Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf yn cyhoeddi'r datganiad hwn i sicrhau bod Aelodau'n ymwybodol o rai newidiadau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau cynaliadwy a diogel yn cael eu darparu yn benodol mewn perthynas â  gwasanaethau fasgwlaidd yng Ngogledd Cymru.

Rhoes Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr "fodel prif ganolfan a lloerennau" ar waith  ar gyfer darparu gwasanaethau fasgwlaidd yn y Gogledd ym mis Ebrill 2019, a  argymhellwyd ac a gymeradwywyd gan arbenigwyr allanol. Roedd y model hwn yn cynnwys darparu gofal arbenigol iawn i rai cleifion mewn ymddiriedolaethau yn Lloegr.  Comisiynwyd Adolygiad Gwasanaeth Gwahoddedig gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon (RCS) yn 2020 i adolygu ansawdd y gwasanaeth wedi'i rwydweithio newydd. Daeth yr adroddiad cyntaf o'r adolygiad hwn i law'r Bwrdd Iechyd ym mis Mawrth 2021 a daeth yr ail adroddiad i law ym mis Chwefror 2022.

Ym mis Chwefror, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ynghylch yr ail adroddiad. Adolygodd RCS 44 set o nodiadau gan godi pryderon am y gofal a gafodd nifer o'r cleifion. Rwyf wedi rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am  ddatblygiadau ers hynny.

Mewn ymateb i'r ail adroddiad, aeth y bwrdd iechyd ati i gynnull Panel Ansawdd Fasgwlaidd (VQP) gyda chadeirydd allanol ac arweinydd meddygol allanol i adolygu'r nodiadau hynny a gwneud argymhellion i'r Bwrdd ynghylch gofalu am gleifion unigol ac unrhyw welliannau y gellid eu gwneud i wasanaethau. Cyfarfu'r panel hwnnw am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2022 ac mae'n darparu adroddiadau uwchgyfeirio rheolaidd sy'n llywio'r  Cynllun Gwella Fasgwlaidd.

Mae dau Ddigwyddiad "Byth" wedi bod yn y gwasanaeth hefyd a phryderon eraill yn ymwneud â diogelwch a chynaliadwyedd. O ganlyniad, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi  dynodi'r gwasanaeth yn wasanaeth y mae arno angen gwelliant sylweddol iddo ym mis Mawrth 2022. Diffinnir Digwyddiadau “Byth” fel digwyddiadau difrifol y gellir eu hatal yn llwyr oherwydd bod canllawiau neu argymhellion diogelwch ar gael ar lefel genedlaethol ac y dylai pob darparwr gofal iechyd fod wedi’u gweithredu.

Mewn ymateb i'r pryderon diogelwch hyn, cafodd cyfres o fesurau ychwanegol eu cyflwyno ar 7 Mawrth 2022 er mwyn sicrhau bod gofal yn cael ei ddarparu'n ddiogel i gleifion. Roedd y mesurau hyn yn cael eu hadolygu yn rheolaidd, a dilëwyd dau ofyniad (gan gynnwys gweithredu gan ddau ymgynghorydd) ar 23 Mai 2022 yn dilyn adolygiad a ddangosodd nad oeddent yn ychwanegu unrhyw fuddion diogelwch.

Cynhaliwyd cyfarfod teirochrog eithriadol ar 26 Mai fel rhan o fframwaith uwchgyfeirio GIG Cymru ac mae Prif Weithredwr GIG Cymru wedi argymell y dylid ymestyn y statws ymyrraeth wedi'i thargedu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y tu hwnt i faterion iechyd meddwl a llywodraethiant i ymgorffori Ysbyty Glan Clwyd, gan ganolbwyntio'n benodol ar y gwasanaeth fasgwlaidd a'r adran frys yn Ysbyty Glan Clwyd. Derbyniais yr argymhelliad hwn a'i gyhoeddi yn y Senedd ar 7 Mehefin.

