Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Aelodau'r Senedd yn dymuno bod yn ymwybodol fy mod yn nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Pysgodfeydd a Dyframaethu am weddill tymor y Senedd. Datblygwyd y blaenoriaethau hyn gyda Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Bysgodfeydd Cymru (MAGWF), sydd wedi chwarae rhan allweddol yn y broses o lunio'r Dull Strategol hwn ac rwy'n ddiolchgar am eu mewnbwn. Ar ôl ystyried eu cyngor rwyf am osod cyfeiriad clir i bysgodfeydd a dyframaethu i sicrhau dyfodol sefydlog a diogel i'r ddau sector yng Nghymru. 

Yn dilyn ein hymadawiad o'r UE a'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin, daeth Deddf Pysgodfeydd 2020 i rym i greu fframwaith yn y DU ar gyfer rheoli ein pysgodfeydd a'n dyframaethu. Bellach mae ein gwaith yn cael ei gwmpasu gan Amcanion Pysgodfeydd y Ddeddf hon, ac ym mis Tachwedd 2022 cyhoeddwyd, gydag Awdurdodau Polisi Pysgodfeydd eraill y DU, Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd (JFS) sy'n nodi ein polisïau ar gyfer cyflawni'r Amcanion hynny. Mae hyn yn cynnwys rhaglen uchelgeisiol o Gynlluniau Rheoli Pysgodfeydd sydd i'w darparu i sicrhau bod stociau pysgod môr yn cael eu rheoli'n gynaliadwy. Bydd y rhain yn ffocws allweddol i ni wrth symud ymlaen. 

Rhaid i Weinidogion Cymru arfer swyddogaethau sy'n ymwneud â physgodfeydd, pysgota a dyframaethu yn unol â'r polisïau yn y JFS. Bydd yn bwysig ein bod yn defnyddio ein hadnoddau yn ddoeth i gyflawni'r canlyniadau gorau ochr yn ochr â blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru, gan gynnwys mynd i'r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd, a'r angen i barhau i gyflawni ystod o ddyletswyddau statudol ynghylch pysgodfeydd.

Ein blaenoriaethau ar gyfer gweddill tymor y Senedd fydd cyflawni ein dyletswyddau statudol ynghylch pysgodfeydd gan gynnwys rheoli a gorfodi pysgodfeydd o ddydd i ddydd, a monitro ochr yn ochr â chyflawni ein rhwymedigaethau cenedlaethol a rhyngwladol fel Awdurdod Polisi Pysgodfeydd a chyhoeddi a gweithredu'r Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd a nodir yn y JFS.Byddaf yn ymhelaethu ar y blaenoriaethau hyn yng ngweddill y Datganiad hwn ac rwyf am fod yn glir, byddwn yn canolbwyntio ar y pethau hyn am weddill tymor y Senedd hon.

Dyletswyddau statudol - Mae gennym ystod o ymrwymiadau statudol y byddwn yn parhau i'w cyflawni fel blaenoriaeth. Yn ogystal â'n rôl o ddydd i ddydd yn trwyddedu a rheoli pysgodfeydd, byddwn yn parhau i fonitro gweithgarwch pysgota ac archwilio cychod pysgota ar y môr ac mewn porthladdoedd, gan gymryd dull sy'n seiliedig ar wybodaeth o safbwynt camau gorfodi. 

Mae ein System Monitro Cychod Pysgota yn rhoi gwybodaeth newydd inni o ran lle a phryd y mae gweithgaredd pysgota yn digwydd. Ochr yn ochr â hyn, rydym hefyd yn gwella systemau Rheoli a Gorfodi eraill a fydd yn ein galluogi i reoli ein pysgodfeydd yn fwy effeithiol. Wrth i ni ddatblygu Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd, byddwn yn archwilio'r defnydd o dechnolegau eraill fel Monitro Electronig o Bell, i ddiogelu stociau a'r amgylchedd ymhellach, a sicrhau cynaliadwyedd. Yn ogystal â hynny, mae system drwyddedu ddigidol wedi ei rhoi ar waith i wella effeithlonrwydd a'i gwneud hi'n haws i bysgotwyr gael trwyddedau, er enghraifft i gasglu cocos rhynglanwol, a chofnodi daliadau. Cofnodwyd manylion dros 5000 o ddaliadau drwy'r system ddigidol newydd, sy'n dangos cynnydd amlwg yn nifer y manylion daliadau sy'n cael eu cyflwyno, a’u hamseroldeb, o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol. 

