Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth inni nodi’r Wythnos Anabledd Dysgu, hoffwn roi diweddariad i’r Aelodau ynghylch ein hymrwymiadau i wella bywydau pobl ag anableddau dysgu.   

Ym mis Mai 2022 y llynedd, lansiwyd ein Cynllun Gweithredu Strategol Anabledd Dysgu 2022 i 2026 sy’n amlinellu ein blaenoriaethau polisi strategol ar gyfer anabledd dysgu. Dilynwyd hyn ym mis Hydref gan y Cynllun cyflenwi a gweithredu ar gyfer anabledd dysgu 2022 i 2026, sef cynllun cysylltiedig a oedd yn nodi’r gweithgareddau manwl a fyddai’n sail ar gyfer cyflawni’r blaenoriaethau strategol yn llwyddiannus a sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl ag anableddau dysgu.

Gyda’i gilydd, mae’r cynlluniau’n canolbwyntio ar helpu pobl sydd ag anableddau dysgu i gael bywydau llesol ac iach fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas. Maent yn cynnwys ein hymrwymiadau i weithio gydag unigolion, teuluoedd, grwpiau a darparwyr gwasanaeth i ddatblygu a gweithredu gwasanaethau hygyrch, cynaliadwy, ac integredig sy’n bodloni anghenion pobl ag anableddau dysgu yn llawn.

Mae’n glir bod gwaddol y pandemig yn parhau’n bryder gwirioneddol i lawer o unigolion ag anableddau dysgu. Mae hefyd yn parhau i effeithio ar y sefydliadau sy’n darparu’r gwasanaethau y maent yn dibynnu arnynt. Ar ben hyn i gyd, mae’r argyfwng costau byw wedi achosi heriau sylweddol.

Fodd bynnag, rwy’n falch o allu dweud bod ymrwymiad ein gwneuthurwyr polisi, partneriaid cyflawni, a rhanddeiliaid wedi arwain at gynnydd amlwg tuag at gyflawni ein nodau tymor hir.

Ar 13 Mehefin, cafodd adroddiad sy’n amlinellu’r cynnydd a gafwyd yn ystod y flwyddyn gyntaf ei ystyried a’i gytuno gan grŵp annibynnol, sef Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Anabledd Dysgu.

Mae’n tynnu sylw at y llwyddiant a gafwyd wrth gyflwyno a gweithredu cam cyntaf yr hyfforddiant ar gyfer ymwybyddiaeth anabledd dysgu a ddarperir gan Sefydliad Paul Ridd. Yn sgil ei lansio ar 1 Ebrill 2022, mae dros 27,000 o staff y GIG wedi cwblhau’r hyfforddiant sy’n eu galluogi i adnabod yr heriau y mae pobl ag anableddau dysgu yn eu hwynebu wrth ddefnyddio gwasanaethau iechyd, gan wneud addasiadau rhesymol i gefnogi’r boblogaeth hon.

Rydym bellach yn datblygu pecynnau hyfforddiant arbenigol lefel uwch ar draws iechyd, gofal cymdeithasol, ac addysg.

Mae’n bleser gennyf dynnu sylw hefyd at gyhoeddi’r Canllawiau ar gyfer gweithwyr cymdeithasol sy’n gweithio gyda theuluoedd ble mae gan y rhiant anabledd dysgu a fydd, ochr yn ochr â’r canllawiau cysylltiedig i rieni, yn helpu gweithwyr cymdeithasol i wella sut maent yn nodi ac yn cefnogi teuluoedd lle mae gan riant anabledd dysgu.

Mae angen gwneud rhagor o waith o hyd i nodi anghenion pobl ag anableddau dysgu mewn modd effeithiol, gan ddarparu’r cymorth priodol i’w helpu i wireddu eu potensial a mwynhau eu bywydau yn llawn. 

Rwy’n cyfarfod yn rheolaidd â grwpiau rhanddeiliaid, ac maent yn awyddus inni barhau i hyrwyddo dull gweithredu sy’n seiliedig ar y system gyfan i gefnogi pobl ag anableddau dysgu, gan weithio gyda nhw i gynhyrchu a chynllunio gwasanaethau a sut maent yn cael eu darparu.

Yn ystod yr hydref hwn, byddwn yn trefnu rhagor o ddigwyddiadau ar draws Cymru er mwyn gwrando ar farn rhanddeiliaid. Bydd hyn yn dylanwadu ar gyfeiriad polisïau yn y dyfodol ac yn helpu i ddiweddaru’r cynllun gweithredu strategol, gan sicrhau ei fod yn gydnaws â’n hymrwymiad i ganolbwyntio ar y materion sy’n bwysig i bobl sydd ag anableddau dysgu.