Neidio i'r prif gynnwy

Vikki Howells, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 25 Tachwedd 2025, rhoddais ddatganiad llafar yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ddyfodol addysg drydyddol yng Nghymru, gan edrych yn ôl ar ein cyflawniadau dros y pum mlynedd diwethaf. Nodais hefyd yr heriau allweddol sy'n wynebu'r sector ynghyd â'm bwriad i gyhoeddi papur tystiolaeth a gwahodd sylwadau gan randdeiliaid i lywio polisi'r llywodraeth yn y dyfodol – Papur Tystiolaeth Cyfranogiad a Chynaliadwyedd mewn Addysg Drydyddol: Datganiad Ysgrifenedig: Lansio'r Papur Tystiolaeth a Galwad am Gynigion.

Rwy'n falch o fod wedi cael ymateb hynod gadarnhaol gan randdeiliaid i'r papur tystiolaeth. Mae adborth cynnar yn dangos bod yr heriau a'r cyfleoedd wedi'u mynegi'n glir ac yn darparu sail ar gyfer trafodaeth onest a gweithredu yn y dyfodol. 

Cyfeiriais hefyd at Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Addysg Drydyddol yr oeddwn wedi'i sefydlu'n ddiweddar, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o’r sector addysg drydyddol, i ddarparu cyngor strategol, gwybodus ac adeiladol ar y cyfleoedd a’r heriau mawr sy'n wynebu system addysg drydyddol Cymru. 

Heddiw rwyf am roi mwy o fanylion i'r Aelodau am ein hymdrechion parhaus i gefnogi a chryfhau'r sector addysg drydyddol ac am y Grŵp Cynghori. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Medr ei adroddiad ar y galw am bynciau, y ddarpariaeth a'r dosbarthiad mewn addysg uwch yng Nghymru. Mae hwn yn adroddiad a gomisiynwyd gennyf i, ac rwy'n falch o glywed ei fod yn cael ei groesawu mor frwd. Mae'n ddarn arall o'r jig-so i wella'r sylfaen dystiolaeth yng Nghymru gan roi cyfle i ddarparwyr a'r llywodraeth wneud penderfyniadau gwybodus. 

Mae'r Grŵp Cynghori yn gweithredu fel fforwm traws-sector, gan ddwyn ynghyd arweinwyr ac arbenigwyr o addysg bellach, addysg uwch, y llywodraeth, ymchwil, partneriaid dinesig a chyrff myfyrwyr i lywio datblygiad polisi ar draws meysydd allweddol o bwys cenedlaethol. Mae ei gylch gwaith yn cynnwys darparu cyngor ar y canlynol:

  • Cyfranogiad ôl-16, gan ganolbwyntio ar fynediad, cadw a dilyniant ar draws addysg bellach, addysg uwch a dysgu seiliedig ar waith
  • Cynaliadwyedd y system addysg drydyddol, gan gynnwys gwytnwch ariannol, ystyriaethau amgylcheddol a sefydlogrwydd sefydliadol
  • Ymchwil ac arloesi, gyda phwyslais ar gydweithio rhwng darparwyr, diwydiant a'r llywodraeth i gefnogi dyfodol economaidd Cymru.

Yng nghyfarfod cyntaf y Grŵp Cynghori ar 21 Tachwedd 2025 gosodwyd naws adeiladol ar gyfer ei raglen waith a chadarnhawyd pwrpas a disgwyliadau'r Grŵp. Ystyriodd yr Aelodau sut i sicrhau mynediad cyfartal a deilliannau llwyddiannus i ddysgwyr o bob cefndir ar draws addysg bellach, addysg uwch a llwybrau dysgu gydol oes. Roedd y pwysau demograffig sy'n dod i'r amlwg ynghyd â chydweithio, sefydlogrwydd ariannol a rôl addysg drydyddol wrth gefnogi uchelgeisiau economaidd hirdymor Cymru yn themâu allweddol. 

Cynhaliwyd ail gyfarfod ddydd Iau 12 Chwefror i drafod yr heriau a nodwyd yn y papur tystiolaeth yn fanylach, gyda ffocws penodol ar yr heriau ar gyfer cyfranogiad, cyfle cyfartal a chynaliadwyedd ariannol. 

Rwy'n ddiolchgar iawn i Aelodau'r Grŵp am gymryd rhan mor gadarnhaol yn y drafodaeth, gan gynnig dealltwriaeth ac arbenigedd amhrisiadwy i'n helpu i gwrdd â'r heriau a'r cyfleoedd yn y blynyddoedd i ddod. 

Bydd y grŵp yn cyfarfod nesaf ar 5 Mawrth 2026.