Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n rhannu'r diweddaraf â'r Aelodau ar ganlyniad yr adolygiad o statws uwchgyfeirio sefydliadau iechyd a gynhaliwyd rhwng Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Rhagfyr 2017. Rwyf hefyd am gadarnhau'r camau gweithredu ychwanegol sy'n cael eu rhoi ar waith i gefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o dan y trefniadau mesurau arbennig.

Rwyf wedi cytuno â'r argymhelliad o'r cyfarfod a gynhaliwyd rhwng y tri pharti i beidio â newid yn ffurfiol y lefel uwchgyfeirio sy’n berthnasol i’r gwahanol sefydliadau ar hyn o bryd. Rwy'n cydnabod hefyd fod y lefel uwch o gyswllt a'r disgwyliadau clir sy'n berthnasol i'r tri sefydliad (Abertawe Bro Morgannwg, Caerdydd a'r Fro a Hywel Dda) yn dal i fod o fewn y categori ymyrraeth wedi'i thargedu. Mae chwech o'r 10 sefydliad yn parhau i gael eu monitro'n rheolaidd ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dal i fod o dan fesurau arbennig. Diweddarwyd y statws uwchgyfeirio ar y gwefannau perthnasol ac mae pob sefydliad unigol wedi cael gwybod yn ysgrifenedig am ei statws presennol.

Gan droi'n benodol at Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, mae'n amlwg o'r adroddiadau bod cynnydd wedi'i wneud yn erbyn y disgwyliadau a bennwyd yn y fframwaith ar gyfer gwella o dan fesurau arbennig. O dan y maes arwain a llywodraethu, mae tîm gweithredol llawn ar waith erbyn hyn a gwnaed chwe phenodiad newydd ers i'r Bwrdd Iechyd gael ei roi o dan fesurau arbennig. Mae Rhaglen Ddatblygu'r Bwrdd barhaus a strwythur pwyllgorau wedi'i ad-drefnu wedi bod o gymorth i berfformiad y Bwrdd. Mae cwynion a phryderon ynglŷn â'r arweinyddiaeth wedi cael eu trosglwyddo i'r Prif Weithredwr Nyrsio a Bydwreigiaeth erbyn hyn ac mae goruchwyliaeth glinigol wedi gwella o ganlyniad, gyda lleihad o fwy na 50% yn y gwaith sydd wedi pentyrru a gwelliant sylfaenol o ran ymatebolrwydd.  

Ymhlith y cerrig milltir eraill a fodlonwyd gan y Bwrdd Iechyd, mae: 

  • cytuno ar strategaeth iechyd meddwl a ddatblygwyd mewn partneriaeth gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau 
  • gwella'r ffyrdd y mae'r bwrdd yn ymgysylltu ag aelodau'r cyhoedd 
  • gwella'n sylweddol mewn nifer o fesurau arolwg staff 2016 
  • mabwysiadu agwedd lwyddiannus at wasanaethau gofal sylfaenol ym Mhrestatyn.   
Un o'r meysydd sydd wedi gwella'n fawr ers y sefyllfa yn 2015 yw gwasanaethau mamolaeth. Mae hyn wedi cynnwys llai o ddibyniaeth ar locwm/asiantaeth, cyfradd sy'n awr yn 11% (i lawr o 50%); cydymffurfio â Birthrate Plus (pecyn i'r gweithlu sy'n pennu lefelau staffio ym maes Bydwreigiaeth); ail-gyflwyno myfyrwyr bydwreigiaeth cyn iddynt gofrestru yn Ysbyty Glan Clwyd fel bod pob un o'r tri safle yn y Gogledd yn awr yn cael ei ddefnyddio'n llawn at ddibenion hyfforddi; penodi Bydwraig Ymgynghorol i arwain ar welliannau mewn gofal dan arweiniad bydwragedd; a chynnydd ar ddatblygu'r Ganolfan Is-ranbarthol ar gyfer Gofal Dwys i'r Newydd-anedig. Mae contract wedi cael ei roi hefyd i gefnogi datblygiad sefydliadol a gwella perthnasoedd gweithio proffesiynol ledled y gwasanaeth mamolaeth a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd. O ystyried y cynnydd da a'r sefydlogrwydd sydd wedi’u gweld ar draws gwasanaethau mamolaeth, nid yw hwn yn cael ei ystyried yn bryder sy’n galw am fesur arbennig mwyach ac mae'r mater hwn yn cael ei isgyfeirio, felly. Rwy'n croesawu'r cynnydd a wnaed ac ymrwymiad y staff a'r timau i fodloni'r cerrig milltir allweddol.

