Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol y Dynion. Thema eleni yw Dathlu Dynion a Bechgyn. 

Mae gan ddynion a bechgyn Cymru lawer i ymfalchïo ynddo, ac rydym yn dathlu eu cyfraniad ym mhob maes yng Nghymru. Dyma'n ffrindiau, ein brodyr, ein ewythrod, a'n tadau sy'n chwarae rolau allweddol yn ein teuluoedd, ein gweithleoedd a'n cymunedau. 

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi dynion i wireddu'r newidiadau cadarnhaol maen nhw eisiau eu gweld. Yn y gogledd, nod y grŵp cymorth 'Sut mae Dad?" yw creu gofod diogel, cynhwysol lle gall tadau rannu profiadau a derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Mae Bearhug yn defnyddio technoleg bambŵ arloesol i greu cynhyrchion o ansawdd uchel i gynnal y corff, sydd wedi'u cynllunio i helpu unrhyw un, waeth beth fo'i oedran neu gefndir, i symud a gwella o anaf yn hyderus. Gyda chefnogaeth Syniadau Mawr Cymru, mae Jack Blundell wedi creu ap diogelwch RouteBuddies, sydd ar gael yn rhad ac am ddim ac yn caniatáu i ddefnyddwyr gwrdd mewn grwpiau o dri neu fwy a cherdded adref gyda'i gilydd. Mae'r tair enghraifft hyn yn rhoi cipolwg ar y ffyrdd niferus ac amrywiol y mae dynion yn ysgogi newid ym mhob rhan o gymdeithas Cymru er lles eraill.

Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod bod dynion a bechgyn yn parhau i wynebu llawer o heriau a rhwystrau wrth geisio sicrhau bywydau diogel, iach a ffyniannus. Fis diwethaf, siaradais mewn digwyddiad yn y Senedd yn trafod adroddiad y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol, Lost Boys – State of the Nation, sy'n nodi rhai o'r heriau hyn. Rydym yn cymryd amrywiol gamau i roi sylw iddynt gan gynnwys: sicrhau bod bechgyn a dynion ifanc yn deall beth yw perthynas iach; rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r strategaethau iddynt i gadw'n ddiogel ar-lein; cefnogi dynion i gael hyfforddiant, cyflogaeth ac i ddysgu sgiliau newydd; a gweithio i wella iechyd corfforol a meddyliol dynion a bechgyn ledled Cymru. 

Trwy ein rhaglenni teuluoedd a rhianta, rydym wedi ymrwymo i gefnogi tadau. Trwy gyfuniad o fentrau cyffredinol a mentrau wedi'u targedu, mae tadau yn cael eu hannog i gymryd rhan lawn ym mywydau eu plant a datblygiad y teulu. 

Ym mis Ebrill eleni, lansiwyd cynlluniau peilot ym Mlaenau Gwent, Sir Ddinbych, a Chastell-nedd Port Talbot i ddarparu cymorth i'r rhai sydd bellaf o'r farchnad lafur. Ym Mlaenau Gwent, mae'r Prosiect Gemau Gwasanaeth Ieuenctid, a gyflwynir mewn partneriaeth â GoConnect a'r Rhwydwaith Gemau Cymdeithasol, yn cynnig sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb i bobl ifanc 16–25 oed sydd ar hyn o bryd yn economaidd anweithgar. 

Mae'r dull arloesol hwn wedi'i gynllunio'n benodol i gyrraedd at unigolion, yn enwedig dynion ifanc, sy'n wynebu ynysigrwydd cymdeithasol a chyfleoedd cyfyngedig i ryngweithio, sy'n waeth yn aml oherwydd rhwystrau ychwanegol fel niwroamrywiaeth, is-ddiwylliannau, a diagnosis o gyflyrau iechyd meddwl gan gynnwys gorbryder ac iselder. Mae'r prosiect eisoes wedi cael canlyniadau addawol, gyda'r dynion ifanc yn adrodd llai o bryder, mwy o hyder a hunan-barch, a gwell sgiliau cymdeithasol. Wrth edrych tua'r dyfodol, nod y prosiect yw cael effaith ehangach trwy gynnig llwybrau i wirfoddoli, addysg bellach a chyflogaeth. 

