Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae rheoliadau drafft sy'n ymwneud â rôl archwilwyr meddygol yng Nghymru, sy'n gysylltiedig â diwygiadau i'r dull o ardystio marwolaethau dan arweiniad Llywodraeth y DU wedi cael eu cyhoeddi heddiw. 

Mae cyflwyno rôl statudol archwilwyr meddygol, sy'n dod i rym ym mis Ebrill 2024, yn adeiladu ar ein prosesau presennol yn ymwneud â diogelwch cleifion ac adolygu marwolaethau i wella mesurau diogelu ar gyfer y cyhoedd. Mae archwilwyr meddygol yn darparu prosesau craffu ychwanegol ar amgylchiadau meddygol ac achosion marwolaethau ac yn sicrhau bod marwolaethau'n cael eu cyfeirio'n briodol at grwneriaid.

Mae'r gwasanaeth archwilwyr meddygol yng Nghymru yn gweithredu'n annibynnol ar y GIG, gan ddarparu gofal ac adborth annibynnol a chynnar gwerthfawr i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG am faterion a all fod yn gysylltiedig â gofal cyn marwolaeth. Yng Nghymru, mae archwilwyr meddygol yn ffordd arall i'r meddyg sy'n ardystio godi pryderon am ofal, y tu allan i'w sefydliadau eu hunain. 

Rhan bwysig o waith craffu archwilwyr meddygol yw cynnal sgwrs â'r perthynas neu'r teulu mewn profedigaeth, sy'n rhoi cyfle iddynt fynegi unrhyw bryderon a allai fod ganddynt mewn perthynas â gofal a thriniaeth eu hanwyliaid.

Dylid darllen rheoliadau drafft Cymru ochr yn ochr â'r rheoliadau drafft a'r ddogfen Diwygio'r Dull o Ardystio Marwolaethau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ac sy'n sail i'r diwygiadau a'r rheoliadau ychwanegol sy'n gymwys o ran Cymru a Lloegr. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi Datganiad Gweinidogol Ysgrifenedig heddiw.