Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ionawr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn sylwadau gan Aelodau a chlinigwyr lleol a chynrychiolwyr cymunedol, rwyf wedi penderfynu comisiynu Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru i gynnal astudiaeth annibynnol. Diben yr astudiaeth fydd archwilio’r cyfleoedd i ddarparu gwasanaethau iechyd hygyrch, diogel, cynaliadwy ac uchel eu safon, sy’n gweddu i anghenion penodol trigolion y Canolbarth, ac agweddau ar hynny.

Mae’r cylch gorchwyl bras a nodir isod yn cynnwys ystyried canlyniadau a phrofiadau cleifion, a gweithio gyda chlinigwyr a gweithwyr proffesiynol eraill a’r cyrff sy’n eu cynrychioli, darparwyr gwasanaethau iechyd ac asiantaethau allweddol eraill, yn ogystal â thrigolion y Canolbarth, i edrych ar y canlynol: y ffordd orau o ddatblygu modelau darparu gwasanaethau ar draws gofal sylfaenol a gofal cymunedol a’r gofal eilaidd a ddarperir yn Ysbyty  Bronglais; cyfleoedd i ddarparu rhagor o ofal yn y cartref neu’n agos at y cartref, drwy ddefnyddio telefeddygaeth a theleiechyd; a datblygu rolau a modelau gweithlu (gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer trefniadau partneriaeth ag arbenigwyr a datblygu rolau mwy ‘cyffredinol’). Bydd yr astudiaeth yn defnyddio gwaith Grŵp Gweithredu'r Cynllun Iechyd Gwledig, a sefydlwyd i gefnogi’r broses o weithredu’r Cynllun hwnnw, yn ogystal â modelau arfer rhyngwladol.

Bydd yr astudiaeth hon yn helpu i lywio cynlluniau gwasanaeth y Byrddau Iechyd Lleol. Ar ôl ei chwblhau, byddaf yn disgwyl i Fyrddau Iechyd Hywel Dda, Powys a Betsi Cadwaladr, sef y cyrff sy’n gyfrifol am ddiwallu anghenion iechyd trigolion y Canolbarth, ymateb i’w chanfyddiadau drwy adnewyddu Cynlluniau Tymor Canolig yr holl Fyrddau Iechyd yn yr Hydref. Roedd Fframwaith Cynllunio’r GIG Cymru, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn datgan yn glir fod angen i’r cynlluniau hyn ymateb i anghenion y boblogaeth leol. Mae’r Fframwaith hefyd yn atgyfnerthu’r angen penodol i ystyried sut i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd i gymunedau gwledig.

Rwyf wedi gofyn i Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru geisio barn gychwynnol amrywiaeth o randdeiliaid allweddol er mwyn dod i gasgliad gyda manylion terfynol yr astudiaeth arfaethedig dros y 3-4 wythnos nesaf.

DRAFFT/AMLINELLIAD O’R CYLCH GORCHWYL

Astudiaeth Gofal Iechyd Canolbarth Cymru
Nod ac Amcanion

Nodi’r materion a’r atebion posibl (gan gynnwys modelau) ar gyfer darparu gwasanaethau gofal iechyd hygyrch a diogel o ansawdd uchel, sydd fwyaf addas ar gyfer bodloni anghenion penodol y rheini sy’n byw yn y Canolbarth. Dylai’r astudiaeth nodi’r camau y gellid eu cymryd nawr ac yn y dyfodol, gan ystyried yn benodol:

  • anghenion iechyd a disgwyliadau’r cyhoedd – gan gynnwys: y dewis i ofal gael ei ddarparu’n agos at gartref; mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd; darparu gwasanaethau yn Gymraeg; a tystiolaeth ynghylch yr elfennau ehangach sy’n effeithio ar iechyd (e.e. ynysu ffisegol a chymdeithasol, mynediad at drafnidiaeth, enillion llai na’r cyfartaledd) a welir ym mhoblogaeth y Canolbarth;
  • modelau gweithlu – gan gynnwys proffil, recriwtio a chadw, safonau proffesiynol, goblygiadau gwasanaethau (ansawdd a chyfluniad) a modelau ar gyfer y dyfodol (e.e. cynlluniau ar gyfer datblygu rôl yr ymarferydd gwledig, staff ‘cyffredinol’, trefniadau cyfeillio gyda chanolfannau trydyddol, clinigau allgymorth etc.);  
  • modelau trefnu gwasanaethau, cyllid a chynaliadwyedd – gan gynnwys cynlluniau a safbwyntiau ar y cyfluniad mwyaf addas i roi’r canlyniadau iechyd gorau i gleifion yn y Canolbarth;
  • arloesi a chymhwyso modelau newydd – gan gynnwys i ba raddau y mae cynigion cadarn, neu gyfleoedd ehangach, i ddefnyddio technolegau iechyd a thelefeddygaeth, teleiechyd, Skype, ffôn, e-bost a thechnoleg ddigidol arall i wella hygyrchedd ac ansawdd gwasanaethau;
  • integreiddio gwasanaethau – cyfleoedd i gryfhau gwaith partneriaeth, yn enwedig y cysylltiad rhwng iechyd a gofal cymdeithasol a darparwyr sector gwirfoddol;
  • unrhyw faterion a welir ar hyd ffin Cymru a Lloegr.

Dull

Rhagwelir dau gam. Yn y cyntaf, dros dua 3 - 4 wythnos, cynhelir trafodaethau cychwynnol gyda rhanddeiliaid allweddol i ymchwilio i’r materion, datblygu methodoleg briodol, ac amserlen ar gyfer yr astudiaeth. Er y bydd yr ail gam yn ddibynnol ar y trafodaethau yn y cam cyntaf, rhagwelir dull ansoddol gan fwyaf:

  • crynhoi’r dystiolaeth bresennol ynghylch y pwysau penodol o ran darparu gwasanaethau yn y Canolbarth, gan gynnwys deunyddiau sydd wedi’u cyhoeddi, y Cynllun Iechyd Gwledig (gan gynnwys astudiaethau ategol) a gwaith Grŵp Gweithredu’r Cynllun Iechyd Gwledig;
  • adolygiad o’r deunyddiau sydd wedi’u cyhoeddi ar fodelau darparu gwasanaethau sy’n arwain at wella canlyniadau i bobl sy’n byw mewn ardaloedd prin eu poblogaeth ac ardaloedd gwledig gan fwyaf;
  • dadansoddi’r Cynlluniau Tymor Canolig wrth eu datblygu (gan gynnwys yr ymchwil/dadansoddiad ategol sydd ar gael), gyda ffocws ar ystyried y materion penodol a thrawsbynciol o ran darparu gwasanaethau yn y Canolbarth. Dylai hyn gynnwys ystyried datblygiadau diweddar ym mhob Bwrdd Iechyd;
  • cyfweliadau/gweithdai gyda rheolwyr arweiniol, gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol, cyrff proffesiynol a chynrychioliadol (gan gynnwys Colegau Brenhinol a Deoniaeth), y trydydd sector a’r sector annibynnol sydd oll â buddiant mewn cymryd camau i wella iechyd a lles pobl sy’n byw yn y Canolbarth. Ni ddylid cyfyngu hyn i’r rheini sy’n gweithio i GIG Cymru;
  • cyfweliadau/gweithdai gydag aelodau a grwpiau o’r gymuned leol i ddeall eu pryderon a’u blaenoriaethau ar gyfer gwella.

Amserlen Digwyddiadau

Bydd y contract yn cychwyn ar unwaith, gyda methodoleg ac amserlen fanylach o fewn 3-4 wythnos.

Allbwn

Allbwn y cam cyntaf fydd methodoleg ac amserlen glir. Allbwn yr ail gam fydd adroddiad cryno yn mynd i’r afael â’r gofynion uchod ac unrhyw gofynion a ddaw wedi hynny drwy’r cam ymchwil. Bydd yr adroddiad yn nodi safbwyntiau’n glir ynghylch y camau y dylid eu cymryd i fodloni anghenion iechyd y rheini sy’n byw yn y Canolbarth yn well. Bydd hyn yn cynnwys cyngor clir ar fodelau gwasanaeth cynaliadwy ar gyfer y dyfodol ac ystyriaeth o Ysbyty Bronglais.