Yn unol â Chynllun Gwaith y DU ar gyfer casglu data pysgodfeydd, Gorchymyn Trwydded Bysgota am Gregyn Moch (Cymru) 2021, Gorchymyn Rheoli a Thrwyddedu Pysgota am Gocos (Cymru) 2024, is-ddeddfau rhanbarthol a Deddf Pysgodfeydd 2020, byddwn yn parhau i gasglu a dadansoddi'r dystiolaeth orau sydd ar gael ar stociau pysgod allweddol sydd o ddiddordeb i Gymru. Bydd y dystiolaeth a gesglir yn helpu i lywio'r broses o reoli pysgodfeydd mewn dull addasol, datblygu Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd, a sicrhau ein bod yn cydweithio ac yn cyfrannu at wybodaeth ryngwladol ehangach. 

Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd - Bydd Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd yn darparu mapiau ffyrdd ar gyfer rheoli stociau i'w cadw yn y dyfodol, a, lle bo angen, adfer y rhain i lefelau cynaliadwy, gan gefnogi diwydiant pysgota ffyniannus ac amgylchedd morol iach. Er mwyn cwrdd â'r her o gyflwyno'r rhaglen Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd, mae'r Is-adran Pysgodfeydd eisoes wedi ailgyfeirio adnoddau i'r gwaith blaenoriaeth hwn. Cyhoeddwyd Cyd Gynllun Rheoli Pysgodfeydd ar gyfer Draenogiaid Môr a Chregyn y Brenin yn nyfroedd Cymru a Lloegr ym mis Rhagfyr y llynedd. Rydym yn cydweithio â rhanddeiliaid, drwy strwythurau presennol a newydd, i flaenoriaethu camau gweithredu a rhoi'r cynlluniau ar waith, gan gymhwyso gwersi a ddysgwyd o'n system reoli lwyddiannus ar gyfer cregyn moch. Mae grwpiau cynghori ar gyfer draenogiaid môr a chregyn y brenin wedi hen ennill eu plwyf ac edrychaf ymlaen at glywed am gamau nesaf eu cynlluniau i wireddu buddion Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd. 

Yn ogystal, rydym hefyd yn datblygu Cynllun Rheoli Pysgodfa ar gyfer Crancod a Chimychiaid Cymru ac mae sesiynau cyn-ymgynghori wedi'u cynnal gyda rhanddeiliaid. Rydym yn bwriadu cyhoeddi'r cynllun yn 2026. 

Mae fy swyddogion hefyd yn cyfrannu at Gynlluniau Rheoli Pysgodfeydd stociau a rennir, gan gynnwys dau gynllun ar gyfer Môr Iwerddon a dau gynllun ar gyfer y Môr Celtaidd, ar gyfer stociau pelagig a stociau gwely'r mor.                                                                              

I gydnabod pwysigrwydd pysgodfeydd cocos rhynglanwol, rydym wedi cyflwyno'r gorchymyn rheoli cocos newydd eleni, sy'n paratoi'r ffordd ar gyfer mesurau eraill a Chynllun Rheoli Pysgodfa ar gyfer cocos Cymru yn 2028. Yn olaf, bydd Cynllun Rheoli Pysgodfa ar gyfer cregyn moch hefyd yn cael ei gyflwyno. Fel rhan o'r Cynllun Rheoli Pysgodfa hwn, byddwn yn edrych ar ba welliannau y gallem eu gwneud i'r bysgodfa hon a reolir yn addasol yn seiliedig ar y sylfaen dystiolaeth yr ydym yn ei hadeiladu trwy'r bysgodfa â chaniatâd hon.

Bydd angen tystiolaeth ar Gynlluniau Rheoli Pysgodfeydd ac felly bydd eu datblygiad a'u gweithrediad yn gwbl gysylltiedig â gwyddoniaeth a thystiolaeth. Er mwyn datblygu systemau rheoli mwy addasol ar gyfer ein pysgodfeydd bydd angen y dystiolaeth wyddonol orau sydd ar gael. Bydd hyn yn sicrhau y gall penderfyniadau rheoli fod yn ymatebol i newidiadau mewn helaethrwydd stoc a'r amgylchedd. Trwy weithredu Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd, wrth i'r sylfaen dystiolaeth ddatblygu ar gyfer pob rhywogaeth, byddwn yn datblygu systemau i asesu eu cynnyrch cynaliadwy mwyaf (MSY) neu fesur procsi lle nad yw'r rhain ar gael ar hyn o bryd.

