Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Rwy’n falch o adrodd bod data ar yr amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bellach yn cael eu cyhoeddi unwaith eto ar ôl i’r materion ansawdd data a godwyd ym mis Tachwedd 2025 gael eu datrys.
Fel y gofynnais, cafodd adolygiad cyflym allanol ei gynnal a oedd yn ymchwilio i lywodraethiant, prosesau technegol, materion codio a mecanweithiau sicrwydd ar draws y sefydliad. Canfu’r adolygiad fod y mater yn deillio o drin cod data penodol, a dyma’r hyn a arweiniodd at fethu â chyfrif yr holl lwybrau cleifion wrth adrodd ar y data. Mater sy’n ymwneud â rheoli data, nid mater sy’n ymwneud â’r driniaeth i gleifion oedd hwn.
Mae data diwygiedig bellach wedi’u cyflwyno a’u dilysu. O ganlyniad, mae nifer bach o lwybrau cleifion wedi’i ychwanegu at y ffigurau rhwng mis Ebrill a mis Awst. Byddaf yn cyhoeddi’r adroddiad llawn yn yr wythnosau nesaf.
Rhoddodd canlyniadau’r adolygiad ddigon o dystiolaeth a hyder bod sylw priodol wedi’i roi i’r materion ansawdd a godwyd ac a ddogfennwyd yn y lle cyntaf ym mlog y Prif Ystadegydd Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: sicrhau ansawdd yn ystadegau amseroedd aros y GIG | Blog Digidol a Data a’u bod wedi’u datrys.
O ganlyniad, cafodd y data coll ar gyfer Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a’r sefyllfa ar gyfer Cymru gyfan eu cyhoeddi ar StatsCymru ar 13 Ionawr 2026.
Atal yr adrodd dros dro am gyfnod byr oedd y penderfyniad cywir er mwyn sicrhau cywirdeb ac uniondeb y data.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cryfhau ei weithdrefnau a’i brosesau, gan gynnwys:
- Fframwaith llywodraethiant misol newydd wedi’i awdurdodi gan yr Uwch-dîm Gweithredol.
- Gwiriadau cysoni a dilysu wedi’u gwella.
- Cydweithrediad lefel uwch rhwng timau digidol, gweithredol a pherfformiad.
Mae timau cenedlaethol hefyd wedi cymryd camau i wella gwiriadau ar lefel system a dadansoddiadau o dueddiadau i atal materion tebyg yn y dyfodol. Mae argymhellion wedi’u gwneud i bob bwrdd iechyd fabwysiadu’r arferion gorau wrth ddilysu data.
Mae rhagor i’w wneud eto i leihau’r amseroedd aros hir i gleifion, ac mae hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a GIG Cymru. Hoffwn ddiolch i staff y GIG am eu hymdrechion parhaus i ddarparu gofal mewn amgylchiadau heriol.
