Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Er gwaethaf yr heriau sy’n ein hwynebu heddiw, rydym yn parhau i fuddsoddi mewn addysg a hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru. Mae galw mawr am wasanaethau’r GIG, ac mae angen parhaus i gynyddu’r niferoedd o weithwyr iechyd hanfodol sy’n cael eu hyfforddi a lefel y cyllid yn 2023/24. Dyna pam y bydd cynnydd yn y cyllid ar gyfer cefnogi addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru am y nawfed flwyddyn yn olynol.

Bydd £281.98m yn cael ei fuddsoddi yn 2023/24; mae hynny’n cyfateb i gynnydd o 8% o 2022/23 sy’n golygu £1.7m ychwanegol ar gyfer rhaglenni addysg a hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru;  £7.14m ychwanegol ar gyfer lleoedd hyfforddiant meddygol, £1.68m ychwanegol i gefnogi niferoedd hyfforddi meddygon teulu craidd, a chynnydd net o £3.41m ar gyfer hyfforddiant mewn fferylliaeth ledled Cymru. Dyma’r lefel uchaf o gyllid erioed ar gyfer cynnal y nifer uchaf erioed o gyfleoedd hyfforddi a ddarperir yng Nghymru. 

Mae’n hanfodol sicrhau bod gweithlu’r GIG yn cael ei hyfforddi i safon uchel a’i fod yn meddu ar y sgiliau priodol er mwyn iddo allu darparu gofal cynaliadwy o ansawdd uchel i bobl ledled Cymru, a gwella’r safonau yn ein gwasanaeth iechyd.

Rwy’n teimlo balchder o weld bod hanes y Llywodraeth hon yn adlewyrchu hanes o fuddsoddi mewn addysg a hyfforddiant i gefnogi a chynnal y gweithlu iechyd ar draws Cymru. Mae mwy o bobl yn gweithio yn y GIG nag ar unrhyw adeg yn ei hanes, a nod hyn i gyd yw atal salwch a darparu gofal i bob cymuned yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau’n ymrwymedig i sicrhau bod gan y GIG y gweithlu y mae ei angen. Bydd y lleoedd hyfforddi ychwanegol hyn yn cynyddu capasiti’r gweithlu er mwyn helpu’r GIG i ymateb i’r heriau a fydd yn ei wynebu yn y dyfodol.

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae lleoedd hyfforddi i nyrsys wedi cynyddu 41.3% ac mae nifer y bydwragedd wedi cynyddu 41.8%. Mae tablau sy’n dangos y cynnydd mewn lleoedd hyfforddiant meddygol a gofal iechyd proffesiynol ar gyfer 2023/24 i’w gweld yn Atodiad A.