Rhwymedigaethau Cenedlaethol a Rhyngwladol - O ystyried natur yr amgylchedd morol, rydym wrth gwrs yn gweithio ar y cyd yn y DU ar ymchwil, rheoli a gorfodi, rydym hefyd yn edrych y tu hwnt i hynny, a byddwn yn parhau i sicrhau bod Cymru'n cael ei chynrychioli mewn fforymau pysgodfeydd rhyngwladol perthnasol, fel y Sefydliadau Rheoli Pysgodfeydd Rhanbarthol, yn ogystal â chwarae ein rhan yng nghynrychiolaeth y DU yn ystod trafodaethau pysgodfeydd blynyddol gyda'r Comisiwn Ewropeaidd. Byddwn yn cymryd rhan yn y Pwyllgor Arbenigol ar Bysgodfeydd o dan y Cytundeb Masnach a Chydweithredu (TCA) i sicrhau'r buddion a'r canlyniadau mwyaf posibl i Gymru. Wrth edrych ymlaen at 2026, a'r adolygiad o drefniadau'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu gyda'r UE, byddwn yn mynd ati i gynnal ystod addas a buddiol o gyfleoedd pysgota, yn enwedig mewn perthynas â stociau heb gwota, er mwyn caniatáu i fflyd Cymru ddatblygu.

O ran dyrannu cwota ychwanegol, byddwn yn parhau i ddysgu gwersi a datblygu ein dull gweithredu wrth symud ymlaen. 

Mae'n amlwg bod newid yn yr hinsawdd yn cael effaith ar ddosbarthiad stociau ac, yn unol â'r JFS a thrwy'r Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd, byddwn yn ceisio addasu ac ymateb i'r newidiadau hyn. Gyda chynnydd yn nifer y tiwna asgell las yn ein dyfroedd, rwy'n falch ein bod wedi gallu cyflwyno pysgodfa hamdden eleni. Byddwn yn rheoli'r rhywogaeth eiconig hon yn unol â'n rhwymedigaethau rhyngwladol, ar ôl adeiladu ar ddysgu gan CHART Cymru a THUNNUS Cymru. Mae'n bwysig ein bod yn cymryd ymagwedd ragofalus a fydd yn gwneud y mwyaf o fudd cymdeithasol ac economaidd posibl y rhywogaeth. Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn parhau i weithio gyda gweddill y DU i wella prosesau rheoli’r rhywogaeth hon a rhywogaethau eraill ymhellach o dan adain ICCAT (Comisiwn Rhyngwladol ar Warchod Pysgod Tiwna Iwerydd). 

Rwyf nawr am gydnabod sawl maes pwysig sy'n cyd-fynd â'n blaenoriaethau ac yn eu cefnogi. 

Rwy'n cydnabod pwysigrwydd ein sector dyframaethu a'r manteision a ddaw yn ei sgil, sydd yn darparu ffynhonnell fwyd protein carbon isel, o ansawdd uchel, a all gefnogi diogelwch bwyd yn y dyfodol, yn ogystal â darparu ystod o ddibenion eraill a darparu swyddi sy'n gofyn am lefel uchel o sgil. Nid yw dyframaethu yn ganolbwynt i unrhyw Gynlluniau Rheoli Pysgodfeydd, fodd bynnag, byddwn yn parhau i gefnogi twf cynaliadwy a arweinir gan y diwydiant yn unol â'r canllawiau lefel uchel a nodir yn y JFS, ein gwaith parhaus a'n cefnogaeth i'r sector trwy Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru (WNMP), y clwstwr bwyd môr a Chynllun y Môr a Physgodfeydd Cymru (WMFS). 

Mae Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn nodi bod gan ddyframaethu botensial sylweddol ar gyfer twf cynaliadwy. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu rhagor o dystiolaeth drwy ein system cynllunio morol i wella dealltwriaeth o'r cyfleoedd i'r sector dyframaethu. Rydym eisoes wedi dechrau ar waith i fapio meysydd adnoddau sydd â'r potensial i gefnogi gweithgarwch dyframaethu, ynghyd â datblygu ein dealltwriaeth o sensitifrwydd amgylcheddol ac ystyriaethau economaidd-gymdeithasol yn y meysydd hyn. Bydd fy swyddogion yn parhau i ddatblygu dealltwriaeth o gyfleoedd posibl ar gyfer gweithgarwch dyframaethu yn y dyfodol a byddant yn ystyried y ffordd orau o ddiogelu meysydd o'r fath a chefnogi datblygiad cynaliadwy ardal y cynllun drwy'r system cynllunio morol.

