Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n gwneud y datganiad hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r fframwaith ar gyfer ymyriad wedi'i dargedu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. 

Yn dilyn cyfarfod teirochrog arbennig fis Tachwedd 2020, cefais gyngor gan Brif Weithredwr GIG Cymru y dylid newid statws uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ar 24 Tachwedd 2020, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn cyhoeddi y byddai’r mesurau arbennig a oedd wedi’u gosod ar y Bwrdd Iechyd yn cael eu codi ar unwaith. Statws y sefydliad bellach yw ymyriad wedi'i dargedu.

Bellach rwyf mewn sefyllfa i gyhoeddi'r fframwaith ymyriad wedi'i dargedu ar gyfer y bwrdd iechyd. Rydym wedi penderfynu bod angen gwella mewn pedwar maes allweddol: iechyd meddwl, strategaeth, cynllunio a pherfformiad, arweinyddiaeth ac ymgysylltu. Mae hyn yn gydnaws ag argymhellion y cyfarfod teirochrog a gynhaliwyd fis Tachwedd. Cytunwyd i weithio drwy ddull matrics aeddfedrwydd i olrhain y gwelliant a chofnodi’r dystiolaeth. Mae nifer o gamau gweithredu eisoes ar waith. Yn amlwg, mae wedi bod yn hanfodol i'r bwrdd iechyd ganolbwyntio ei ymdrechion ar ymateb i’r pandemig COVID-19 a rheoli ei effaith yn ystod y misoedd diwethaf. Rwy'n hyderus bod y Bwrdd wedi ymrwymo i wneud popeth sydd ei angen i fod yn sefydliad y mae ansawdd yn greiddiol i’w waith.

Rhaid cofio bod ymyriad wedi’i dargedu yn dal i fod yn lefel uwchgyfeirio uwch sy'n gofyn am weithredu sylweddol ar ran y sefydliad, ac y bydd fy swyddogion yn parhau i gadw gwyliadwriaeth ar y sefyllfa. Fodd bynnag, mae codi’r mesurau arbennig yn gam cadarnhaol ymlaen i staff y bwrdd iechyd, sydd wedi gwneud cynnydd ac wedi cynnal y cynnydd hwnnw fel bod modd rhoi terfyn ar y mesurau arbennig. Mae hwn hefyd, wrth gwrs, yn gam cadarnhaol ymlaen i bob cymuned yn y Gogledd sy'n cael ei gwasanaethu gan y bwrdd iechyd.