Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Rhagfyr 2022 cyhoeddwyd y datganiad cyntaf o ddata ar gyfer y Gymraeg o Gyfrifiad 2021, a oedd yn dangos bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng i 538,300. Roedd hyn yn dra gwahanol i’r amcangyfrifon o Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, a oedd yn dangos bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi cynyddu dros yr un cyfnod ac yn parhau i gynyddu. Mae rhagor o ddata o Gyfrifiad 2021 bellach wedi eu cyhoeddi, gan gynnwys data am allu yn y Gymraeg yn ôl nodweddion y boblogaeth, fel oedran, rhyw a grŵp ethnig, yn ogystal â data am drosglwyddo’r Gymraeg o un genhedlaeth i’r llall yn y cartref. Mae’r ystod o ddata sydd bellach ar gael i ni’n cyfoethogi’n dealltwriaeth ni o sefyllfa’r Gymraeg ar lawr gwlad heddiw.

Yn ein strategaeth ni ar gyfer ein hiaith, Cymraeg 2050, a gyhoeddon ni yn 2017, rydym yn nodi mai’r cyfrifiad yw’r ffynhonnell awdurdodol o wybodaeth am allu’r boblogaeth yng Nghymru yn y Gymraeg. Mae Cymraeg 2050 yn datgan y bydd y cynnydd tuag at ein targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg yn cael ei fonitro gan ddefnyddio data cyfrifiadau’r dyfodol.

Mae’r gwahaniaethau mawr rhwng canlyniadau’r cyfrifiad a’r arolygon yn ei gwneud hi’n heriol i ddefnyddio’r ystadegau hyn i hysbysu polisi iaith. Felly, rwyf yn cyhoeddi’r datganiad hwn heddiw er mwyn eich hysbysu o’r gwaith rydym yn ei wneud i wella cydlynu rhwng gwahanol ffynonellau am ystadegau ar y Gymraeg yng Nghymru. Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun gwaith ar y cyd â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) i archwilio’r gwahaniaethau rhwng y ffynonellau data hyn yn fanylach.

Rhan ganolog o’r gwaith fydd cysylltu data Cyfrifiad 2021 â data arolygon yr ONS drwy’r Gwasanaeth Data Integredig. Bydd y prosiect cysylltu data arloesol hwn—un o’r prosiectau cyntaf i ddefnyddio’r Gwasanaeth Data Integredig—yn ein galluogi i ddysgu rhagor am y grwpiau o bobl sy’n ymateb yn wahanol am eu gallu yn y Gymraeg rhwng y cyfrifiad ac arolygon yr ONS.

Bydd hyn yn sail i ddadansoddi’r gwahaniaethau rhwng ffynonellau eraill, megis y Cyfrifiad Ysgol Blynyddol ar Lefel Disgyblion ac Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Yn ogystal â deall beth yw’r gwahaniaethau yn yr amcangyfrifon rhwng y prif ffynonellau data ar y Gymraeg, bydd yr ONS a Llywodraeth Cymru hefyd yn mynd i’r afael â pham mae canlyniadau’r ffynonellau’n wahanol. Mae hyn yn cynnwys edrych yn fanwl ar sut mae arolygon yn cael eu dylunio a’u rhoi ar waith.

Bydd yr ONS hefyd yn ystyried sut mae gwella’r ystod o ystadegau ar y Gymraeg ymhellach drwy edrych ar sut i gasglu gwybodaeth am bobl sy’n gallu siarad Cymraeg ond sy’n byw y tu allan i Gymru.

Caiff y gwaith ei oruchwylio gan dasglu sy’n cynnwys Prif Ystadegydd a dadansoddwyr Llywodraeth Cymru, dadansoddwyr a swyddogion o’r ONS.

Bydd diweddariadau rheolaidd am y gwaith yn cael eu cyhoeddi ar y Blog Digidol a Data a thudalennau Ystadegau ac Ymchwil ar wefan Llywodraeth Cymru.