Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf lansio heddiw yr ymgynghoriad hwn ar y cynigion i'w gwneud yn ofynnol i ymarferwyr addysg ychwanegol gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg. Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar y Gorchymyn drafft sy'n cynnig diwygio'r ddeddfwriaeth berthnasol.

Rydym am wneud yn siŵr bod dysgwyr yng Nghymru yn cael eu diogelu drwy sicrhau bod y gweithlu’n cael ei reoleiddio yn broffesiynol ac yn annibynnol. Mae hyn yn cynnwys staff sy'n gweithio mewn Sefydliadau Addysg Bellach, Dysgu Oedolion yn y Gymuned, a Uwch Arweinwyr. Rydym yn hyderus y bydd y ddeddfwriaeth hon yn golygu y bydd ein gweithwyr addysg, dysgu ac addysgu proffesiynol ar yr un lefel o ran eu proffesiynoldeb, waeth ble maen nhw'n gweithio.

Drwy ychwanegu categorïau cofrestru newydd ac ymestyn y gofynion cofrestru presennol, nod y Gorchymyn drafft yw gwella safonau proffesiynol ar draws y gweithlu addysg. Yn y pen draw, bydd hyn yn sicrhau gwell gwasanaethau ar gyfer dysgwyr, yn ogystal â rhoi sicrwydd i deuluoedd a'r gymuned ehangach.

Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau heddiw, ac fe fydd yn dod i ben ar 21 Tachwedd 2023.