Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 14 Tachwedd, cyhoeddwyd y data am leoliad tomenni glo segur categori C a D yng Nghymru. Darparwyd pecyn sylweddol o wybodaeth ategol i bobl sy'n berchen ar eiddo ac yn ei feddiannu ar dir â thomenni, cymunedau a chynrychiolwyr lleol. Mae'r ymgysylltu helaeth, ynghyd â'r wybodaeth ategol a'r ymateb a fu gan gymunedau lleol wedi fy nghalonogi. 

Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r mapiau sy'n dangos lleoliad y categorïau sy'n weddill o domenni glo segur yng Nghymru – tomenni categori A, B ac R. Mae'r dogfennau hyn i'w gweld yn: Dod o hyd i domenni glo segur

Mae tommeni glo Categori A, B ac R yn llawer llai tebygol o effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd. Mae tommeni glo categori A a B fel arfer yn llai o maint ac mae tommeni glo Categori R yn aml yn cael eu tynnu neu eu lefelu, ac yn aml yn cael eu hadeiladu drosodd. Mae mwy na 2,500 o domenni segur yng Nghymru, a chredwn ei bod yn bwysig ein bod yn dryloyw ynghylch eu lleoliadau gyda'r cyhoedd. 

Yn yr un modd â'r mapiau ar gyfer tomenni categori C a D, mae'n bwysig nodi y gall y set ddata newid oherwydd y rhaglen waith barhaus yn y maes hwn, gan gynnwys y rhaglen archwilio dreigl, a all ganfod newidiadau mewn ffiniau neu arwain at newidiadau i gategorïau  tomenni segur. 

Mae ein rhaglen diogelwch tomenni glo wedi'i chynllunio i ddiogelu cymunedau sy'n byw yng nghysgod y tomenni hyn. Dros y gaeaf, cwblhawyd archwiliadau o domenni categori C a D ac rwy'n falch nad oes unrhyw faterion mawr wedi'u nodi. Bydd awdurdodau lleol yn parhau i arwain ar ddarparu unrhyw waith cynnal a chadw sydd ei angen o ganlyniad i'r archwiliadau, gan weithio gyda'r Awdurdod Glo a pherchnogion preifat yn ôl yr angen. 

Yn 2023, dechreuodd yr Awdurdod Glo archwilio tomenni categori B – mae wedi archwilio tua 220 hyd yma a bydd yn parhau i archwilio drwy gydol eleni.

Yn unol â'r ymrwymiadau a wnaed yn natganiad deddfwriaethol y Prif Weinidog, byddwn yn cyflwyno Bil yn yr hydref i ddeddfu ar gyfer cyfundrefn reoleiddiol hirdymor, gynaliadwy ac addas i'r diben i sicrhau diogelwch tomenni segur, i'w harwain gan gorff cyhoeddus newydd sy'n canolbwyntio ar y gwaith hwn yn unig.