Yn rhy aml, mae'r naratif o amgylch dynion a bechgyn ifanc yn negyddol. Mae bechgyn a dynion ifanc yn rhan fawr o ystadegau cyfiawnder troseddol. Fodd bynnag, rwyf am dynnu sylw at Dylan, enillydd y wobr Person Ifanc yng Ngwobrau Dewi Sant eleni, a drawsnewidiodd ei fywyd wrth dreulio dedfryd o garchar, yn ddim ond 16 oed, ym Sefydliad Troseddwyr Ifanc CEM Parc. 

Yn ystod ei amser yng ngharchar Parc, enillodd Dylan sgiliau hyfforddi, mentora, cyfathrebu a gwaith tîm. Mae hefyd wedi bod yn ysgogiad wrth drefnu gweithgareddau newydd i'r bobl ifanc yn y Parc. Ar ôl ei ryddhau, sicrhaodd Dylan swydd fel hyfforddwr rygbi dan hyfforddiant ac mae bellach yn gweithio gyda phobl ifanc eraill sydd mewn perygl yn y gymuned. 

Mae Dylan wedi profi ei bod hi'n bosibl herio pob sefyllfa a throi'r negyddol yn gadarnhaol o gael cefnogaeth i ffynnu. Fodd bynnag, mae cymaint o enghreifftiau eraill ledled Cymru lle mae dynion a bechgyn yn creu dyfodol gwell, nid yn unig iddyn nhw eu hunain ond hefyd i'w teuluoedd, eu cyfoedion a'u cymunedau ehangach. 

Un o'r meysydd hyn yw mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV). Mae cynnwys dynion a bechgyn fel cynghreiriaid yn hanfodol ar gyfer ein hymdrechion. Trwy'r ymgyrch Iawn, mae dynion a bechgyn yn dysgu am bob agwedd ar VAWDASV, ac yn trafod ymddygiadau afiach a niweidiol gyda dynion eraill. Wedi'i hanelu'n bennaf at bobl ifanc 18-34 oed trwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, mae'r ymgyrch hon wedi cael ei chanmol gan y Rhuban Gwyn fel dull gwerthfawr a chadarnhaol o ymgysylltu â dynion fel cynghreiriaid.

Yr hydref hwn bydd cynrychiolaeth o'n tîm Iawn, yn ddynion a bechgyn, yn cael hyfforddiant achrededig i fod yn Llysgenhadon Rhuban Gwyn X Iawn.  Bydd hyn yn eu harfogi â sgiliau ac offer ychwanegol i gael sgyrsiau cadarnhaol ynghylch gwrywdod, VAWDASV a chynghreiriaeth.

Rydym hefyd yn defnyddio dylanwadwyr proffil uchel a chymunedol fel modelau rôl cadarnhaol. Mae'r rhain yn cynnwys yr artist drill, Sage Todz, a gafodd ei enwebu ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2025 ac mewn sawl categori yn y Gwobrau Cerddoriaeth Ddu Gymreig a gynhaliwyd am y tro cyntaf ym mis Hydref. Ar gyfer yr ymgyrch Iawn, trafododd ddylanwad ei berthynas a'i ganfyddiadau o wrywdod ar ei gerddoriaeth. 

Rwy'n galw ar bob dyn a bachgen i chwarae ei ran i dod â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i ben. Dewch yn Llysgennad Rhuban Gwyn. Defnyddiwch eich pŵer a'ch dylanwad i dynnu sylw at ymddygiad sarhaus a rhywiaethol ymhlith eich ffrindiau, eich cydweithwyr a'ch cymunedau i hyrwyddo diwylliant o gydraddoldeb a pharch. Rwy'n diolch i'r holl ddynion a bechgyn sy'n gwneud safiad er mwyn newid pethau. 

Mae dynion a bechgyn yn arwain newid cadarnhaol ledled Cymru. Byddwn, fel Llywodraeth, yn parhau i gydweithio â dynion a bechgyn i ymdrin â'r heriau a'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu, er mwyn helpu i sicrhau eu bod yn gallu byw'n dda, cyfrannu at ein cymunedau a chyflawni eu potensial yma yng Nghymru.