Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwyf wedi gosod yr is-ddeddfwriaeth sy'n ofynnol i weithredu'r diwygiadau Ailgylchu yn y Gweithle. Bydd y rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i bob gweithle busnes, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector wahanu deunyddiau allweddol y gellir eu hailgylchu yn y ffordd y mae aelwydydd eisoes yn ei wneud ar draws y rhan fwyaf o Gymru. Mae'r camau hyn yn hanfodol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur a ddatganwyd gan y Senedd, ac mae'n dangos cynnydd sylweddol tuag at economi gryfach, wyrddach fel yr ymrwymwyd iddo yn ein Rhaglen Lywodraethu.

Mae'r tri Offeryn Statudol (OSau) sy'n rhan o'r diwygiadau Ailgylchu yn y Gweithle wedi'u trefnu ar gyfer dadl lawn ar 28 Tachwedd, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, byddant yn dod i rym ar 6 Ebrill 2024. Sef:

Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023

Mae'r OS hwn yn nodi'r gofyniad i safleoedd annomestig (gan gynnwys busnesau, elusennau a chyrff yn y sector cyhoeddus) gyflwyno deunyddiau ailgylchadwy penodol i'w casglu ar wahân; ei gwneud yn ofynnol i'r rhai sy'n casglu'r deunyddiau ailgylchadwy penodedig o eiddo annomestig eu casglu ar wahân i ddeunyddiau ailgylchadwy eraill a gwastraff gweddilliol; ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r deunyddiau ailgylchadwy a gesglir gael eu cadw ar wahân ac nid eu cymysgu. Bydd hyn yn gwella ansawdd a nifer y deunyddiau ailgylchadwy a gasglwn o weithleoedd, a fydd yn ei dro yn cadw deunyddiau pwysig i'w bwydo'n ôl i economi Cymru, tra hefyd yn gwella cysondeb y ffordd yr ydym yn casglu ac yn rheoli ailgylchu yng Nghymru.

‌Rheoliadau Gwahardd Llosgi Gwastraff Penodedig, neu ei Ddodi ar Safle Tirlenwi (Cymru) 2023

Mae'r OS hwn yn ymestyn gwaharddiadau presennol i gynnwys deunyddiau ailgylchadwy ychwanegol y gellir eu casglu ar wahân o safleoedd annomestig a domestig i'w gwahardd rhag eu llosgi a mynd i safleoedd tirlenwi. Mae hefyd yn gwahardd pob gwastraff pren o safleoedd tirlenwi. Bydd hyn yn sicrhau bod y deunyddiau ailgylchadwy penodedig a gesglir o safleoedd annomestig yn unol â'r Rheoliadau Gwahanu Gwastraff yn cael eu hailgylchu fel y bwriadwyd, fel nad ydynt yn cael eu gwastraffu drwy gael eu llosgi neu eu rhoi mewn safleoedd tirlenwi.

Gorchymyn Gwahardd Gwaredu Gwastraff Bwyd i Garthffosydd (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023

Mae'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau sy'n ategu y gwaharddiad ar waredu gwastraff bwyd i garthffosydd o eiddo annomestig. Bydd hyn yn sicrhau nad yw gweithleoedd yn gosod technolegau i hwyluso gwaredu gwastraff bwyd i garthffos fel ffordd o osgoi'r gofyniad i wahanu gwastraff bwyd i'w ailgylchu. Bydd hefyd yn gwahardd gweithleoedd sy'n gwaredu eu gwastraff bwyd fel hyn rhag gwneud hynny, gan y gall gwaredu gwastraff bwyd i garthffos orlwytho'r system garthffosiaeth ac achosi rhwystrau. Mae peidio â thrin y gwastraff bwyd yn briodol hefyd yn arwain at allyriadau nwyon tŷ gwydr a cholli'r gallu i adfer ynni a maetholion gwerthfawr.

Bydd y rheoliadau’n darparu ar gyfer cosbau sifil hefyd mewn perthynas â throseddau sy’n gysylltiedig â’r holl ofynion hyn.

Mae'r Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle yn adeiladu ar ein diwygiadau llwyddiannus ar gyfer ailgylchu yn y cartref, lle mae ein cyfradd uchel o ailgylchu yn arbed tua 400,000 tunnell o garbon inni bob blwyddyn. Ochr yn ochr â'r hanfodion amgylcheddol, bydd cyflwyno'r dull hwn o weithredu yn ein gweithleoedd yn cynnig buddion i'r economi trwy ddal cyflenwad gwydn o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu o ansawdd uchel, gan greu cyfleoedd gwaith ac ysgogi buddsoddiad. Gyda chost deunyddiau yn cyfrannu at gostau byw cynyddol, bydd cadw deunyddiau a ailgylchwyd o ansawdd uchel yn economi Cymru yn fwy effeithiol yn gwella effeithlonrwydd adnoddau a lleihau ein dibyniaeth ar echdynnu adnoddau crai.

Mae ymgyrch gyfathrebu genedlaethol hefyd wedi'i lansio i sicrhau ymwybyddiaeth a chefnogi gweithleoedd i fod yn barod. Mae hyn yn cynnwys ymgyrch genedlaethol, cyhoeddi canllawiau sector-benodol, post uniongyrchol i bob gweithle, astudiaethau achos ac adnoddau eraill i gefnogi gweithleoedd i fod yn barod i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth newydd.

Gellir gweld yr offerynnau statudol a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig a'r Asesiadau Effaith Integredig yma. Ochr yn ochr â hyn, rwyf hefyd yn cyhoeddi'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol y gellir ei weld yma.

Bydd y Casgliad Deunyddiau Gwastraff ar Wahân Terfynol ar gyfer Ailgylchu:Cod Ymarfer i Gymru sy'n nodi canllawiau ymarferol ar sut i gydymffurfio â'r gofynion gwahanu hefyd yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir, yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd i Reoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023. Gellir gweld manylion llawn yr ymgynghoriad ar y cod yma.  Byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig pellach i rybuddio Aelodau pan gyhoeddir y Cod terfynol.

Mae'r canllawiau, ac adnoddau eraill ar gyfer gweithleoedd a chasglwyr gwastraff, ar gael ar-lein yma: https://www.llyw.cymru/ailgylchu-yn-y-gweithle

Edrychaf ymlaen at drafod ag Aelodau'r Senedd wrth ystyried yr OSau yn ystod y mis nesaf.