr sy'n ansicr o'u hawliau a'r camau y dylent eu cymryd i sicrhau datrysiad wedi cysylltu ag Aelodau o'r Senedd.
Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â'r Adran Diogeledd Ynni a Sero Net ac Ofgem i sicrhau bod aelwydydd yr effeithir arnynt yn parhau i dderbyn cymorth gyda'u prosiectau ôl-osod parhaus, gan gynnwys y rhai nad yw eu gosodwyr cychwynnol bellach yn masnachu.
Mae'r Adran Diogeledd Ynni a Sero Net wedi cadarnhau eu bod wedi enwebu TrustMark i gefnogi cwsmeriaid CES yn uniongyrchol. Yr opsiynau cyswllt sydd ar gael yw ffonio Trustmark ar 0333 555 1234, llenwi ffurflen ar-lein (Saesneg yn unig) neu e-bostio disputes@trustmark.org.uk.
Dylai deiliaid tai sydd wedi bod yn anfodlon â gosodiadau ECO a wnaed gan osodwyr ac eithrio CES ddilyn y broses gwyno ECO safonol a nodir ar wefan Ofgem (Saesneg yn unig).
Ar gyfer yr aelwydydd hynny yng Nghymru y dywedwyd wrthynt eu bod yn gymwys ar gyfer y cynllun ECO ond nad yw'r gwaith gosod wedi dechrau eto, byddwn yn eu hannog i gysylltu â'n llinell gyngor Nyth ar 0808 808 2244 (o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 6pm) neu ofyn am alwad yn ôl gan un o'r cynghorwyr. Nid yw'r cynllun Nyth yr un fath ag ECO neu GBIS, ac ni allwn warantu cymhwysedd neu y bydd deiliaid tai yn cael cynnig yr un mesurau effeithlonrwydd ynni a gwresogi. Fodd bynnag, mae'r cynghorwyr yn barod i gefnogi pob deiliad tai cymwys a allai fod eisiau archwilio ffynonellau cymorth amgen.
