Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Heddiw rwyf wedi gosod Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) (Diwygio) 2026 i weithredu cam nesaf ein diwygiadau llwyddiannus i ailgylchu yn y gweithle yng Nghymru.
Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd i'r Rheoliadau, byddant yn dod a gofyniad i weithleoedd gyflwyno cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE) ar wahân i'w casglu a'u hailgylchu o 6 Ebrill 2026. Ar hyn o bryd mae'n ofynnol i weithleoedd wahanu sWEEE heb eu gwerthu yn unig. Mae'r camau hyn yn hanfodol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur a ddatganwyd gan y Senedd, ac mae'n dangos cynnydd sylweddol tuag at economi gryfach, wyrddach fel yr ymrwymwyd iddo yn ein Rhaglen Lywodraethu.
Rydym wedi ymgynghori yn ddiweddar ar newidiadau i'r 'Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân i'w Hailgylchu – Cod Ymarfer i Gymru' i adlewyrchu'r gofyniad sWEEE newydd. Yn fy natganiad blaenorol ar 18 Rhagfyr, bu imi gadarnhau fod yr holl ddiwygiadau arfaethedig i'r Cod a gyflwynwyd yn yr ymgynghoriad yn cael eu cefnogi gan fwyafrif yr ymatebwyr a fynegodd farn. Er mwyn cynorthwyo Aelodau'r Senedd i ystyried y Rheoliadau hyn, rwyf wedi gosod fersiwn ddrafft o'r Cod Ymarfer sydd i'w weld yma.
Bydd y Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023 fel bod yn rhaid cyflwyno sWEEE (nid yn unig 'heb eu gwerthu' fel sydd ar hyn o bryd) ar wahân i'w casglu. Effeithiau'r Rheoliadau hyn yw bod yn rhaid i fangre annomestig gyflwyno sWEEE i'w casglu ar wahân; bod y rhai sy'n casglu'r deunyddiau ailgylchadwy penodedig o fangre annomestig ar wahân i ddeunyddiau ailgylchadwy eraill a gwastraff gweddilliol, a bod y deunyddiau ailgylchadwy hynny a gasglwyd ar wahân yn cael eu cadw ar wahân ac nad ydynt yn gymysg. Bydd y gofynion hyn yn cynyddu ymhellach ansawdd a swm deunyddiau ailgylchadwy a gesglir o weithleoedd, a thrwy hynny greu'r cyfle i adnoddau gwerthfawr ac yn aml gyfyngedig gael eu hadfer o'r llif gwastraff hwn a fyddai fel arall yn cael eu colli.
Disgwylir i'r Rheoliadau hyn leihau CO2e 7,437 tunnell, lleihau NO2 6 tunnell a chynyddu ailgylchu 37,757 tunnell dros 10 mlynedd. Bydd y polisi hefyd yn dod â manteision sylweddol ehangach. Mae'r rhain yn cynnwys, er enghraifft, disgwyl creu tua 90 o swyddi newydd yn y sector rheoli gwastraff a gostyngiad disgwyliedig mewn tanau gwastraff a achosir gan fatris lithiwm-ion a geir mewn llawer o eitemau trydanol bach a allai arwain at arbedion ychwanegol eithaf sylweddol.
Y gofyniad sWEEE yw cam diweddaraf y diwygiadau ailgylchu yn y gweithle, sydd wedi'u modelu i ddarparu budd net cronnol o £194.6M o Werth Presennol Net dros 10 mlynedd yn sgil y pecyn cyfunol o fesurau.
Mae ymgyrch gyfathrebu genedlaethol ar y gweill i helpu gweithleoedd i baratoi ar gyfer y newidiadau a bod yn barod i gydymffurfio erbyn 6 Ebrill 2026.
Gellir gweld y Rheoliadau a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig yma. Gellir gweld yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn yma. Mae’r Asesiadau Effaith Integredig ar gael yma.
Mae canllawiau ac adnoddau eraill ar gyfer gweithleoedd a chasglwyr gwastraff ar gael yma: www.llyw.cymru/ailgylchu-yn-y-gweithle a Y Busnes o Ailgylchu Canllawiau ar gyfer holl weithleoedd
Bydd fersiwn derfynol y Cod Ymarfer diwygiedig, sy'n nodi canllawiau ymarferol ar sut i gydymffurfio â'r gofynion gwahanu diwygiedig, yn cael ei chyhoeddi a'i gosod gerbron y Senedd ar ôl gwneud Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) (Diwygio) 2026.
Edrychaf ymlaen at drafod ag Aelodau'r Senedd yn ystod y drafodaeth yn y Cyfarfod Llawn ar y Rheoliadau.
