Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel y nodwyd mewn Datganiad Ysgrifenedig ym mis Mai eleni, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyhoeddi diweddariadau i'r Set Ddata Genedlaethol o Domenni Glo nas Defnyddir ("y Set Ddata Genedlaethol") ddwywaith y flwyddyn ar ôl i'r rhaglen o archwiliadau o domenni glo nas defnyddir categori C (a gynhelir unwaith y flwyddyn) a chategori D (a gynhelir ddwywaith y flwyddyn) gael ei chwblhau.

Ers ei chyhoeddi gyntaf ym mis Tachwedd 2023, bu'n rhaid diweddaru'r Set Ddata Genedlaethol er mwyn adlewyrchu newidiadau sydd wedi'u nodi drwy'r rhaglen gynhwysfawr barhaus o archwiliadau a gynhelir ar ran Llywodraeth Cymru gan yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio.

Defnyddir y Set Ddata Genedlaethol i gydlynu gweithgareddau monitro a chynnal a chadw rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, a'n partneriaid cyflenwi eraill.

Gallaf gyhoeddi y bydd y pedwerydd diweddariad o'r Set Ddata Genedlaethol yn cael ei gyhoeddi ar 2 Hydref 2025 er mwyn adlewyrchu newidiadau a nodwyd i domenni glo nas defnyddir ers y gwanwyn. Mae'n bwysig bod diweddariadau rheolaidd i statws tomenni glo nas defnyddir yng Nghymru, yn ogystal â gwybodaeth ategol, yn cael eu cyhoeddi i’r cyhoedd gael eu gweld. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd bod ein cofnodion yn gywir ac yn gyfredol, yn tynnu sylw at lle y gallai fod newidiadau nodedig mewn lleoliad tomen, a bod y rhaglen waith sy'n cael ei yrru gan ddiogelwch yn parhau.

Bydd y diweddariad hwn yn cynnwys cyfanswm o 35 o newidiadau. Mae'n adlewyrchu cofnodion nifer o dirffurfiau tomenni sydd newydd eu nodi, a'r newidiadau sy'n deillio o'r rhaglen o archwiliadau tomenni categori A a ddechreuodd yng ngwanwyn eleni. Dyma'r tro cyntaf i’r rhan fwyaf o domenni categori A gael eu harchwilio gan yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio ar ran Llywodraeth Cymru. Felly, cofnodwyd nifer uwch na'r arfer o newidiadau. Gall archwiliadau ar y safle ddatgelu gwybodaeth newydd a allai olygu bod categori neu ffin tomen lo nas defnyddir yn cael ei adolygu neu nad yw, mewn gwirionedd, yn cynnwys sborion glo. 

Mae newidiadau i'r Set Ddata Genedlaethol hefyd yn deillio o wybodaeth a gofnodir y tu allan i archwiliadau rheolaidd, er enghraifft, pan fydd awdurdod lleol yn rhoi gwybod am newid i domen, neu os caiff rhywbeth ei weld ar domen gyfagos wrth gynnal archwiliad. Caiff pob newid a awgrymir ei ddilysu gan yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio cyn cael ei gynnwys yn y Set Ddata Genedlaethol er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth yn gadarn, yn gywir ac yn addas at y diben.

Mae modd gweld crynodeb o'r tomenni glo nas defnyddir mewn tabl yn Atodiad 1 i'r datganiad hwn ochr yn ochr â dadansoddiad o nifer y tomenni a'u categori. 

Bydd y data yn parhau i gael eu cyflwyno gan ddefnyddio map ar-lein ar Wefan Llywodraeth Cymru drwy blatfform Map Data Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu gwybodaeth gryno am newidiadau ar ei gwefan. Bydd llyfryn o fapiau sy'n darparu rhagor o wybodaeth am newidiadau i'r diweddariad hefyd ar gael i'w lawrlwytho o'r wefan hon.

Mae hyn wrth gwrs yn dilyn pasio deddfwriaeth nodedig i fynd i'r afael â'r materion diogelwch a achoswyd gan orffennol mwyngloddio Cymru a gafodd y Cydsyniad Brenhinol fis diwethaf. Cafodd Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli nas Defnyddir (Cymru) ei selio'n swyddogol gan y Prif Weinidog mewn seremoni yn Big Pit, Blaenafon. Bydd y gyfraith fodern hon yn sicrhau bod hen domenni glo yn cael eu rheoli yn effeithiol yn y tymor hir, ac yn lleihau'r risg i ddiogelwch y cyhoedd.

Bydd y Bil yn sefydlu corff cyhoeddus newydd sef Awdurdod Tomenni nas Defnyddir Cymru, a fydd ganddo swyddogaethau mewn perthynas ag asesu, cofrestru, monitro a rheoli tomenni nas defnyddir. Bydd yr Awdurdod newydd hwn yn cael ei sefydlu ym mis Ebrill 2027.

Yn y cyfamser, mae rhaglen waith Llywodraeth Cymru ar ddiogelwch tomenni glo yn mynd rhagddi ac mae’n parhau i gydweithio a phartneriaid cyhoeddus i gyflawni trefn effeithiol o ran prosesau archwilio a gwaith cynnal a chadw ledled Cymru.

Bydd unrhyw tomenni sy'n symud i gathegori C neu D yn dod mewn i raglen yr arolygon arferol.

Dylai unrhyw awdurdodau lleol sy'n teimlo bod eu rhaglen o waith wedi newid o ganlyniad i'r rhaglen arolygu, gysylltu â Llywodraeth Cymru i geisio am arian ychwanegol a allai fod ar gael trwy grant Diogelwch Tomenni Glo.