Cafodd y penderfyniad ei wneud yn unol â'r fframwaith uwchgyfeirio ac roedd yn adlewyrchu pryderon difrifol am arweinyddiaeth, llywodraethiant a chynnydd yn Ysbyty Glan Clwyd.

Yn ystod mis Gorffennaf, mae nifer o bryderon am ansawdd diogelwch cleifion wedi'u codi gan y Panel Ansawdd Fasgwlaidd mewn perthynas â rheoli cleifion aortig. Cafodd y rhain eu huwchgyfeirio i'r Bwrdd ac mae nifer o fesurau diogelwch ychwanegol wedi'u hadfer ar gyfer cleifion aortig ers 8 Gorffennaf.

Yn ogystal, mae pwysau gweithredol yn bodoli oherwydd diffyg argaeledd ymgynghorwyr a nyrsys mewn gwasanaethau fasgwlaidd o fewn y bwrdd iechyd. Oherwydd breguster y gwasanaeth, ystyriodd y bwrdd iechyd gynlluniau wrth gefn os na fyddai modd darparu'r gwasanaeth fel y mae wedi ei gyflunio ar hyn o bryd. Y prif bryder yw’r gallu i ddarparu gwasanaeth diogel i boblogaeth y Gogledd. O gannlyniad, mae cyfarfodydd wedi cael eu cynnal gyda'r Bwrdd Iechyd, swyddogion Llywodraeth Cymru a'r tîm arwain  cenedlaethol yn GIG Lloegr i ddatblygu opsiynau ar gyfer darpariaeth gwasanaethau amgen gydag ymddiriedolaethau darparwyr Lloegr.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi sefydlu grŵp cynllunio gweithredol, sy'n cyfarfod deirgwaith y dydd er mwyn sicrhau goruchwyliaeth ar y trefniadau hyn ac i sicrhau bod unrhyw gleifion y gallai gof angen darparu eu gofal mewn ffordd wahanol yn cael eu rheoli'n ddiogel ac yn amserol. O ganlyniad i heriau'r gwasanaethau uniongyrchol ac yn dilyn trafodaeth ehangach gyda darparwyr yn Lloegr, daethpwyd i gytundeb y gellir trosglwyddo rhai cleifion, yn ystod mis Awst, i Ysbyty Athrofaol Brenhinol Lerpwl neu, fel sydd eisoes yn digwydd yn achos trigolion Gogledd Cymru ag anafiadau trawma mawr, i Ysbyty Athrofaol Brenhinol Stoke.

Rwyf hefyd yn falch o roi gwybod i'r Aelodau fy mod bellach wedi cael cyngor ynghylch sefydlu rhwydwaith fasgwlaidd i Gymru gyfan a fy mod wedi derbyn y cyngor hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i sefydlu trefniadau rhwydwaith dros dro ar gyfer materion fasgwlaidd, gan gynnwys penodi arweinydd clinigol cenedlaethol dros dro. Yn ystod y cyfnod hwn gellir gwneud gwaith i egluro cwmpas a rôl rhwydwaith ar gyfer gwasanaethau fasgwlaidd, yn ogystal â dechrau cyflwyno rhai prosesau gwella ansawdd megis rhaglen adolygu gan gymheiriaid.

Bydd y rhwydwaith hwn yn gweithio ochr yn ochr â'r byrddau iechyd ac yn cefnogi Rhwydwaith Cyflawni Gweithredol De-ddwyrain Cymru ar gyfer Gwasanaethau Fasgwlaidd, sydd newydd ei sefydlu. Rwyf yn siŵr y bydd yn gysur i'r aelodau gael gwybod bod wythnos gyntaf y trefniadau wedi'u rhwydweithio newydd yn Ne-ddwyrain Cymru wedi mynd yn dda ac na chafodd unrhyw faterion o bwys eu nodi. Mae trefniadau adolygu cynhwysfawr ar waith i sicrhau bod unrhyw broblemau cychwynnol yn cael sylw amserol ac fe fydd cyfres o fforymau adolygu ffurfiol dros y misoedd nesaf i olrhain sut y caiff y manteision a ragwelir i gleifion a staffio eu gwireddu.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.