Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn y cyhoeddiad ddoe bod treial yn cael ei gynnal ar draws y DU i edrych ar fanteision y feddyginiaeth gwrthfeirol molnwpirafir mewn pobl sy’n wynebu risg yn sgil COVID-19, hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar fynediad at feddyginiaethau ar gyfer triniaeth COVID-19 i gleifion yng Nghymru.

Yr astudiaeth PANORAMIC (Treial llwyfan addasol o feddyginiaethau gwrthfeirol ar gyfer trin COVID-19 yn gynnar yn y gymuned) yw’r treial clinigol cyntaf o’i fath. Caiff ei arwain gan Brifysgol Rhydychen a’i ddarparu yng Nghymru gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Phrifysgol Caerdydd.

Bydd pobl yng Nghymru yn gymwys i gymryd rhan yn yr astudiaeth ar gyfer y DU gyfan os ydynt dros 50 oed, neu rhwng 18 a 49 oed a bod ganddynt gyflwr iechyd isorweddol, os ydynt wedi cael canlyniad positif i brawf COVID-19 ac os ydynt wedi cael y symptomau am lai na 5 diwrnod. Mae trefniadau yn eu lle er mwyn i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gysylltu â phobl yn y grwpiau cymwys os ydynt wedi profi’n bositif ar gyfer COVID-19 a’u gwahodd i fod yn rhan o’r astudiaeth PANORAMIC. Gallwch weld rhagor o wybodaeth am y treial ar wefan yr astudiaeth PANORAMIC.

Ers yn gynnar y llynedd, mae amrywiaeth o ymyriadau therapiwtig wedi cael eu hastudio fel triniaethau posibl ar gyfer COVID-19 ac mae rhai wedi dangos eu bod yn gwella canlyniadau. Mae nifer o driniaethau wedi dangos eu bod yn effeithiol wrth atal cleifion sydd wedi’u derbyn i’r ysbyty gyda COVID-19 rhag dirywio, ac mae’r triniaethau hyn nawr yn rhan o’r gofal safonol ym mhob ysbyty yng Nghymru.

Gan fod y nifer o driniaethau effeithiol ar gyfer cleifion sy’n yr ysbyty wedi cynyddu, mae’r sylw bellach wedi troi at nodi a thrin pobl sydd â’r risg uchaf yn gynt er mwyn eu hatal rhag gorfod mynd i’r ysbyty. Felly, ochr yn ochr â’r astudiaeth PANORAMIC, rydym hefyd yn gwneud trefniadau i sicrhau bod y rheini sy’n wynebu’r risg uchaf bosibl yn sgil COVID-19 yn cael mynediad at driniaeth yn gynt.

Mae hyn yn golygu, o’r wythnos nesaf ymlaen, y bydd y GIG yn sicrhau bod y cyfuniad o wrthgyrff monoclonaidd a all niwtraleiddio’r feirws, casirifimab ac imdefimab, a gaiff eu marchnata yn y DU dan y brand Ronapreve, a’r feddyginiaeth gwrthfeirol molnwpirafir, ar gael o fewn 5 niwrnod i pan fydd pobl yn dechrau datblygu symptomau neu pan cânt brawf PCR positif, yn achos y bobl hynny sy’n wynebu’r risg uchaf yn sgil COVID-19. Ymhlith eraill, bydd hyn yn cynnwys pobl sydd â chanser â thiwmor solet neu ganser haematolegol, sy’n derbyn triniaethau sy’n gwanhau eu system imiwnedd, pobl sydd â HIV, a’r rheini sydd â rhai cyflyrau niwrolegol genetig a phrin.

Bydd pobl yn y grwpiau triniaethau cymwys hefyd yn dechrau cael llythyron yn dweud wrthynt beth ddylent wneud os oes ganddynt symptomau ac os ydynt yn profi’n bositif ar gyfer COVID-19. Mae rhagor o wybodaeth am driniaethau COVID-19 ar gael yn Triniaethau COVID-19.