Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Cyhoeddwyd ein Cynllun Lles Anifeiliaid i Gymru 2021-26 ym mis Tachwedd 2021. Mae'n nodi sut y byddwn yn cyflawni ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu a blaenoriaethau eraill ar gyfer lles anifeiliaid. Ein huchelgais yw sicrhau bod pob anifail yng Nghymru yn cael ansawdd bywyd da. Mae hwn yn amcan strategol o fewn Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru, sy'n ffurfio'r sylfeini ar gyfer datblygu ein Cynllun Lles Anifeiliaid pum mlynedd.
Cyhoeddwyd adroddiad ar y cynnydd a wnaethom drwy gydol 2024 wrth gyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer lles anifeiliaid yma yng Nghymru. Mae hyn yn dilyn adroddiadau cynharach ar y cynnydd a wnaethom yn 2022 a 2023.
Rwy'n falch ein bod yn parhau i adeiladu ar bopeth rydyn ni wedi'i gyflawni hyd yn hyn.
Rydym wedi cyflawni ein hymrwymiad i’w gwneud hi’n ofynnol gosod systemau teledu cylch cyfyng ym mhob lladd-dy yn ystod tymor y Llywodraeth hon. Daeth rheoliadau newydd sy'n nodi'r hyn y mae'n rhaid i weithredwyr lladd-dai ei wneud nawr i rym ym mis Mehefin 2024.
Fe wnaethom gefnogi'r gwaharddiad ar allforio gwartheg, defaid, geifr, moch a cheffylau byw i'w lladd, neu i'w pesgi, gan ddechrau ym Mhrydain Fawr neu eu cludo drwy Brydain Fawr. Daeth rheoliadau i orfodi'r gwaharddiad i rym ym mis Ionawr 2025.
Cawsom dros fil o ymatebion i'n hymgynghoriad ar drwyddedu sefydliadau, gweithgareddau ac arddangosfeydd lles anifeiliaid, a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024. Cyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion ym mis Rhagfyr 2024. Cyhoeddwyd ein hymateb i'r ymgynghoriad a'r camau nesaf ym mis Mehefin 2025, gan nodi carreg filltir arwyddocaol yn ein hymrwymiad i wella safonau lles anifeiliaid ledled Cymru.
Rydyn ni'n symud ymlaen gyda gwaharddiad ar rasio milgwn. Fel y cyhoeddwyd yn gynharach eleni, rydym yn sefydlu Grŵp Gweithredu i lywio'r trawsnewidiad hwn, gan sicrhau lles cŵn rasio a chefnogi cymunedau yr effeithir arnynt. Bydd deddfwriaeth i gyflawni'r ymrwymiad hwn yn cael ei chyflwyno yn yr hydref.
Mae Trwyddedu Anifeiliaid Cymru, prosiect gorfodi gan Awdurdodau Lleol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn parhau i gyflawni er budd iechyd a lles anifeiliaid, a'r llynedd enillodd wobr cydnabyddiaeth arbennig fawreddog yr RSPCA. Rydym wedi dyfarnu estyniad cyllid sylweddol i Trwyddedu Anifeiliaid Cymru ar gyfer 2025/2026.
Mae ein gwaith bridio a pherchnogaeth gyfrifol o ran cŵn wedi dod ag Awdurdodau Lleol, heddluoedd ac ymgyrchwyr dros les cŵn at ei gilydd. Cynhaliwyd gweithdai trwy gydol 2024 a ganolbwyntiodd ar nodi materion a thueddiadau sy'n dod i'r amlwg, nodi camau gweithredu, a datblygu strategaethau i fynd i'r afael â heriau. Fe wnaethant roi llwyfan i randdeiliaid rannu syniadau a phrofiadau a chydweithio ar atebion. Fe wnaethom gynnal ein hail uwchgynhadledd aml-asiantaeth flynyddol ar fridio a pherchnogaeth cŵn cyfrifol ym mis Hydref 2024.
Mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol i'n llwyddiant. Rwy'n ddiolchgar i'r holl randdeiliaid a’r asiantaethau hynny sy'n allweddol i'r cynnydd rydyn ni wedi'i gyflawni hyd yn hyn. Edrychaf ymlaen at gyflawni mwy gyda'n gilydd dros y flwyddyn nesaf.
