Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 3 Chwefror 2022, cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig yn tynnu sylw at adroddiad Coleg Brenhinol y Llawfeddygon ar wasanaethau fasgwlaidd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ym mis Mai 2022, cyhoeddais fod y trefniadau ar gyfer ymyriadau wedi'u targedu yn cael eu hymestyn i gynnwys gwasanaethau fasgwlaidd a rhoddais ddatganiad i'r Aelodau ar y cynnydd ym mis Awst 2022.

Pan gyhoeddwyd adroddiad Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, mynegais fy siom a'm pryder ynghylch ei ganfyddiadau. Rwy'n gwybod bod y bobl leol ac Aelodau’r Senedd yn rhannu fy mhryderon ar y pryd ac roeddent am weld camau yn cael eu cymryd i ymateb iddynt, yn ogystal â dyfodol y gwasanaeth ei hun.

Heddiw, mae adroddiad arall, a gomisiynwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi cael ei gyhoeddi gan y Panel Ansawdd Gwasanaethau Fasgwlaidd annibynnol. Cafodd aelodau’r Panel eu dewis i sicrhau bod iddo gynrychiolaeth o’r tu allan a’r tu mewn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; gyda Chadeirydd annibynnol, arbenigwr allanol ar lawfeddygaeth fasgwlaidd, a nyrs fasgwlaidd arbenigol allanol nad yw wedi dod i gysylltiad cyn hyn â’r Bwrdd Iechyd ac nad yw ychwaith erioed wedi gweithio yn GIG Cymru.

Roedd yn nod gan y Panel i fynd ati’n wrthrychol i adolygu nodiadau cleifion, gyda’r bwriad o gyfeirio at y pryderon a nodwyd, yn ogystal ag arferion da. Yr adolygiad o’r pedwar deg saith o achosion oedd yr unig fater a drafodwyd gan y Panel, ac, yng nghyd-destun pob un o’r achosion hynny, ystyriwyd y ddau gwestiwn canlynol:

  • A ydy cofnodion y claf yn cynnwys yr wybodaeth y byddai disgwyl ei gweld ar gyfer cyfnodau gofal y claf
  • A gafodd y cynlluniau dilynol ac ôl-ofal angenrheidiol a phriodol eu rhoi ar waith

Ar y cyfan, mae canfyddiadau'r Panel Ansawdd Gwasanaethau Fasgwlaidd yn gyson â chanfyddiadau adolygiad Coleg Brenhinol y Llawfeddygon. Serch hynny, yng nghyd-destun rhai o’r achosion, roedd y Panel yn ymwybodol o wybodaeth bellach a nodwyd, ac roedd gwybodaeth leol yr aelodau yn golygu bod ganddynt fwy o gyd-destun.

Mae'r adroddiad yn gwneud 27 o argymhellion, mewn perthynas ag effeithiolrwydd llwybrau clinigol; llywodraethu clinigol, gan gynnwys cydsyniad a gwneud penderfyniadau, atebolrwydd, ac, ymarfer proffesiynol; gofal sy'n canolbwyntio ar unigolion; gweithio fel tîm, gan gynnwys y tîm amlddisgyblaethol; rheoli poen gymhleth; gofal lliniarol; addysg a dysgu; rhyddhau cleifion, ac unrhyw gynlluniau dilynol ac ôl-ofal angenrheidiol a phriodol.

Rwy’n llwyr werthfawrogi union faint yr her i'r Bwrdd Iechyd wrth iddynt fynd i'r afael â'r materion hyn. Fodd bynnag, rhaid iddynt roi sicrwydd eu bod yn mynd i’r afael i’r argymhellion yn yr adroddiad hwn, a hynny ar fyrder, neu eu bod eisoes wedi mynd i’r afael â hwy. Rhaid i bobl yn y Gogledd fod yn gwbl dawel eu meddwl fod y Bwrdd Iechyd wedi unioni'r materion a nodwyd, ac wedi gwella llwybrau a chanlyniadau.