Rwyf wedi clywed y galwadau am ddatblygu polisi newydd ar gyfer wystrys y Môr Tawel. Ar hyn o bryd, asesir ceisiadau i ffermio wystrys y Môr Tawel fesul achos gan yr awdurdod cymwys perthnasol. Mae hwn yn faes sy'n cael mwy o sylw ledled y DU, gyda newidiadau mewn marchnadoedd yn gwneud cynhyrchu wystrys yn opsiwn mwy deniadol i gynhyrchwyr pysgod cregyn, tra bod ein hamgylchedd newidiol yn newid y risg sy'n gysylltiedig â'r prosiectau hyn mewn rhai ardaloedd. Rwyf wedi gofyn i swyddogion barhau i fonitro'r sefyllfa ac wrth i'r sylfaen dystiolaeth esblygu, byddaf yn ailedrych ar yr angen am unrhyw bolisi penodol pellach ynghylch defnyddio wystrys y Môr Tawel mewn dyframaethu. 

Lle bo'n bosibl, byddwn yn parhau i gefnogi'r gadwyn gyflenwi bwyd môr a hyrwyddo bwyd môr Cymru fel dewis cynaliadwy ac iach i'r defnyddiwr. Mae marchnadoedd allforio yn parhau i fod yn hanfodol i hyfywedd y sector bwyd môr. Er mwyn sicrhau bod busnesau'n cael y cymorth masnach arbenigol priodol, rwyf wedi gofyn i swyddogion yn yr Is-adran Bwyd ymgorffori bwyd môr yn eu gweithgareddau craidd fel y maent yn ei wneud gyda bwyd arall a gynhyrchir yng Nghymru. Bydd yr ystod lawn o gymorth ac ymyriadau a ddarperir trwy'r Is-adran Bwyd i weithgynhyrchu bwyd a diod hefyd yn cefnogi'r diwydiant bwyd môr. 

Ochr yn ochr â datblygu'r Dull Strategol hwn, mae swyddogion wedi ymgysylltu'n llawn â rhanddeiliaid wrth ddatblygu map ffordd ar gyfer cadwyn gyflenwi bwyd môr Cymru.  Bydd allbwn y gwaith hwn yn gynllun diriaethol a chyraeddadwy ar gyfer y gadwyn gyflenwi bwyd môr. Wedi'i gefnogi gan Seafish, ac wedi'i ysbrydoli gan Gymdeithas Pysgotwyr Cymru, y nod yw i bob rhan o'r sector bwyd môr - busnesau, ymchwil, llywodraeth a chyrff cynrychioliadol fel ei gilydd, weithio ar y cyd i adeiladu cadwyn gyflenwi gadarn. Edrychaf ymlaen at weld canlyniadau terfynol y gwaith, sydd i fod i gael eu cyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn.

O safbwynt ein pysgodfeydd ar gyfer pysgod dŵr croyw a mudol, mae sefyllfa eogiaid gwyllt a brithyllod y môr yn frawychus iawn. Mae'n amlwg gyda mesurau rheoli pysgodfeydd eisoes ar waith ledled Cymru, fod angen gweithredu ehangach i adfer poblogaethau eogiaid a gwrthsefyll effeithiau’r hinsawdd. Mae poblogaethau eogiaid iach yn gofyn am afonydd iach. Mae glanhau, diogelu a gwella amgylchedd ein dŵr yn un o flaenoriaethau'r llywodraeth hon. Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn ein hymrwymo i wella ansawdd dŵr trwy ddechrau dynodi dyfroedd mewndirol ar gyfer hamdden a chryfhau prosesau monitro ansawdd dŵr afonydd. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu dros £40 miliwn o gyllid ychwanegol rhwng 2022-23 a 2024-25 i fynd i'r afael â heriau ansawdd dŵr ledled Cymru, gan gynnwys dros £1.5 miliwn o gyllid ar gyfer byrddau rheoli maethynnau, a sefydlwyd i fynd i'r afael â dalgylchoedd afonydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA). Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy'n gyfrifol am reoli eogiaid, brithyllod y môr a rhywogaethau dŵr croyw a mudol eraill yng Nghymru, a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda chydweithwyr yn CNC. 

Nid problem yma yng Nghymru yn unig yw'r dirywiad mewn eogiaid gwyllt, felly byddwn yn parhau i fynd i'r afael â materion allweddol ar lefel y DU ac yn rhyngwladol, trwy Sefydliad Cadwraeth Eog Gogledd yr Iwerydd (NASCO). Yn 2025 bydd Caerdydd yn croesawu cyfarfod blynyddol NASCO (cyfarfod rhif 42), ac edrychwn ymlaen at groesawu Llywodraethau o bob rhan o ogledd yr Iwerydd a chymuned ryngwladol ehangach eogiaid yr Iwerydd i Gymru. 