Fodd bynnag, er gwaetha'r cynnydd mewn rhai meysydd pwysig, mae'r Bwrdd Iechyd yn dal i wynebu heriau sylweddol. Yn benodol, bu’n ddigalon ac yn annerbyniol bod materion wedi dwysáu mewn perthynas â'r sefyllfa ariannol a rhai meysydd perfformiad allweddol yn ystod 2017/18. Mae hyn wedi arwain at fwy o oruchwyliaeth gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys gennyf innau'n bersonol wrth imi gadeirio cyfarfodydd atebolrwydd yn fisol ers mis Gorffennaf. Mae Llywodraeth Cymru’n dal i weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i sicrhau nad yw gwasanaethau a chleifion yn cael eu heffeithio'n negyddol gan yr angen i wella rheolaeth ariannol.

Yn y cyfarfodydd a gynhaliwyd rhwng y tri, dywedodd Llywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru fod angen gwneud cynnydd pellach mewn rhai meysydd allweddol a bod angen cymryd camau pwrpasol o dan fesurau arbennig i weddnewid y sefyllfa o ran cyllid a pherfformiad. Yn nhermau gwasanaethau iechyd meddwl, roedd pob parti yn cydnabod bod absenoldeb y Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl a'r Cyfarwyddwr Nyrsio Iechyd Meddwl, sydd ar gyfnod salwch estynedig, yn golygu bod yna golli momentwm wedi bod o ran gwelliannau yn y maes hwn yn ystod y misoedd diweddar. Felly, mae angen i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ymwreiddio'r strwythur newydd ar gyfer arwain ar iechyd meddwl, a’i datblygu, ar fyrder, ac mae angen gwella ansawdd y gwasanaethau presennol yn gyflymach. Mae'n bwysig yn awr bod y Bwrdd Iechyd yn ennyn hyder unwaith eto yn niogelwch a chynaliadwyedd gwasanaethau iechyd meddwl presennol, a hynny ar frys. Rhaid iddo hefyd ddechrau gweithio ar y gweddnewidiad mwy hirdymor y mae'r strategaeth newydd yn galw amdano.  

Rwyf am sicrhau bod pobl y Gogledd yn cael gwasanaethau iechyd o safon uchel iawn. I gefnogi'r Bwrdd Iechyd i barhau â'r cynnydd a wnaed hyd yma, a sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu cyflenwi, a'u gwella, a bod ei sefyllfa’n cryfhau hefyd o ran cyllid a pherfformiad, rwyf wedi cytuno ar set o ymyriadau i'w gweithredu ar unwaith. Mae'r rhain yn cynnwys penodi David Jenkins, cyn Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, mewn rôl gynghori ar lywodraethu bwrdd a gwella perfformiad. Rwy’n disgwyl hefyd i’r Bwrdd Iechyd benodi Cyfarwyddwr Trawsnewid a thîm a chymryd camau gweithredu’n fwy sydyn. Rhaid rhoi mwy o arweiniad ym maes gofal sylfaenol a rhaid cynllunio ar gyfer gallu. Dylid datblygu cynllun gweithredu i gyflwyno argymhellion Adroddiad Deloitte, a bydd mwy o gefnogaeth i ymestyn y seilwaith rheoli sydd ar waith ar gyfer y tîm iechyd meddwl. Yn ogystal â hyn, bydd dyraniad o £13.1 miliwn yn cael ei neilltuo o gyllid perfformiad i wella amseroedd aros a buddsoddir £1.5 miliwn mewn rhaglen gofal heb ei drefnu.  

