Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi dod i gytundeb â'r GIG a Fferylliaeth Gymunedol Cymru ar delerau'r Fframwaith Contractiol Fferylliaeth Gymunedol ar gyfer 2025-26. Mae hyn yn cynnwys trefniadau ar gyfer dyrannu cynnydd o 4% i gyfanswm y cyllid sy'n daladwy i'r sector eleni.
Nid yw tâl fferylliaeth gymunedol o fewn cwmpas argymhellion Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion y GIG. Fodd bynnag, rydym eisoes wedi ymrwymo i sicrhau codiadau cyflog teg a chymesur ar draws gofal sylfaenol, gan gynnwys fferyllfeydd cymunedol, optometreg y GIG a'r holl staff sy'n gweithio ym maes practis cyffredinol a gwasanaethau deintyddol y GIG. Mae hyn yn cydnabod y rôl hollbwysig y maent yn ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau hanfodol i bobl ledled Cymru.
Bydd y cynnydd o 4% yn y contract fferylliaeth gymunedol, sy'n cyfateb i £7 miliwn yn ychwanegol eleni, yn golygu y bydd gwerth ffioedd a lwfansau'r Fframwaith yn codi i £182 miliwn, sy'n gynnydd o bron i 30% ers 2016-17.
Mae'r lefel uchaf erioed hon o fuddsoddi yn cydnabod y rôl y mae fferyllfeydd cymunedol yn ei chwarae ac yn gwobrwyo ymdrechion ac ymroddiad timau fferylliaeth gymunedol. Bydd y mesurau y cytunwyd arnynt yn rhan o'r pecyn cyllido hwn yn helpu i sicrhau bod y GIG yn gwneud y defnydd mwyaf o sgiliau ac arbenigedd fferyllwyr, technegwyr fferyllfa a'r tîm fferylliaeth ehangach ym mhob cymuned yng Nghymru.
Bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i'r afael â'r heriau uniongyrchol sy'n wynebu fferyllfeydd cymunedol, gan barhau i hyrwyddo cynnydd tuag at ein huchelgeisiau tymor hwy ar gyfer diwygio a amlinellir yn Presgripsiwn Newydd.