Ni allwn gyflawni unrhyw un o'n cynlluniau heb gyfranogiad rhanddeiliaid. Mae gennym weledigaeth glir y bydd y diwydiant yn chwarae mwy o ran wrth reoli pysgodfeydd yn y dyfodol. Byddwn yn datblygu diffiniad o gydreoli a fframwaith ar gyfer cyflawni i'n helpu i wireddu’r weledigaeth. Cyn hyn, byddwn yn parhau i weithio ar y cyd â'r Grwp Cynghori’r Gweinidog ar Bysgodfeydd Cymru (MAGWF), Grŵp Cynghori ar Gregyn Moch Cymru a grwpiau cynghori ychwanegol i randdeiliaid a sefydlwyd i gynorthwyo i weithredu Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd. Bydd y grwpiau hyn yn chwarae rhan bwysig, fel rhan o ddull gweithredu effeithiol a chadarn o wneud penderfyniadau a byddant yn allweddol ar gyfer cynnwys rhanddeiliaid yn gynnar yn y gwaith o ddatblygu polisi a dull cydreoli. Byddwn yn gwrando ar farn a phrofiadau rhanddeiliaid ac yn defnyddio technegau priodol ac arloesol i sicrhau ein bod yn ymgysylltu yn y ffordd iawn gyda'r bobl gywir.  

Byddwn yn parhau i ddarparu cefnogaeth i'r sectorau pysgodfeydd a dyframaethu, yn ogystal â'r blaenoriaethau yr wyf wedi'u nodi. Mae Cynllun y Môr a Physgodfeydd Cymru wedi'i gynllunio i greu cyfleoedd o fewn yr amgylchedd morol, cymunedau arfordirol a bwyd môr cynaliadwy ar draws y gadwyn gyflenwi gyfan, o gynhyrchu i brosesu a marchnata. Gall y cynllun addasu i'n hanghenion, a bydd yn gwneud hynny, felly mae gennym fframwaith clir ar waith i ymateb i flaenoriaethau dros amser. 

Mae grŵp cynghori rhanddeiliaid Cynllun y Môr a Physgodfeydd Cymru ar waith i sicrhau cyd-gynhyrchu'r cynllun a fydd yn cefnogi buddsoddiad ac yn cyfrannu at Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn ogystal â'r egwyddorion a'r ymrwymiadau penodol yn y Rhaglen Lywodraethu, ynghyd ag ymrwymiadau a wnaed yn y JFS a'r Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd. Rwy'n annog yr holl randdeiliaid cymwys i ddefnyddio'r cyllid sydd ar gael drwy Gynllun y Môr a Physgodfeydd Cymru – i chwilio am gyfleoedd ar gyfer twf, arallgyfeirio ac arloesi, i helpu i yrru'r blaenoriaethau yn eu blaenau a defnyddio'r cynllun i adeiladu Cymru decach, wyrddach a mwy llwyddiannus. 

Mae'r Dull Strategol hwn yn adlewyrchu'r galwadau gan y sector pysgodfeydd a dyframaethu i sicrhau eglurder ar gyfer y dyfodol. Mae lles y rhai sy'n ymwneud â'r sectorau pysgodfeydd a dyframaethu o'r pwysigrwydd mwyaf. Rwyf wedi ymrwymo i wneud popeth a allwn yn y meysydd hyn a byddaf yn archwilio opsiynau ymhellach gyda Chynllun y Môr a Physgodfeydd Cymru ac o fewn Llywodraeth Cymru.

Mae'r Dull Strategol hwn yn ymwneud â sicrhau bod y pethau hanfodol yn iawn, a thargedu ein blaenoriaethau cyflawni, gan sicrhau bod gennym sylfaen gref o reoli pysgodfeydd a dyframaethu yn gynaliadwy i'n harwain i'r blynyddoedd i ddod. Rwyf am i ni fod yn y lle gorau i fynd i'r afael â heriau, gyda thechnegau rheoli cadarn, tystiolaeth gref, a sector a gefnogir gan Gynllun y Môr a Physgodfeydd Cymru i fod yn hyblyg a gallu ymateb i bwysau a chyfleoedd, gan sicrhau dyfodol cadarnhaol i sectorau pysgodfeydd a dyframaethu Cymru.