Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy’n lansio ein hymgynghoriad sy’n cynnig gwelliannau i ddarpariaethau yn Neddf Llywodraeth Leol 2000 a Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 sy’n galluogi newidiadau i gael eu rhoi ar waith yn nhrefniadau llywodraethu gweithredol prif gynghorau. 

Ar hyn o bryd, mae trefniadau llywodraethu gweithredol pob un o’r 22 prif gyngor yng Nghymru wedi’u seilio ar fodel ‘arweinydd a chabinet’. Yn dilyn etholiad cyffredin, bydd y prif gyngor yn penodi arweinydd, a bydd yr arweinydd wedyn fel arfer yn penodi cabinet o aelodau o’r prif gyngor.

Gellir newid trefniadau llywodraethu gweithredol prif gynghorau i fodel lle mae maer etholedig yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb am y swyddogaethau gweithredol.  Byddai gan faer etholedig yr hawl i benodi cabinet newydd, a gallai ddewis cabinet gwahanol yn lle’r un oedd yn gweithredu cyn iddo gael ei ethol.

Oherwydd y cyfyngiadau amser sydd wedi’u nodi mewn deddfwriaeth ar hyn o bryd, pe bai prif gyngor yn newid ei drefniadau gweithredol, efallai na fyddai modd i’r etholiadau am faer gael eu cynnal ar yr un pryd ag etholiad cyffredin i ethol cynghorwyr. Gallai cynnal etholiadau am faer yn fuan ar ôl (neu cyn) etholiad cyffredin darfu ar y prif gyngor a gallai ei ansefydlogi.

Rydym yn cynnig y dylai fod modd i ddeisebau gael eu cyflwyno, i gynigion ar gyfer penderfyniadau gael eu llunio gan brif gynghorau ac i gyfarwyddiadau a gorchmynion gael eu gwneud gan Weinidogion Cymru o’r diwrnod ar ôl etholiad cyffredin ac y dylai’r dyddiad terfyn fod ddeunaw mis cyn dyddiad yr etholiad cyffredin nesaf. Yn dilyn deiseb neu benderfyniad, cyfarwyddyd neu orchymyn llwyddiannus, y bwriad yw y byddai digon o amser i gynnal unrhyw refferendwm a galluogi unrhyw etholiadau am faer i gael eu cynnal ar yr un pryd â'r set nesaf o etholiadau cyffredin.

Ein bwriad ni hefyd yw cyfyngu ar y tarfu a fyddai’n deillio o newid trefniadau’r weithrediaeth sawl gwaith o fewn cyfnod cymharol fyr o amser.

Ar hyn o bryd, dim ond unwaith mewn unrhyw gyfnod o bum mlynedd y gall prif gynghorau gynnal refferendwm. Fodd bynnag, mae i'r sefyllfa bresennol botensial o hyd i greu cryn ansefydlogrwydd gwleidyddol gyda’r hyn a allai olygu newid yn nhrefniadau’r weithrediaeth yn ystod pob cylch etholiadol.

Er mwyn lleihau’r risg o ansefydlogrwydd, rydym yn cynnig, lle mae trefniadau gweithrediaeth prif gyngor wedi newid, na ellir gwneud unrhyw newidiadau pellach iddynt nes bydd dau gylch etholiadol llawn wedi pasio. Mae hyn yn unol â’r darpariaethau a nodir ym Mil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) i brif gynghorau newid eu systemau pleidleisio.

Rydym yn gofyn hefyd am sylwadau ar ddiweddaru rhai o’r rheoliadau sy’n ymwneud â deisebau fel caniatáu e-ddeisebau, hysbysiadau ar-lein am ddeisebau ac a ddylid diwygio’r trothwy ar gyfer y llofnodion sy’n ofynnol i ddeiseb am faer sbarduno refferendwm.

Mae’r ymgynghoriad, sy’n cael ei gynnal tan 27 Chwefror 2020, yn disgrifio’n fanylach yr hyn rydym yn cynnig ei wneud ac mae’n nodi ein rhesymau.

Dyma’r cam cyntaf o ymgynghoriad dau gam. Byddwn yn ymgynghori cyn bo hir ar welliannau arfaethedig i is-ddeddfwriaeth gan ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad hwn.

Newidiadau i drefniadau llywodraethu gweithredol prif gynghorau (awdurdodau lleol)

Byddwn yn croesawu eich sylwadau.