Llyr Gruffydd AS, Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i fynd i'r afael â chanlyniadau ein gorffennol diwydiannol a sicrhau bod cymunedau meysydd glo yn gallu teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi, gyda chefnogaeth rhaglen hirdymor o fonitro, rheoli a buddsoddi mewn diogelwch tomenni glo nas defnyddir. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau â'i hymrwymiad i gyhoeddi diweddariadau rheolaidd i'r Set Ddata Genedlaethol o Domenni Glo nas Defnyddir (“y Set Ddata Genedlaethol”). Mae'r diweddariadau hyn yn cael eu cyhoeddi ddwywaith y flwyddyn, ar ôl cwblhau'r rhaglenni arolygu blynyddol a bob chwe mis a drefnwyd ar gyfer tomenni glo nas defnyddir categori C a D, yn y drefn honno.
Mae'r diweddariad diweddaraf hwn yn adlewyrchu'r newidiadau a nodwyd yn ystod y rownd ddiweddaraf o arolygiadau a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru gan yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio. Mae'r arolygiadau hyn yn rhan hanfodol o'n dull o fynd i'r afael a diogelwch tomenni glo, gan helpu i sicrhau bod tomenni glo nas defnyddir yn cael eu monitro yn effeithiol, bod risgiau'n cael eu nodi a'u rheoli yn gynnar, a gall cymunedau fod yn hyderus bod gwybodaeth am domenni yn eu hardaloedd barhau i fod yn gywir ac yn gyfredol.
Mae'r Set Ddata Genedlaethol yn offeryn allweddol i gefnogi'r gwaith o reoli tomenni glo nas defnyddir yn ddiogel ledled Cymru. Fe'i defnyddir i gydlynu gweithgareddau monitro, arolygu a chynnal a chadw rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr MRA, a phartneriaid cyflenwi eraill, gan sicrhau bod penderfyniadau'n seiliedig ar yr wybodaeth fwyaf cywir a chyfredol sydd ar gael. Gallaf gyhoeddi y bydd y pedwerydd diweddariad o'r Set Ddata Genedlaethol yn cael ei gyhoeddi ar 19 Tachwedd 2026 er mwyn adlewyrchu newidiadau a nodwyd i domenni glo nas defnyddir ers y gwanwyn. Mae cyhoeddi'r wybodaeth hon yn cefnogi tryloywder ac yn rhoi sicrwydd bod y rhaglen barhaus o arolygiadau a monitro ledled Cymru yn parhau i gryfhau ein dealltwriaeth o'r safleoedd etifeddiol hyn. Mae cymunedau yn haeddu teimlo'n hyderus bod tomenni glo nas defnyddir yn cael eu monitro, eu harchwilio a'u rheoli, gan helpu i gadw pobl yn ddiogel tra'n sicrhau bod gwybodaeth sy'n ymwneud a thomenni yn parhau i fod yn gywir ac yn hygyrch.
Yr Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir Cymru fydd y cam nesaf yn ymagwedd hirdymor Cymru at ddiogelwch tomenni. Gan adeiladu ar y gwaith sylweddol sydd eisoes ar y gweill, bydd yn dod ag arbenigedd, arloesedd a chyfrifoldeb statudol at ei gilydd mewn un sefydliad pwrpasol, gan ddarparu ffocws hirdymor cryfach ar amddiffyn cymunedau a rhoi hyder y bydd y gwaith hanfodol hwn yn parhau am genedlaethau i ddod.
Mae cyfanswm o 21 newid wedi'u gweithredu ers gwanwyn 2026. Gwneir newidiadau yn dilyn argymhellion gan yr MRA fel rhan o'r rhaglen arolygiadau a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae newidiadau i'r Set Ddata Genedlaethol hefyd yn deillio o wybodaeth a gofnodwyd y tu allan i arolygiadau rheolaidd. Er enghraifft, pan fydd awdurdod lleol yn rhoi gwybod am newid i domen, neu os caiff rhywbeth ei weld ar domen gyfagos wrth gynnal arolygiad. Caiff pob newid a awgrymir ei ddilysu gan yr MRA cyn cael ei gynnwys yn y Set Ddata Genedlaethol er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth yn gadarn, yn gywir ac yn addas at y diben.
Gellir dod o hyd i grynodeb o'r newidiadau a nodwyd dros y cyfnod arolygu diweddaraf hwn mewn tabl yn Atodiad 1 o'r datganiad hwn.
Yn yr un modd â'r diweddariadau blaenorol, cyflwynir y data gan ddefnyddio'r map ar-lein ar wefan Llywodraeth Cymru a thrwy blatfform MapDataCymru. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu gwybodaeth gryno am newidiadau ar ei gwefan. Mae llyfryn o fapiau sy'n darparu rhagor o wybodaeth am newidiadau i'r diweddariad ar gael i'w lawrlwytho o'r wefan hon.