Mae cyfnod Cadeirydd presennol y Bwrdd Iechyd yn ei swydd yn dod i ben ar 31 Awst 2018 ac, er mwyn sicrhau bod gennym ddigon o amser cyn bod rhaid penodi Cadeirydd newydd, a chyfnod pontio priodol, rwyf wedi cytuno dechrau ar y broses recriwtio yn ystod yr wythnosau nesaf.

Mae meini prawf a cherrig milltir eraill yn gysylltiedig â'r camau gweithredu a disgwyliwn i'r Bwrdd Iechyd fodloni'r rhain, neu wneud cynnydd yn eu herbyn, erbyn mis Ebrill 2018:
  • Lleihau amseroedd aros Rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth oddeutu 50% yn y niferoedd sy'n aros dros 36 wythnos a’r cynnydd i barhau hyd 2018/19 
  • Gwella perfformiad gofal heb ei drefnu mewn modd sy'n gynaliadwy
  • Cymryd camau gweithredu i adfer y sefyllfa ariannol er mwyn i’r Bwrdd Iechyd fodloni'r rhagolwg diwygiedig o £36 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn a gwella hyd 2018/19 
  • Lleihau nifer y lleoliadau cleifion mewnol y tu allan i ardal 
  • Datblygu cynllun gwella ansawdd a llywodraethiant thematig ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl 
  • Penodi Cyfarwyddwr Trawsnewid a thîm a dangos bod camau gweithredu'n cael eu cymryd yn gyflymach 
  • Penodi Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol a Chymunedol a fydd yn adrodd i'r Prif Weithredwr a'r Bwrdd
  • Rhoi cymorth ychwanegol ar gyfer cynllunio, a phenodi tîm, gan gyflwyno tystiolaeth o'r gwaith ar gyfer datblygu cynllun holistaidd a Chynllun Tymor Canolig Integredig mewn partneriaeth 
  • Cyflwyno tystiolaeth bod arweiniad clinigol yn gweithio ynghyd â chynllunio a'r cynigion ar gyfer cyfarwyddwyr proffesiynol ar wasanaethau clinigol 
  • Cytuno ar gynllun gweithredu a pharhau â'r gwaith o fodloni’r argymhellion a nodwyd yn Adolygiad Deloitte 
  • Rhoi rhaglen ddatblygu sy'n seiliedig ar dîm ar waith ar gyfer y Tîm Gweithredol 
  • Rhoi proses benodi ar waith ar gyfer Cadeirydd, Is-gadeirydd a 5 aelod annibynnol, a'r gwaith hwn bron â’i gwblhau. 
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro a goruchwylio'r Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o dan fesurau arbennig ar lefel uwch. Mae'n bwysig bod yn gwbl eglur, hyd yn oed o dan y trefniadau hyn, fod y Bwrdd Iechyd yn parhau'n gyfrifol ac yn atebol am ei gamau gweithredu ac am wneud gwelliannau ar ran ei boblogaeth.  

Byddwn yn pennu fframwaith ar ei newydd wedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer y 12 -18 mis nesaf gyda cherrig milltir a disgwyliadau wedi'u nodi'n glir ac wedi’u cytuno ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru a'r Bwrdd Iechyd ei hun. Wrth asesu cynnydd yn y dyfodol rydym yn gobeithio sicrhau bod y cerrig milltir a'r disgwyliadau hynny wedi'u bodloni ond bod atebion cynaliadwy wedi'u sefydlu hefyd i barhau â'r cynnydd.