Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ers iddo gael ei greu yn syth ar ôl y tirlithriad mewn tomen lo nas defnyddir yn Tylorstown ym mis Chwefror 2020, mae'r Tasglu Diogelwch Tomenni Glo wedi bod yn gweithio i asesu a monitro statws tomenni glo nas defnyddir yng Nghymru. Rhan bwysig o'r gwaith hwn oedd llunio'r Set Ddata Genedlaethol o Domenni Glo nas Defnyddir (“y Set Ddata Genedlaethol”) a ddefnyddir i gydgysylltu gweithgareddau monitro a chynnal a chadw rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio a'n partneriaid cyflawni eraill.

Cyhoeddwyd y Set Ddata Genedlaethol gyntaf ym mis Tachwedd 2023 ac roedd yn dangos lleoliadau a statws tomenni glo nas defnyddir categori C a D. Yn fuan ar ôl hynny, cyhoeddwyd tomenni categori B, A ac R ychydig fisoedd yn ddiweddarach.

Ers ei chyhoeddi gyntaf, bu'n rhaid diweddaru'r Set Ddata Genedlaethol er mwyn adlewyrchu newidiadau sydd wedi'u nodi drwy'r rhaglen gynhwysfawr barhaus o archwiliadau a gynhelir ar ran Llywodraeth Cymru gan yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio. O ganlyniad, cyhoeddwyd diweddariad o'r Set Ddata Genedlaethol ym mis Hydref 2024. 

Gallaf gyhoeddi y caiff ail ddiweddariad o'r Set Ddata Genedlaethol ei gyhoeddi ar 22 Mai 2025 er mwyn adlewyrchu newidiadau a nodwyd ar domenni glo nas defnyddir ers mis Hydref 2024. Mae'n bwysig bod diweddariadau rheolaidd i statws tomenni glo nas defnyddir yng Nghymru, yn ogystal â gwybodaeth ategol, yn cael eu cyhoeddi. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd bod ein cofnodion yn gywir ac yn gyfredol a bod gwaith y rhaglen ddiogelwch yn parhau a bydd yn nodi ble y gall fod newidiadau nodedig ar safle tomen. 

Gan gydnabod bod angen diweddaru gwybodaeth yn rheolaidd, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyhoeddi diweddariadau o'r Set Ddata Genedlaethol ddwywaith y flwyddyn ar ôl i'r rhaglen o archwiliadau o domenni glo nas defnyddir categori C (a gynhelir unwaith y flwyddyn) a chategori D (a gynhelir ddwywaith y flwyddyn) gael ei chwblhau. Bydd diweddariadau yn y dyfodol hefyd yn cynnwys newidiadau a nodir o archwiliadau o'r 1211 o domenni categori A a fydd yn dechrau yn ystod Haf 2025. Cwblhawyd archwiliadau o'r 701 o domenni categori B y llynedd gan yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio ac mae unrhyw newidiadau a ddeilliodd o'r ymarfer hwnnw eisoes wedi'u cynnwys yn y fersiwn flaenorol o'r Set Ddata Genedlaethol. Mae diweddariadau o'r Set Ddata Genedlaethol hefyd yn cynnwys newidiadau i domenni sy'n deillio o wybodaeth a gofnodir y tu allan i archwiliadau rheolaidd, er enghraifft, pan fydd awdurdod lleol yn rhoi gwybod am newid i domen, neu os caiff rhywbeth ei weld ar domen gyfagos wrth gynnal archwiliad. Caiff pob newid a awgrymir ei ddilysu gan yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio cyn cael ei gynnwys yn y Set Ddata Genedlaethol er mwyn sicrhau bod ein gwybodaeth yn gadarn, yn gywir ac yn addas at y diben.

Bydd y diweddariad o'r Set Ddata Genedlaethol ar 22 Mai yn dwyn ynghyd leoliad a statws tomenni glo nas defnyddir o bob categori mewn un set ddata er hwylustod. Bydd y data hyn yn parhau i gael eu cyflwyno gan ddefnyddio map ar-lein ar wefan Llywodraeth Cymru a thrwy blatfform Map Data Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu gwybodaeth gryno am newidiadau ar ei gwefan.

Bydd llyfryn o fapiau sy'n darparu rhagor o wybodaeth am newidiadau'r diweddariad hefyd ar gael i'w lawrlwytho o wefan Llywodraeth Cymru.

Dim ond pedwar newid sydd wedi'u cofnodi yn y Set Ddata Genedlaethol yn dilyn yr archwiliadau o domenni categori C a D a gynhaliwyd dros y gaeaf ac ers y diweddariad diwethaf o ddata. Mae a wnelo pob newid â diwygiadau i'r ffiniau a nodwyd ar gyfer y tomenni. Caiff ffiniau eu diwygio pan fydd arolygydd yn cael gwell persbectif yn ystod ymweliad safle, er enghraifft, os oedd yn bosibl cyrraedd ardal a oedd wedi'i gorchuddio â gormod o lystyfiant yn flaenorol fel na ellid ei mapio'n fanwl gywir.

Ni chofnodwyd unrhyw gynnydd mewn sgoriau categori ar gyfer unrhyw domen lo nas defnyddir ac ni chofnodwyd unrhyw domenni glo nas defnyddir newydd yn y diweddariad hwn o ddata. Felly, mae nifer y tomenni glo nas defnyddir yng Nghymru yn aros yn ddigyfnewid. 

Ceir crynodeb o'r tomenni glo nas defnyddir mewn tabl yn Atodiad 1 i'r datganiad hwn ochr yn ochr â dadansoddiad o nifer y tomenni a'u sgôr categori.