Neidio i'r prif gynnwy

Delyth Jewell AS, Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Gorffennaf 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i ddileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal, wrth i ni fwrw ymlaen â'r cam nesaf o weithredu Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025.

Rhaid i ofal plant sy'n derbyn gofal ganolbwyntio ar eu hawliau, eu llesiant a'u hanghenion. Dylai arian cyhoeddus sy’n cael ei fuddsoddi mewn llety a gofal gefnogi'r nodau hyn a chael ei ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau yn hytrach na'i dynnu fel elw. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gyflawni'r diwygiadau hyn yn gyflym ond mewn ffordd ystyriol, fesul cam ac wedi’i reoli.

Daeth cam cyntaf y cyfyngiadau i rym ar 1 Ebrill 2026. Mae'r rhain yn gwahardd cofrestru gwasanaethau plant cyfyngedig newydd er-elw gydag Arolygiaeth Gofal Cymru – cartrefi plant, llety diogel a gwasanaethau maethu – ac yn atal darparwyr er-elw presennol rhag amrywio eu cofrestriad i ychwanegu gwasanaethau neu leoliadau newydd. I ategu hyn, daeth dyletswydd ddigonolrwydd cryfach ar awdurdodau lleol hefyd i rym bryd hynny – i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau llety addas i blant sy'n derbyn gofal, gan flaenoriaethu darpariaeth awdurdodau lleol a nid-er-elw. 

Yn unol â hyn, heddiw rwy'n cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad diweddar ar gynigion ar gyfer ffurf a chynnwys ychwanegol cynlluniau digonolrwydd awdurdodau lleol. Ar ôl dadansoddi ac ystyried yr ymatebion a gafwyd, yn nhymor yr hydref byddwn yn cyflwyno Rheoliadau i ragnodi'r manylion hyn ac yn cyhoeddi canllawiau anstatudol i gefnogi awdurdodau lleol i baratoi eu cynlluniau ac, yn ehangach, i gyflawni eu dyletswydd ddigonolrwydd uwch. Bydd awdurdodau lleol yn cyflwyno eu cynlluniau drafft cyntaf i Weinidogion Cymru erbyn 1 Rhagfyr eleni, gyda'r cynlluniau a gymeradwywyd yn cael eu cyhoeddi erbyn 31 Mawrth 2027 ac yn flynyddol ar ôl hynny.

Yn y cyfamser, yr wythnos diwethaf lansiais yr ymgynghoriad 12 wythnos nesaf ar gynigion ar gyfer rheoliadau a fydd yn gosod cyfyngiadau ar unrhyw ehangu pellach ar y gwasanaethau plant er-elw cyfyngedig presennol o 1 Ebrill 2027. Mae'r cyfyngiadau arfaethedig yn golygu na fyddai cartrefi plant er-elw presennol yn gallu ychwanegu gwelyau ychwanegol, ac na fyddai gwasanaethau maethu er-elw yn gallu cymeradwyo gofalwyr maeth newydd. Yn hollbwysig, ni fydd y mesurau hyn yn effeithio ar leoliadau presennol na gofalwyr maeth sydd wedi'u cymeradwyo ar hyn o bryd.

Mae'r ymgynghoriad hefyd yn ceisio barn ar drefniadau pontio tymor byr i gefnogi parhad cymeradwyaeth gofalwyr maeth sy'n bodoli eisoes lle mae gwasanaeth maethu er elw yn ailsefydlu ei hun fel endid nid-er-elw a ganiateir (ac yn cofrestru hynny gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, o dan ofynion newydd y Ddeddf). Bydd hyn yn helpu i osgoi unrhyw darfu ac yn cyfyngu ar unrhyw ddyblygu diangen lle mae parhad sefydliadol clir a bod yr holl fesurau diogelu priodol ar waith.

Ochr yn ochr â'r mesurau rheoleiddio hyn, mae cymorth ariannol yn parhau i fod yn rhan bwysig o gyflawni yn llwyddiannus. Ochr yn ochr â chyllid refeniw i awdurdodau lleol ac i Cwmpas i gefnogi gweithredu a chynghori darparwyr presennol, mae cymorth cyfalaf hefyd yn parhau drwy'r Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso. Mae’r prosiectau a gefnogir drwy'r gronfa hon wedi'u cynllunio i helpu i adeiladu capasiti mewn darpariaeth gyhoeddus a nid-er-elw ac maent yn cyd-fynd yn llwyr ag amcanion yr agenda dileu elw.

I gloi, rwy'n annog pawb sydd â diddordeb mewn gofal cymdeithasol plant i ymateb i'r ymgynghoriad hwn cyn 23 Medi. Bydd eu barn a'u profiad ymarferol yn hanfodol wrth lunio'r darpariaethau terfynol a sicrhau bod y gwaith o weithredu'r Ddeddf yn ddiogel, yn gymesur ac yn canolbwyntio ar wella canlyniadau i blant sydd â phrofiad o ofal.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda'r holl bartneriaid wrth i ni symud i'r cam gweithredu nesaf, gyda'r nod o gefnogi system gofal plant cynaliadwy o ansawdd uchel yng Nghymru; lle mae buddsoddiad cyhoeddus yn cael ei ddiogelu a'i gadw er budd plant a phobl ifanc.